Tai fforddiadwy: Galw am 'weithredu nawr'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi tanlinellu unwaith eto eu hymrwymiad i helpu pobl ifanc i fedru prynu tai fforddiadwy yn rhai o gymunedau gwledig Cymru.
Ar ddydd Sadwrn 17 Medi daeth torf ynghyd i Langefni i rali wedi ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Fe gafodd Llywodraeth Cymru ei chyhuddo gan Osian Jones, un o drefnwyr y rali, o "lusgo traed" gyda'u haddewid o weithredu mewn ardaloedd ble mae tai a llety gwyliau yn prisio pobl ifanc o'r farchnad.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi grymoedd newydd i awdurdodau lleol ym mis Ebrill i reoli ail gartrefi a llety gwyliau.
O fis Ebrill nesaf bydd gan gynghorau sir bwerau newydd i geisio lleihau effaith ail gartrefi a llety gwyliau yn eu hardaloedd. Bydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd - prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
Bydd cynghorau yn gallu:
Rheoli nifer yr ail gartrefi a'r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.
Cynyddu treth trafodiadau tir (land transaction tax) ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau
Mynnu caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o un dosbarth i'r llall.
Ond yn ôl Osian Jones fe ddylai'r gwaith hwnnw ddechrau nawr.
"Mae ewyllys gwleidyddol o'n plaid a blwyddyn o ymgyrchu a phwysau gan bobl ar lawr wedi arwain at enillion allai wneud gwahaniaeth.
"Ond mae Llywodraeth Cymru'n llusgo eu traed - does dim canllawiau nac addewidion o gyllid i gyflawni'r holl waith wedi mynd at awdurdodau lleol eto.
"Gweithredu nawr"
Dywedodd Ffred Ffransis o'r Gymdeithas bod amser yn brin:
"Beth ry'n ni yn ei wenud heddiw yw rhoi pwysau ar gynghorau Ynys Môn, Conwy, Gwynedd a chynghorau eraill trwy Gymru i lawn ddefnyddio'r grymoedd yma. Mae'n rhaid i ni weithredu ar frys.
"Mae'n rhaid i'r cynghorau ddechrau ymgynghoriad o fewn yr ychydig wythnosau nesaf ar beth fydd lefel y premiwm tai haf ar gyfer mis Ebrilll nesaf neu fe fyddwn ni yn colli blwyddyn."
"Symud yn sydyn"
Roedd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi yn bresennol yn y rali. Dywedodd bod hon wedi bod yn broblem sydd wedi bod angen ei datrys ers amser maith:
"'Da ni'n galw ar lywodraeth Cymru i gydweithio efo ni fel bod ganddom ni gyllid er mwyn gorfodaeth. Un peth ydy cael rheol, peth arall ydy gorfodi'r rheol honno."
"Be 'da ni angen ei wneud ydy cadw golwg ar unrhyw newidiadau a bod y llywodraeth yn rhan o'r ddeialog honno fel y gallwn ni symud yn sydyn os 'da ni'n gweld nad ydy'r ddeddfwriaeth yma ddim yn ddigon."
"Ymrwymiad uchelgeisiol"
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yna ymrwymiad uchelgeisiol i gynnig 20,000 o dai newydd carbon isel ar gyfer eu rhentu yn y sector gymdeithasol.
Dywedodd hefyd bod gweinidogion yn defnyddio y sustemau cynllunio, eiddo a threthiant i daclo anghyfiawnderau yn y farchnad dai bresennol.
"Mae hyn yn cynnwys effaith negyddol y mae nifer fawr o ail gartrefi a thai gwyliau yn gallu ei gael mewn rhai ardaloedd"
Ychwanegodd y llefarydd:
"Ryn ni eisioes wedi cynyddu yr uchfaswm o bremiwm treth cyngor y gall awdurdodau lleol benderfynu ei godi ar ail gartrefi ac adeiladau sydd wedi bod yn wag er peth amser, a rheolau trethi lleol newydd i dai sy'n cael eu gosod ar gyfer ymwelwyr."
"Ryn ni hefyd wedi cwblhau ymgynghoriad ar gynigion i newid y gyfundrefn gynllunio a fyddai'n rhoi mwy o reolaeth i awdurdodau lleol reoli'r nifer o ail garterfi a llety gwyliau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2022