Pryder am achosion pellach o ffliw adar yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae ail achos o ffliw adar wedi cael ei gadarnhau yng Nghymru o fewn wythnos - a phryder bod achosion pellach hefyd.
Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Christianne Glossop fod achos H5N1 ei ganfod ar "safle mawr yn Sir Benfro", a bellach mae Parth Gwarchod 3km a Pharth Goruchwylio 10km wedi eu datgan o gwmpas y safle.
Roedd achos eisoes wedi cael ei gadarnhau yn ardal Arthog, Gwynedd ddydd Mawrth.
Mae hynny'n golygu bod cyfyngiadau ar symud adar o gwmpas yr ardaloedd hynny, ac mae perchnogion dofednod wedi cael eu rhybuddio i "fod yn wyliadwrus".
Ond mae asiantaethau iechyd y DU yn dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd o'r feirws "yn isel iawn".
Mae asiantaethau safonau bwyd hefyd yn dweud bod ffliw adar yn peri "risg isel iawn i ddefnyddwyr" o ran diogelwch bwyd.
Llynedd fe welodd y Deyrnas Unedig ei haint waethaf erioed o ffliw adar, gyda chyfyngiadau'n cael eu rhoi mewn lle am dros chwe mis cyn cael eu llacio ym mis Mai eleni.
Cyngor i bwyllo yng Ngheredigion
Erbyn bore Sul roedd yna rybudd i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus yn sgil adroddiadau bod adar môr marw'n cael eu golchi i'r lan ar draethau yng Ngheredigion.
Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion bod hi'n "debygol iawn bod yr adar hyn wedi cael eu heintio â'r ffliw adar sydd wedi ei gadarnhau yng nghytrefi adar môr yn Sir Benfro".
Mae'r awdurdod yn apelio ar y cyhoedd i "gymryd pwyll mawr i osgoi'r risg o ledu'r feirws yma", gan fynegi pryder ynghylch yr "effaith bosib ar ein bywyd gwyllt a'n diwydiant dofednod".
Mae posteri gwybodaeth yn cael eu gosod mewn mannau perthnasol, ac mae'r cyngor i'r cyhoedd yn cynnwys:
Glynu wrth lwybrau troed;
Cadw cŵn ar dennyn;
Peidio bwydo adar dŵr gwyllt;
Peidio codi neu gyffwrdd adar gwyllt sy'n farw neu'n wael;
Peidio cyffwrdd plu adar gwyllt neu unrhyw arwynebeddau â charthion yr adar.
Mae gofyn i bobl sy'n cadw dofednod neu unrhyw fath arall o aderyn i olchi eu dwylo ac olchi a diheintio esgidiau cyn trin eu hadar.
Ar ben hynny mae gofyn i bobl gysylltu â Defra pe baen nhw'n dod ar draws adar môr ac adar gwyllt marw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2022