Torfeydd yn cyfarch Brenin Charles III yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llandaf wedi arfer ag ymweliadau brenhinol, ond wrth i'r Brenin ymweld am y tro cyntaf, mae 'na deimlad gwahanol.
Ers dechrau'r wythnos mae'r Gadeirlan wedi bod ynghau, a chriwiau technegol wedi dechrau rigio yn barod i ddarlledu lluniau ar draws y byd.
Dyma fydd cyrchfan cyntaf y Brenin Charles III a'i Frenhines Gydweddog yng Nghymru yn eu rôl newydd.
Yn dilyn gwasanaeth coffa yng Nghadeirlan Llandaf, bydd y cwpl brenhinol yn teithio i'r Senedd lle bydd cynnig o gydymdeimlad yn cael ei roi.
Ar ôl teithio drwy'r ddinas, bydd y ddau wedyn yn cael eu croesawu i Gastell Caerdydd lle byddan nhw'n cwrdd â'r Prif Weinidog a'r Llywydd, a nifer o elusennau.
Cyn iddi wawrio hyd yn oed, roedd 'na bobl wedi dechrau cyrraedd Cadeirlan Llandaf wrth edrych ymlaen i groesawu'r Brenin.
Yn eu plith, roedd Jenny, Karen, Jude a Lynda o Gaerdydd a Phenarth.
Fe gyrhaeddodd Jenny a Jude am 03:30 y bore gyda Lynda a Karen yn cyrraedd am 05:00.
"Dwi eisiau talu teyrnged i'r diweddar Frenhines. Mae'n teimlo fel y peth iawn i'w wneud," dywedodd Jude.
Trafferth i drigolion
Ond mae rhai cwynion wedi bod yn lleol hefyd am sut mae'r cyngor wedi delio â'r paratoadau ger y castell, ac o ran yr effaith ar drigolion Llandaf.
Wedi i strydoedd cul Llandaf gael eu cau yn sydyn, daeth cwynion gan rai am ddiffyg ystyriaeth o fywydau'r trigolion.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae un o'r trigolion lleol, Glenys Morris yn cytuno bod y paratoadau wedi amharu arni hi a'i chymdogion.
"Echdoe roedd 'na fan fawr deledu yn dod i fyny, a lori Spar yn trio mynd i lawr - mae tipyn o drafferth wedi bod," meddai.
Fydd hi ddim yn un o'r rhai ar y strydoedd i groesawu'r Brenin, ond mae'n dweud y bydd yn amser arbennig i'r bobl leol.
"Dwi'n byw rownd y gornel ond dwi ddim yn meddwl ddo'i allan. Dwi 'di gweld o'n barod yn y ffair fwyd yn Llambed rai blynyddoedd yn ôl.
"Ond dwi'n meddwl bydd pobl o bob man yn dod i'w weld o."
Tristwch a chroeso
Mae Cyngor Caerdydd wedi cydnabod bod cau'r strydoedd wedi bod yn anffodus, ond bod angen i gerbydau darlledu mawr gael mynediad i'r gadeirlan.
I Mairwen Large, un o fyfyrwyr y coleg diwinyddol yn Llandaf, bydd yn achlysur i'w gofio.
"Ry'n ni'n teimlo'n reit gyffrous," meddai.
"Mae'r Frenhines wedi bod yn arweinydd gwych i ni fel Cristnogion, ac ry'n ni'n edrych 'mlaen i'w weld e nawr yn dod i Gymru am y tro cyntaf ers ei fod e'n Frenin."
Yn y Senedd yng Nghaerdydd mae criwiau heddlu arbenigol wedi bod yn archwilio'r safle, a gweithwyr yr adeilad yn paratoi am seremoni arbennig yng nghwmni'r Brenin. Dyma gyfle i roi cynnig o gydymdeimlad gerbron y Senedd.
Y tro diwethaf i'r Brenin ymweld â'r adeilad oedd adeg yr agoriad swyddogol ym mis Hydref 2021. Bryd hynny roedd yn hebrwng ei fam.
Yn ôl un o swyddogion ymgysylltu'r Senedd, bydd yr achlysur hwn gryn dipyn yn fwy trist.
"Ges i'r fraint o weithio'r diwrnod yna ac ro'n i'n falch i fod yn rhan o'r diwrnod," meddai Hannah Tanhai.
"Ond wrth gwrs tro hyn bydd yn ddiwrnod llawn tristwch, ac yn ddiwrnod i groesawu'r Brenin i Gymru a'r Senedd."
Tra bod glanhawyr yn sgleinio'r grisiau tu fewn i'r Senedd, a gweithiwr yn golchi'r grisiau tu allan, mae Hannah yn egluro'r holl waith paratoi ar gyfer achlysur mor fawr.
"Ry'n ni'n paratoi ar gyfer seremoni fer fydd yn digwydd gyda'r byrllysg yn cael ei gario gan Shehzad Khan [aelod o dîm diogelwch y Senedd]," meddai.
"Mae pethau i'w sortio fel y siwt, sortio'r 'sgidiau a phethau fel trefnu'r blodau, a sicrhau bod y carped coch yn barod ac yn lân.
"Ry'n ni'n gorfod trefnu lle fydd y plant yn sefyll. Ry'n ni wedi gorfod clirio'r neuadd er mwyn gwneud lle ar gyfer popeth.
"Bydd yn cael ei weld ar draws y byd... mae diogelwch hefyd yn bwysig tu hwnt."
Yng nghanol Caerdydd mae'r castell wedi bod ar gau ers dyddiau, a'r siopau a busnesau ar hyd Heol Santes Fair wedi cael gwybod y bydd y Brenin yn teithio heibio ar ei ffordd i'r Senedd.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, y Senedd a chanol y ddinas fydd y cyfle gorau i gael cip o'r Brenin, yn hytrach na Llandaf ble mae llai o le.
Maen nhw'n annog unrhyw un sy'n teithio i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a gadael digon o amser ar gyfer eu taith, gan y bydd nifer o strydoedd canol y ddinas wedi eu cau.
'Ffigwr hanesyddol'
Yn y siop anrhegion gyferbyn â'r castell does dim baner Jac yr Undeb ar werth fel arfer, ond maen nhw wedi archebu stoc newydd ar gyfer yr achlysur.
Yn ôl Charlotte Rice-Ward sy'n gweithio yno, mae teimlad o gyffro mawr.
"Fi'n meddwl bydd lot o bobl yn dod i'w weld e," meddai.
"Mae pobl yn gofyn a oes pethau wedi cael eu gwneud gyda'r Brenin newydd er mwyn iddyn nhw brynu.
"Mae'n gyffrous iawn a dwi'n edrych 'mlaen i'w weld e."
Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod yn disgwyl llawer mwy o ymwelwyr nac ar ddiwrnod y proclamasiwn ar 11 Medi, pan oedd 2,000 o bobl yn y castell a tua 700 ar y strydoedd y tu allan.
Ond nid pawb fydd yn heidio i weld y Brenin. Mae Deio Owen, myfyriwr yn y brifddinas, yn dweud y bydd yn osgoi'r canol adeg yr ymweliad.
"Yndi, mae'n drist bod y Frenhines wedi marw, roedd hi'n ffigwr hanesyddol," meddai.
"Mae pawb yn teimlo bechod, ond dwi ddim yn meddwl mai dyma'r amser i bobl yng Nghymru gyda'r sefyllfa wleidyddol ac economaidd, i ddod a jyst chwifio baneri.
"Dwi'n meddwl bod yr ymateb wedi bod yn hurt a dros ben llestri."
Mae Cyngor y Brifddinas wedi rhybuddio y gall fod oedi ar y ffyrdd o gwmpas Caerdydd ddydd Gwener, gan annog unrhyw un sy'n teithio i weld y brenin i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022
- Cyhoeddwyd15 Medi 2022