Tony Paris, un o Dri Caerdydd, wedi marw yn 65
- Cyhoeddwyd
Mae Tony Paris, un o'r tri a gafodd eu cyhuddo ar gam o lofruddio Lynette White yn nociau'r brifddinas yn 1988, wedi marw yn 65 oed.
Cafodd Mr Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller - sy'n cael eu hadnabod fel Tri Caerdydd - eu carcharu ar gam yn 1990, cyn cael eu rhyddhau ar ôl achos yn y Llys Apêl yn 1992.
Cafwyd y llofrudd go iawn, Jeffrey Gafoor, yn euog yn 2003.
Mae'n cael ei ystyried fel un o'r achosion mwyaf difrifol o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes cyfreithiol y DU.
Fe wnaeth yr ymgyrch dros gyfiawnder i Dri Caerdydd ennyn cefnogaeth yn rhyngwladol.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd merch Tony Paris y byddai'n "parhau i godi ymwybyddiaeth a brwydro dros gyfiawnder".
Cafwyd wyth cyn-swyddog gyda Heddlu De Cymru yn ddieuog pan ddaeth yr achos gwyrdroi cwrs cyfiawnder i ben yn ddisymwth oherwydd "camgymeriadau dynol".
Y llynedd, dywedodd uwch heddwas gyda Heddlu De Cymru y dylai'r dynion "gael eu cydnabod fel dioddefwyr".
Dywedodd y cyn-brif gwnstabl, Matt Jukes, ei fod yn "ymddiheuro am yr effaith ar eu bywydau".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2021
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2017