Drakeford: Angen i Dywysog Cymru 'ddeall blaenoriaethau' pobl
- Cyhoeddwyd
Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi dweud bod angen i Dywysog Cymru "ddeall blaenoriaethau pobl" gan fod "agweddau wedi newid".
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Mr Drakeford "nad oedd yn gwybod ddim byd" y byddai tywysog newydd i Gymru tan i'r Brenin Charles III ddweud ar y teledu nos Wener y byddai ei fab William yn ei olynu yn y rôl.
Er i'r cyhoeddiad greu "rhywfaint o raniadau" meddai Llywydd y Senedd, mae Mr Drakeford wedi croesawu'r cyhoeddiad.
Ond dywedodd na ddylai unrhyw benderfyniad am seremoni arwisgo gael ei wneud "ar hast" gan fod "angen amser i feddwl".
Mewn sgwrs ffôn, dywedodd Mr Drakeford fod y Tywysog William yn "siarad lot am y profiadau oedd e a'r teulu wedi cael lan yn Ynys Môn" a'i fod yn "edrych ymlaen i wasanaethu yng Nghymru".
Ond fe bwysleisiodd y prif weinidog bod angen i Dywysog Cymru "ddeall blaenoriaethau" pobl.
"Ges i gyfle i gael sgwrs fore ddoe [dydd Sul] gyda'r Tywysog William, oedd e just isie' cael sgwrs fach pan mae'n dechrau ar y daith newydd fel Tywysog Cymru.
"Wrth gwrs yn yr wythnos hon mae popeth yn digwydd ar hast, mae'n angenrheidiol, ond mae lot o bethe' sy'n mynd i ddigwydd nawr ar ôl yr angladd ddydd Llun nesaf a bydd mwy o amser i feddwl am y ffordd orau i wneud pethe."
Dywedodd Mr Drakeford na chafodd gyfle i siarad am seremoni arwisgo yn ystod y sgwrs ffôn, gan ddweud "nad oes hast" am hynny.
Fe soniodd y bydd cyfleoedd i'r Tywysog William ddod i Gymru.
"Fel wedodd e i fi, dysgu mwy am flaenoriaethau i bobl Cymru a gweld ble allai e 'neud gwahaniaeth.
"Does dim hast i wneud dim byd arall dwi ddim yn meddwl."
'Cymryd amser'
Cafodd seremoni ei chynnal i wisgo Charles yng Nghaernarfon yn 1969.
Ychwanegodd Mr Drakeford ei fod "yn meddwl" bod y teulu brenhinol yn sensitif i deimladau rhanedig yng Nghymru am seremoni arwisgo.
"Dwi'n siwr maen nhw'n gwybod mae Cymru yn 2022 ddim fel o'dd Cymru yn 1969, mae lot o bethe wedi newid, mae agweddau wedi newid hefyd.
"Dyna pam dwi'n meddwl y ffordd gorau yw nid i fynd yn gyflym i 'neud pethe' eraill ond i gymryd amser."
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ddydd Llun dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, ei fod wedi ysgrifennu at Mr Drakeford gan ddweud bod angen trafodaeth ar rôl Tywysog Cymru, ac ychwanegodd nad oedd ef ei hun yn gefnogol o'r rôl.
"Fi'n croesawu yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ynglŷn ag unrhyw gwestiwn o arwisgo," meddai.
"Dwi wedi gweld straeon yn y wasg Llundeinig bod arwisgiad yn mynd i fod a dwi'n meddwl bod llinell yn cael ei dorri gydag arwisgiad oherwydd mae hynny yn rhoi statws cyfansoddiadol lled swyddogol i Dywysog Cymru ym mywyd Cymru.
"Dwi'n meddwl bod hwnna yn benderfyniad ddylen ni 'neud yng Nghymru mewn cyfnod lle ni'n byw mewn Cymru fodern ddemocrataidd - mae'n benderfyniad i ni 'neud fan hyn cyn bod unrhyw gyhoeddiad yn cael ei wneud."
'Dim rôl yn y Gymru fodern'
Ychwanegodd na ddylid rhuthro i wneud unrhyw benderfyniad ond bod yn rhaid i Aelodau o'r Senedd ym Mae Caerdydd benderfynu.
"Rwyf i yn weriniaethwr", ychwanegodd, "ac mae sensitifrwydd a phoen ynghlwm â'r teitl i nifer ohonom - ond mae gan eraill farn wahanol ac ry'n ni angen trafodaeth ar y mater".
Tra'n siarad ar Radio Wales fore Mawrth, yn ymateb i gwestiwn a oedd yn credu na ddylai cael arwisgiad arall, dywedodd Mr Price: "Dyna fy marn i, ie, ond rwy'n meddwl y bydd safbwyntiau eraill yng Nghymru, mae angen i ni glywed y safbwyntiau hynny mewn sgwrs genedlaethol yma yng Nghymru."
Dywedodd nad oedd yn credu "bod rôl yn y Gymru ddemocrataidd fodern i Dywysog Cymru", a'i fod wedi ysgrifennu at Mr Drakeford yn dweud "mai yn dilyn sgwrs genedlaethol y dylem ni yng Nghymru wneud y penderfyniad yn hytrach na chael y penderfyniad wedi'i wneud ar ein rhan".
Yn dilyn cyfarfod arbennig yn Senedd Cymru brynhawn Sul, dywedodd y Ceidwadwr Cymreig, Samuel Kurtz, sy'n aelod o'r Senedd, ei fod yn "brynhawn arbennig" wrth dalu teyrnged i Frenhines Elizabeth II.
Dywedodd hefyd ei fod yn gefnogol i'r cyhoeddiad bydd y Tywysog William yn olynu Brenin Charles fel Tywysog Cymru.
"Y ffaith bod e wedi bod lan ar Ynys Môn yn gweithio i'r RAF... mae'n beth da i ni fel gwlad a bod y Brenin Charles wedi dweud hynny yn ei araith gyntaf yn rhywbeth hynod o bwysig."
Fe wnaeth gydnabod y byddai "rhai ar un ochr moyn cael trafodaeth" ar ddyfodol y rôl ond ei fod yn credu ei fod yn "beth da i ni fel gwlad i gael y linc i'r teulu brenhinol" gan fod "hanes ein gwledydd ni mor gymhleth".
"Roedd y Frenhines yn bwysig yn dod â legitimacy i'r Senedd, neu y Cynulliad pan ddechreuodd e.
"Mae'n bwysig fod y Brenin Charles a'r Tywysog William yn cario mla'n a byddai'n braf iawn gweld Senedd Cymru yn chwarae rhyw fath o ran [yn y paratoadau]."
Wrth adlewyrchu wedi'r cyfarfod yn y Senedd ddydd Sul, dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, bod y Frenhines Elizabeth yn gallu gosod ei hun "ar yr un lefel â phobl gyffredin".
"O'dd hi 'efo ni pan o'dd 'na amser trist, yn enwedig amser Aberfan, o'dd hi yna ac yn siarad efo pobl.
"Wedyn amseroedd hapus hefyd. Yr unig amser nes i ga'l yr amser i gwrdd â hi oedd pan oedd hi'n agor y chweched Senedd flwyddyn diwetha'."
Ychwanegodd bod y Frenhines wedi rhannu joc a bod y ddwy yn chwerthin gyda'i gilydd.
Dywedodd Jane Dodds y bydd Brenin Charles hefyd yn "ffrind i Gymru".
"Mae'n 'nabod Cymru, mae wedi bod yma ar sawl digwyddiad... a 'dan ni'n gobeithio y bydd yr un fath neu'n fwy a deud y gwir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi 2022
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd10 Medi 2022