Cyhoeddiad Tywysog Cymru 'wedi creu trafodaeth a rhaniadau'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd y Senedd wedi cydnabod bod y cyhoeddiad o Dywysog Cymru newydd wedi "creu trafodaeth a rhywfaint o raniadau".
Ddydd Gwener, yn ei araith gyntaf ers dod yn Frenin yn dilyn marwolaeth Y Frenhines Elizabeth II, fe gyhoeddodd Charles III y byddai ei fab William yn ei olynu yn y rôl.
Mewn galwad ffôn gyda Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ddydd Sul dywedodd y Tywysog William ei bod hi'n "fraint" cael ei enwi'n Dywysog Cymru, ac y byddai'n gwneud hynny gyda "gwyleidd-dra a pharch mawr".
Mae Mr Drakeford eisoes ymhlith y rheiny sydd wedi croesawu'r Tywysog Cymru newydd i'r rôl, gan ddweud ei fod yn "edrych ymlaen at fagu perthynas ddyfnach gyda'r Tywysog a'r Dywysoges newydd".
'Croeso cynnes'
Dywedodd Kensington Palace mewn datganiad fod Tywysog Cymru wedi siarad â Mr Drakeford yn gynharach yn y dydd, gan ddiolch iddo am ei deyrnged i'r diweddar Frenhines.
Ychwanegodd y datganiad fod y Tywysog wedi "cydnabod ei hoffter dwfn" ef a'r Dywysoges Catherine o Gymru, ble buon nhw'n byw am gyfnod ar Ynys Môn pan oedd yn yr Awyrlu.
"Fe fydd y Tywysog a'r Dywysoges yn treulio'r misoedd a blynyddoedd nesaf yn dyfnhau eu perthynas gyda chymunedau ar draws Cymru."
Fe aeth y datganiad ymlaen i ddweud eu bod am "ddathlu hanes a thraddodiadau balch Cymru yn ogystal â dyfodol llawn addewid", ac y byddan nhw'n teithio i Gymru'n fuan.
"Fe fyddan nhw'n ceisio efelychu'r cyfraniad balch mae aelodau o'r Teulu Brenhinol wedi ei wneud mewn blynyddoedd a fu."
Mae'r traddodiad o roi teitl Tywysog Cymru i fab hynaf y Brenin neu'r Frenhines yn un sy'n dyddio yn ôl canrifoedd, ers i'r tywysog Cymreig olaf Llywelyn ap Gruffudd gael ei ladd yn 1282.
Y Tywysog Charles oedd y person fu'n gwasanaethu yn y rôl am y cyfnod hiraf erioed, ac yn ystod yr amser hwnnw fe fagodd berthynas â nifer o sefydliadau ac elusennau ar draws Cymru.
Cafodd y cyhoeddiad mai'r Tywysog William fyddai'r Tywysog Cymru nesaf ei wneud y diwrnod wedi marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, wrth i Charles III annerch y genedl am y tro cyntaf fel Brenin.
Yn dilyn hynny fe ddywedodd Mark Drakeford mewn neges ar Twitter: "Roedd gan y Brenin Charles III gyfeillgarwch hir a chadarn gyda Chymru.
"Heddiw yn ei ddyletswydd cyhoeddus cyntaf fel Brenin, mae wedi rhoi'r teitl Tywysog Cymru i'w fab hynaf William.
"Rydym yn edrych ymlaen at fagu perthynas ddyfnach gyda'r Tywysog a'r Dywysoges newydd."
Ymhlith rhai o'r ffigyrau cyhoeddus eraill fynegodd groeso i'r cyhoeddiad oedd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, a ddywedodd fod araith Charles III yn un "ddwys a gwefreiddiol".
"Ymunwn ag ef wrth ddiolch i'w Mawrhydi Diweddar. Ac rydym yn croesawu'r Tywysog a Thywysoges Cymru newydd. Duw Gadwo'r Brenin."
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland ei fod yn estyn "croeso cynnes" i William a'i wraig Catherine, gan gydnabod "gwasanaeth hir a ddiflino" Charles yn y rôl ers 1958.
'Creu trafodaeth'
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad ar y pryd, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price y byddai "cyfle, maes o law, am drafodaeth gyhoeddus ynghylch Tywysog Cymru".
Mae dros 15,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar deitl Tywysog Cymru i gael ei ddiddymu.
Ond fe wnaeth arolwg barn yn 2018 i ITV ganfod bod 57% o bobl Cymru'n credu y dylai William gael teitl Tywysog Cymru pe byddai Charles yn dod yn Frenin, tra bod 22% yn credu y dylai'r teitl gael ei ddiddymu.
Mae'r ffigyrau'n ategu canfyddiadau arolwg gan y BBC yn 2009, gyda 58% o bobl yn dweud y dylai Tywysog Cymru newydd fod wedi i Charles esgyn i'r orsedd.
Yn siarad ar BBC Radio Wales fore Sul, dywedodd Llywydd y Senedd Elin Jones nad oedd hi'n ymwybodol fod y cyhoeddiad yn mynd i gael ei wneud.
"Ei deitl ef [Charles] yw e i roi, wrth gwrs, ac mae'n bwysig cofio nad yw hon yn rôl gyfansoddiadol, does dim rheidrwydd i gael Tywysog Cymru," meddai.
"Mae'n bwnc sy'n creu trafodaeth a rhywfaint o raniadau yng Nghymru fel 'dyn ni'n gwybod, os fi'n edrych ar fy nghyfryngau cymdeithasol fi'n gallu gweld y drafodaeth fywiog mae'r cyhoeddiad wedi ei achosi.
"Yn bersonol doeddwn i ddim yn disgwyl i'r drafodaeth yna fod yn digwydd yn ystod y cyfnod o alaru."
Er bod y pwnc yn "rhannu barn" yng Nghymru, meddai, dywedodd nad oedd hi am fynegi safbwynt "ar hyn o bryd" tra bod ganddi "rôl gyfansoddiadol i'w chwarae fel Llywydd".
"Falle y bydda i yn y dyfodol, ond rwy'n ofalus iawn bod fy ngeiriau i ddim yn tynnu sylw oddi wrth difrifoldeb y trefniadau y byddai'n eu cadeirio y prynhawn yma."
Arwisgiad arall?
Wrth siarad ar BBC Radio Cymru, awgrymodd yr Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd y byddai'r Teulu Brenhinol o bosib yn osgoi arwisgiad tebyg i un y Tywysog Charles yng Nghaernarfon yn 1969, er mwyn lleihau'r risg o brotestiadau.
"Traddodiad gwneud ydy'r arwisgo, ond mae'r traddodiad o alw'r mab hynaf yn Dywysog Cymru'n mynd yn ôl," meddai.
"Ond cyn y Brenin Charles bellach, doedd 'na ddim llawer o ymdrech i ddweud bod hyn yn golygu unrhyw beth i Gymru, jyst y mab hynaf ydy o.
"Dwi'm yn meddwl y gwelwn ni arwisgo yn yr un ffordd, dwi'm yn meddwl y gwelwn ni'r ymdrech yma i awgrymu bod 'na ryw berthynas arbennig efo Cymru. Math gwahanol o Dywysog Cymru [welwn ni] a mynd yn ôl i'r hen drefn cyn Charles."
Fe wnaeth y Frenhines Elizabeth II aros blynyddoedd tan cyhoeddi y byddai ei mab Charles yn dod yn Dywysog Cymru, ac mae'r Athro Jones yn teimlo bod rhuthro'r cyhoeddiad y tro hwn yn "gam gwag".
"I'r Teulu Brenhinol mae urddas yn bwysig," meddai.
"'Dyn nhw ddim isio protestiadau, 'dyn nhw ddim isio unrhyw fath o wrthwynebiad, ac mae'r teitl Tywysog Cymru i lawer iawn o bobl yn farc o orthrwm, marc o goncwest, ac felly dwi'n synnu eu bod nhw wedi gwneud hyn."
'Rhoi ei galon i'r gwaith'
Ddydd Sul cafwyd seremonïau proclamasiwn mewn sawl lleoliad yng Nghymru i ddatgan Charles III yn Frenin, gan gynnwys yng Nghastell Caernarfon - lleoliad ei arwisgiad fel Tywysog Cymru yn 1969.
Wrth siarad yn dilyn y seremoni dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley, cyn-arweinydd Plaid Cymru nad dyma oedd yr amser i "ddadlau a ffraeo" am roi'r teitl neu beidio.
"Roedd y datganiad yn un fyddai wedi dod ar ryw bwynt, a phan mae'r amser yn briodol fe allwn ni drafod rhai materion eraill ynglŷn â hyn," meddai.
Ychwanegodd: "Yn sicr bydd 'na drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru fyswn i'n tybio ynglŷn â'r camau nesaf, a dwi'n gobeithio y bydd y Tywysog Cymru newydd yn gallu rhoi ei galon i'r gwaith a gwneud be' y gallith o dros Gymru," meddai.
"Ac fel rhan o hynny, yn dysgu mwy am ein hiaith a'n traddodiadau ni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022