Teitl Tywysog Cymru: Braint neu gywilydd?
- Cyhoeddwyd
Wedi i'r cyfnod galaru swyddogol am y Frenhines Elizabeth II ddirwyn i ben ddydd Llun, heb os, bydd trafodaethau ar ddyfodol y frenhiniaeth yng Nghymru.
Ddydd Gwener yn y Senedd dywedodd Brenin Charles III bod gan ei fab, William, Tywysog newydd Cymru "gariad mawr at Gymru".
Mae rhai wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd y Tywysog William a'r Dywysoges Catherine yn dod yn Dywysog a Thywysoges newydd Cymru. Ond mae penderfyniad Brenin Charles III wedi ysgogi eraill i alw am roi'r gorau i ddefnyddio'r teitl.
Mae dros 29,000 o bobl bellach wedi arwyddo deiseb yn galw ar i'r teitlau gael eu diddymu.
Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau bod y teitlau yn symbol o orthrwm Lloegr a'u bod yn sarhad ar Gymru.
Mae'r rhai sy'n croesawu'r cam yn dweud bod gan y Tywysog William a'r Dywysoges Catherine berthynas agos gyda Chymru ac fe fydd y ddau yn llysgenhadon teilwng.
Dywedodd y Tywysog William y byddai yn gwasanaethu Cymru gyda phob gostyngeiddrwydd a pharch mawr.
Trystan Gruffydd, 25, o Bontypridd ddechreuodd y ddeiseb.
Dywedodd bod y teitl Tywysog Cymru wedi ei ddefnyddio ers y 13eg Ganrif gan nifer cyfyngedig o ddynion o Loegr "sydd heb gysylltiad gwirioneddol gyda'n gwlad".
Ychwanegodd bod y teitl yn cael ei ddefnyddio fel "symbol o oruchafiaeth".
"Rwy'n gwerthfawrogi bod Charles yn ceisio gwneud y peth iawn trwy gyflawni ei ddyletswydd, ond ar yr un pryd mae e'n llwyr ymwybodol o rôl symbolaidd y teitl a'i hanes," meddai.
"Mae e'n gwybod fod y teitl yn un hynod ddadleuol yma yng Nghymru."
Beth yw'r hanes tu ôl i'r teitl?
Mae enwi etifedd y goron yn Dywysog Cymru yn draddodiad sydd yn mynd yn ôl canrifoedd - ond un sydd â hanes gwaedlyd.
Llywelyn ap Gruffydd (neu Llywelyn ein Llyw Olaf) oedd tywysog olaf Cymru annibynnol cyn concwest Lloegr.
Cafodd Llywelyn ei ladd mewn brwydr ger afon Irfon ym Mhowys ar 11 Rhagfyr 1282.
Dechreuodd y traddodiad o ddefnyddio'r teitl pan benderfynodd y Brenin Edward I urddo ei fab yn Dywysog Cymru yn 1301.
Ganrif yn ddiweddarach dechreuodd Owain Glyndŵr wrthryfel yn erbyn teyrnasiad y Brenin Harri IV a hawlio teil Tywysog Cymru, tan i Gymru gael ei gorchfygu unwaith eto gan y Saeson.
Croeso i'r Tywysog newydd
Dyw'r hanes ddim yn bwysig i rai fodd bynnag, fel Marco Zeraschi, perchennog caffi Marco's yn y Barri.
Fe groesawodd y Tywysog William a'r Dywysoges Catherine ym mis Awst 2020, ac roedd wrth ei fodd pan gafodd y cyhoeddiad ei wneud y byddai'r ddau yn dod yn Dywysog a Thywysoges Cymru.
"O'r holl bobl sydd wedi ymweld â'r caffi fe alla' i ddweud yn onest mai nhw yw'r bobl fwyaf diffuant, gofalgar a hyfryd 'dwi 'rioed wedi eu cyfarfod," meddai.
"Mae hanes yn gallu bod yn ffon ddwybig," ychwanegodd. "Mae gan bawb yr hawl i'w farn - dyna yw fy safbwynt i a dwi'n hapus gydag e."
'Dod â phethau da i Gymru'
Mae fferm Gary Yeomans yn Y Fenni yn cynhyrchu llaeth geifr. Fe ddaeth y Tywysog William a'r Dywysoges Catherine ar ymweliad yno ym mis Mawrth.
Ugain mlynedd ynghynt daeth Tywysog Cymru yno, sydd nawr yn Frenin Charles III.
"Pan roedd Charles yn Dywysog Cymru fe weithiodd e'n galed i hyrwyddo Cymru. Fe fydd William a Kate yn gwneud gwaith ardderchog hefyd," meddai.
"Galla' i ddeall bod pobl wrth-frenhinol sydd ddim yn meddwl y dylen nhw gael eu gorfodi arnom ni, ond dwi'n credu na allen nhw ond dod â phethau da i Gymru a helpu i'n hyrwyddo ni o fewn y DU ac ar lwyfan y byd."
Cyfeiriodd Gary Yeomans hefyd at gysylltiadau'r cwpl gyda Chymru. Fe fu'r ddau yn byw ar Ynys Môn rhwng 2011 a 2013, pan oedd William yn beilot gyda thîm achub y llu awyr yn Y Fali.
Mae'r tywysog hefyd yn noddwr Undeb Rygbi Cymru.
Awgrymodd arolwg barn o 1,000 o bobl yn 2018 gan YouGov ar gyfer ITV bod 57% yn credu y dylai'r Tywysog William gael y teitl Tywysog Cymru petai'r Tywysog Charles yn dod yn Frenin, tra bod 22% yn credu y dylai'r teitl gael ei ddiddymu.
Mae'r ffigyrau yn debyg i ganfyddiadau arolwg barn gan y BBC yn 2009. O blith ychydig o dan 1,000 o bobl a holwyd, roedd 58% ohonyn nhw'n credu y dylai bod yna Dywysog Cymru ar ôl i Charles olynu ei fam, Y Frenhines Elizabeth II.
'Democratiaeth go iawn'
O safbwynt Bethan Sayed, cyn-aelod Plaid Cymru yn Y Senedd, mae'r mater yn ehangach na'r defnydd o'r teitl Tywysog Cymru.
"Mae e am beth ry'n ni am weld Cymru i fod yn y dyfodol," meddai.
"I bobl fel fi, ry'n ni yn credu mewn Cymru ble ry'n ni'n rhydd o deulu brenhinol. Fe ddylem ni gael democratiaeth go iawn sydd ddim yn cynnwys teulu gafodd eu geni i fraint a grym."
'Dim lle yn y Gymru fodern'
Mae Talat Chaudhri, cadeirydd Melin Drafod, sy'n cynnwys nifer o grwpiau sydd o blaid annibyniaeth i Gymru, yn dweud bod trafod y mater yn ystod cyfnod o alar wedi ei gwneud hi'n anodd i weriniaethwyr gael trafodaeth ystyrlon.
"Fe fyddai hi wedi bod yn well ac yn fwy parchus o deimladau eraill i drafod hyn ar ryw adeg arall," meddai.
Ond dyw e ddim yn credu bod gan y teitl Tywysog Cymru le yn y Gymru fodern.
Dywedodd bod y teitl yn "achosi rhaniadau ac yn ddadleuol, ac mae'n gosod pobl Cymru yn erbyn ei gilydd".
Ychwanegodd bod y teitl wedi ei orfodi ar Gymru heb gydsyniad democrataidd.
"Dyw e ddim am unigolion yn y teulu brenhinol," meddai. "Ond mae e am degwch a chydraddoldeb o fewn sefydliadau cenedlaethol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2022
- Cyhoeddwyd13 Medi 2022
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022