'Teyrnasiad digynsail': Rhagor o deyrngedau i'r Frenhines
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau pellach wedi cael eu rhoi o Gymru a thu hwnt yn dilyn marwolaeth Y Frenhines Elizabeth II.
Bu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau yn 96 oed, a hynny yn dilyn teyrnasiad o dros 70 o flynyddoedd.
Ymhlith y rheiny dalodd deyrnged yn dilyn y newyddion oedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a gyfeiriodd at "ymroddiad di-flino ac anhunanol Ei Mawrhydi".
Mae baneri bellach wedi eu hanner-gostwng ar draws Cymru, ac mae llyfrau o deyrnged hefyd wedi eu hagor mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad.
'Presenoldeb parhaus'
Wrth dalu teyrnged fore Gwener ar BBC Radio Cymru dywedodd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones bod "sioc a thristwch" o glywed y newyddion.
"Dwi meddwl fod pawb yn teimlo y sioc hynny oherwydd bod y rhan fwya' ohonon ni wedi byw gyda hi fel Brenhines, hi yw bron yr unig fan cyson sydd yn ein bywydau cyfansoddiadol a chyhoeddus i ni yng Nghymru ac yn y Deyrnas Gyfunol," meddai.
"Mae colli hynna yn rhywfaint o ergyd a shiglad i ni gyd, beth bynnag yw ein barn ni am y frenhiniaeth."
Ychwanegodd y byddai'n edrych yn ôl gyda "balchder" wrth feddwl am ymweliad swyddogol diwethaf y Frenhines â Chymru, i agor y Senedd y llynedd.
"Mae'n gyfansoddiadol bwysig fod pennaeth y wladwriaeth yn agor y senedd ddemocratiadd yng Nghymru, ac fe wnaeth hi hynny gyda gwên ar ei gwyneb, siarad rhyw gymaint o Gymraeg ar y dydd hynny," meddai.
"Roedd yn awyddus i siarad nid yn unig gyda ni y gwleidyddion yna, ond pobl oedd wedi ymgynnull yna ar y diwrnod yna oedd yn cynrychioli nifer o fannau yng Nghymru ac wedi bod yn rhan o'r gwaith o fynd â ni drwy Covid."
Ychwanegodd cyn-Archesgob Caergaint, Rowan Williams, ei bod yn foment hefyd i "ddathlu" ei chyfraniad hir drwy gydol ei hoes.
"Er bod tipyn o alaru yn anochel, dwi'n meddwl bydd llawer o bobl yn synnu cymaint y maen nhw'n teimlo'r peth yn bersonol," meddai.
"Rwy'n credu ei fod yn fywyd sydd wedi rhoi seiliau i ni adeiladu arno, ac mae'n rhaid i ni feddwl hefyd am beth rydyn ni eisiau ei adeiladu."
Wrth siarad ar BBC Radio Cymru fore Gwener dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts bod y wlad wedi colli "ffigwr o barhad" oedd wastad yn arddangos ei "chyfrifoldeb a dyletswydd".
"Roedd hi'n bresenoldeb parhaus ar hyd fy oes i a chyn gymaint o bobl, mae hi wedi sefyll fel ffigwr o sefydlogrwydd mewn byd sy'n newid o'n cwmpas ni," meddai.
Ychwanegodd: "Beth bynnag ydi safiad pobl am y Frenhiniaeth, dwi yn sicr yn mynd i golli'r sefydlogrwydd a'r parhad hynny, ac yn edrych i'r dyfodol a gwybod bod newid ar ddod, ac yn ofni rywfaint bod yr un ffigwr yna wedi mynd o'n byd ni."
'Esiampl i bawb'
"Mae'n anodd cloriannu teyrnasiad mor ryfeddol - teyrnasiad gwbl, gwbl digynsail," meddai is-gadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Dr Tomos Dafydd Davies.
Fe deyrnasodd Ei Mawrhydi, meddai, gydag "urddas a gwên syml ar ei hwyneb, a hynny dwi'n credu sydd yn esbonio'r edmygedd hwnnw ar hyd a lled y genedl a'r Gymanwlad a thu hwnt".
Talodd deyrnged hefyd i'w "synnwyr cryf o ddyletswydd" a'i "hymrwymiad diflino i wasanaeth cyhoeddus".
Wrth gloriannu ei theyrnasiad, dywedodd yr hanesydd Dr Elin Jones mai "dyletswydd, gonestrwydd ac urddas" oedd y geiriau oedd yn dod i'r meddwl.
"Roedd y byd wedi newid o'i chwmpas hi, ond roedd hi dal yn driw i'w hegwyddorion, gydag urddas ac fel 'dyn ni'n deall, gydag hiwmor hefyd," meddai.
Dywedodd cyn-lywydd y Senedd, yr Arglwydd Elis-Thomas, bod y Frenhines â "pherthynas arbennig iawn gyda Chymru".
"Yn gyfansoddiadol roedd hi a'i swyddogion yn gefnogol iawn i ddatblygiad datganoli yma yng Nghymru," meddai.
"Roedd hi a'i theulu bob amser yn barod i dderbyn gwahoddiadau i seremonïau yn y Senedd.
"Tra'n agor y Senedd fe drodd ata'i a dywedodd, 'I really like this'.
"Roedd ganddi ddealltwriaeth lawn o beth roedd yn digwydd yng Nghymru."
Ychwanegodd AS Llafur Llanelli, Nia Griffith, fod Y Frenhines wedi bod yn "esiampl i bawb mewn bywyd cyhoeddus".
"Fi'n credu bod pobl nawr yn teimlo'r golled yn wir, achos maen nhw'n edrych yn ôl a gweld cymaint mae hi wedi ei wneud yn ei bywyd hi, ond hefyd sut mae hi wedi'i wneud e - yn ddynol iawn, yn raslon, a chymryd diddordeb mewn pobl," meddai.
'Ymroddiad diflino'
Dywedodd un o oroeswyr trychineb Aberfan yn 1966, ei fod wedi ei "dristáu'n fawr" gan farwolaeth y Frenhines.
Cafodd 144 o bobl eu lladd, gan gynnwys 116 o blant, pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu Ysgol Gynradd Pantglas a 18 o dai.
Wedi ymweld ag Aberfan wyth niwrnod wedi'r trychineb, dywedodd Jeff Edwards bod y Frenhines wedi dangos "cymaint o gefnogaeth i bobl Aberfan".
"Dangosodd dosturi a phryder mawr ac roedd ganddi wir ddiddordeb yn adfywiad y gymuned dros nifer o flynyddoedd," meddai.
Bu i Mr Edwards, sef y plentyn olaf a dynnwyd o rwbel y trychineb, gwrdd â'r Frenhines sawl gwaith.
"Rwy'n drist i golli brenhines mor wych. Mae'n ofidus iawn - roedd ganddi dosturi mawr a diddordeb gwirioneddol yn y gymuned," ychwanegodd.
Bu unigolion a sefydliadau eraill ar draws Cymru a thu hwnt hefyd yn talu teyrnged iddi yn dilyn ei marwolaeth ddydd Iau.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Y Cenhedloedd Unedig, Antonio Gutteres: "Rwy'n drist iawn o glywed am farwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II, oedd yn cael ei hedmygu ledled y byd am ei harweiniad a'i hymroddiad.
"Bydd ei hymroddiad diflino drwy gydol ei bywyd yn cael ei gofio am hir."
Fe ddywedodd y canwr Syr Tom Jones fod y Frenhines wedi bod yn "bresenoldeb ac ysbrydoliaeth cyson drwy gydol fy mywyd".
"Roedd hi'n rhywun oedd yn gysur mewn adegau anodd, roedd ei hymroddiad yn berffaith a'i hymrwymiad i'w dyletswydd heb ei ail.
"Rwy'n falch eithriadol o fod wedi bod yn dyst i'w theyrnasiad. Fy nghydymdeimladau dwysaf i'r Teulu Brenhinol, ac rwy'n dweud yn ddiolchgar, hir oes i'r Brenin."
'Atgofion cynnes'
Dywedodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru eu bod yn "ymestyn eu cydymdeimladau dwysaf i'r Teulu Brenhinol".
"Fe wnaeth hi ymroi ei bywyd yn llwyr i'r rôl, a bydd yn cael ei chofio fel un a wasanaethodd yn ffyddlon a diflino," meddai neges ar y cyfyngau cymdeithasol.
Ychwanegodd Mencap Cymru: "Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II, a'n cydymdeimlad diffuant â'r Teulu Brenhinol gan gynnwys ein Noddwr, Ei Huchelder Brenhinol Sophie, Iarlles Wessex.
"Bydd ymrwymiad y Frenhines i helpu'r rhai mewn angen yn cael ei gofio am byth."
Mae Mary Davies yn berchennog corgis o Rydaman, ac ar un achlysur fe roddodd un o'i chŵn i'r Frenhines er mwyn bridio gyda'i rhai hi.
"Bydd gen i atgofion cynnes a hoffus tu hwnt o'r Frenhines," meddai. "Fe wnes i ei chyfarfod hi ambell waith ac roedd hi'n gwybod lot fawr am gorgis a'r brid.
"Daeth corgis yn fwy poblogaidd oherwydd eu bod nhw ganddi hi. Pan oeddwn i'n blentyn, dyna pam oedd gennym ni gorgi yn y cartref, oherwydd y Frenhines."
Wrth adlewyrchu ar y cyhoeddiad ddydd Iau, dywedodd yr hanesydd Hefin Mathias ei bod hi'n bosib dweud mai dyna oedd y "diwrnod pwysicaf yn hanes Prydain ers 1952", pan ddaeth Elizabeth II i'r orsedd.
"Yr hyn mae'r Frenhines wedi ei wneud yw cynnal y dilyniant hanesyddol o'r gorffennol i'r presennol," meddai.
Ychwanegodd ei bod wedi llwyddo i lywio'r Teulu Brenhinol drwy newidiadau gwleidyddol a chymdeithasol sylweddol ym Mhrydain yn ystod ei 70 mlynedd o deyrnasiad.
"Mae llwyddiant Y Frenhines i addasu'r sefydliad i gwrdd â'r cyfnod tymhestlog sydd wedi bod yn hanes Prydain ers 1952 yn rhywbeth i'w ryfeddu ato fe, achos mi allai'r Frenhiniaeth, gan gofio ei bod hi'n sefydliad gwbl anacronistig, fod wedi methu," meddai.
"Erbyn hyn mae'r sefydliad yn sicr yn gryfach nag oedd e yn y gorffennol."
'Arweiniad cadarn'
Fel noddwr y Sioe Frenhinol bu i'r Frenhines ymweld â phrif ddigwyddiad y calendr amaethyddol yng Nghymru ar sawl achlysur.
Wedi ymweld am y tro cyntaf yn 1947, pan gynhaliwyd y sioe yng Nghaerfyrddin, y tro diwethaf iddi gael ei chroesawu i'r maes yn Llanelwedd oedd 2004.
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Steve Hughson: "Rwy'n anfon fy nghydymdeimlad dwysaf i aelodau'r Teulu Brenhinol ar yr adeg anodd hon.
"Mae'r Frenhines wedi darparu cefnogaeth ac arweiniad cadarn i'n gwlad ac eraill ledled y byd, ac rwy'n ffodus fy mod wedi profi ei chwilfrydedd, ei hiwmor, a'i synnwyr dwfn o ddyletswydd yn uniongyrchol.
"Mae'r rhain yn atgofion na fydd byth yn fy ngadael."
Ychwanegodd yr Athro Wynne Jones, o fwrdd y sioe: "Rydym yn cydymdeimlo â'r Brenin Charles a'r teulu brenhinol cyfan ac yn dymuno cofnodi ein diolch i'r Frenhines am ei diddordeb mewn materion gwledig a'i chefnogaeth i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022