Ail gartrefi: 'Angen mwy o frys' ar Lywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pistyll
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth pobl ymgasglu mewn gwahanol bentrefi ym Mhen Llŷn y llynedd er mwyn tynnu sylw at y broblem

Mae "angen mwy o frys" ar Lywodraeth Cymru wrth fynd i'r afael ag ail gartrefi yng Nghymru, mae pwyllgor Seneddol wedi clywed.

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad , dolen allanolar newid deddfau cynllunio yn dilyn pryder ynghylch perchnogaeth ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr, ac mae Dwyfor, sy'n cynnwys Pen Llŷn a'r ardal i'r gorllewin o Borthmadog, wedi'i ddewis fel ardal brawf.

Clywodd pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru gan Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd, bod "angen mwy o frys" ac y dylai Llywodraeth Cymru "finiogi ei syniadau am be sydd yn y cynllun peilot".

Er ei fod yn cydnabod bod ymateb y llywodraeth yn "hanesyddol", dywedodd y Cynghorydd Siencyn ei fod yn teimlo "rhwystredigaeth" bod y cynllun prawf "fel plentyn yn cropian ar hyn o bryd" ac mai "ymyraethau cymharol feddal" sydd ynddo.

Disgrifiad o’r llun,

Dylai Llywodraeth Cymru "finiogi ei syniadau" meddai Dyfrig Siencyn

Ategwyd hynny gan y Cynghorydd Rhys Tudur ar ran Cyngor Tref Nefyn.

Er ei fod wedi ei "galonogi" gan ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, mae'n "rhwystredig am gyflymdra'r broses" ac yn "pryderu y bydd y peilot yn cynnig atebion meddal".

Roedd yntau yn feirniadol o'r £1m a addawyd ar gyfer prynu ac adfer tai yn benodol o fewn yr ardal brawf yn Nwyfor gan y gweinidog, Julie James, nôl ym mis Tachwedd, gan ddadlau nad oedd "yn hanner digon".

Clywodd y pwyllgor hefyd ddadleuon gan gynghorwyr dros gyflwyno system drwyddedu orfodol ar gyfer gosodiadau tymor byr, fel bod awdurdodau cynllunio lleol yn gallu rhoi rheolaethau ar waith mewn perthynas â nifer yr eiddo mewn ardaloedd arbennig, a sicrhau bod digon o stoc dai gwledig ar gael fel prif fan preswyl i drigolion.

Roedd galwadau hefyd am eithrio llety gwyliau tymor byr rhag bod yn gymwys ar gyfer rhyddhad trethi busnesau bach.

Mae'r llywodraeth wedi addo £11m i brynu ac adfer tai yn y rhannau o Gymru sydd wedi eu heffeithio waethaf gan ail gartrefi, ond mae wedi ei chyhuddo o gynnig "swm pitw" o arian i daclo'r "argyfwng".

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Rhys Tudur dydy'r £1m sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y cynllun peilot yn Nwyfor ddim am wneud "dim math o wahaniaeth"

Ym mis Tachwedd, fe addawodd cytundeb cydweithredu newydd Llafur a Phlaid Cymru i gymryd "camau brys a radical" i fynd i'r afael ag ail gartrefi.

Cyhoeddodd y gweinidog Julie James y byddai dwy ran i'r gwaith - y rhan gyntaf yn cynnwys ardal beilot yn Nwyfor, a'r ail ran yn ymwneud ag ymgynghoriadau mwy hirdymor ar rymoedd i gyfyngu ar greu ail gartrefi a chartrefi newydd a mwy o rymoedd amrywio trethi yn lleol.

'Gweithio'n gyflym'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n gyflym gyda phartneriaid ar gynllun peilot Dwyfor a fydd y cyntaf a'r mwyaf o'i fath yn y DU."

Ychwanegodd, "Yn y flwyddyn ariannol hon yn unig, rydyn ni wedi sicrhau bod £11m ar gael i awdurdodau lleol y mae perchnogaeth ail gartrefi a llety gwyliau'n effeithio ar eu cymunedau, er mwyn iddynt allu prynu ac adnewyddu tai gwag ar gyfer tai cymdeithasol.

"Mae hyn yn ychwanegol at yr addewid rydyn ni wedi'i wneud i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu yn ystod y pum mlynedd nesaf yng Nghymru, er mwyn helpu i bontio'r bwlch rhwng cyflenwad a galw.

"Mae mater ail gartrefi yn gymhleth ac yn emosiynol - mae'n bwysig ein bod ni'n cael y sylfeini'n gywir yn yr ardal beilot er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lawr gwlad ac asesu'r gwaith mewn ffordd ystyrlon."