Cymry yn Llundain ar gyfer angladd y Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bydd Cymru'n ymateb "fel gweddill y DU" i angladd y Frenhines yn ôl y cyn brif weinidog Carwyn Jones

Roedd sawl un o Gymru yn Llundain ar gyfer angladd y Frenhines Elizabeth II ddydd Llun gyda nifer eisoes wedi teithio yno dros y penwythnos.

Gyda rhai o aelodau'r cyhoedd yno i wylio'r gorymdeithio ac i roi teyrnged, cafodd eraill wahoddiad i'r gwasanaeth yn Abaty Westminster.

Ymhlith y gwahoddedigion yn cynrychioli Cymru oedd y Prif Weinidog Mark Drakeford a Llywydd y Senedd Elin Jones.

Mae'r diwrnod yn cael ei nodi fel gŵyl banc cenedlaethol ac mae'r angladd yn cael ei ddarlledu mewn mannau cyhoeddus fel eglwysi, sinemâu a theatrau yng Nghymru hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru, ymhlith cynrychiolwyr Cymru yn y gwasanaeth yn Abaty Westminster

Dywedodd y cyn-brif weinidog Carwyn Jones wrth BBC Cymru Fyw y byddai pobl Cymru'n "ymateb fel gweddill y DU" i'r angladd.

Byddai pobl, meddai, yn "cofio rhywun a wnaeth rhoi cymaint dros y blynyddoedd".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Frenhines yn berson "agos atoch" yn ôl yr Arglwydd John Morris

Roedd y cyn-Dwrnai Cyffredinol, yr Arglwydd John Morris yn bresennol yn ail ran yr angladd a dywedodd bod hynny'n "fraint".

"Mae hi wedi bod yno'r rhan fwya' o'n oes i. Dwi ddim yn gwybod dim gwahanol na bod y Frenhines yno - dyna brofiad pawb. Does neb yn cofio amser cyn hi.

"Mae hi wedi gwneud cymaint o waith dros y blynyddoedd a phobl yn teimlo ei bod hi'n agos atyn nhw, ac mi roedd hi."

Roedd hefyd yn un o'r rhai dethol a oedd yn Neuadd Westminster yr wythnos ddiwethaf i dderbyn arch y Frenhines yn swyddogol i orffwys yn gyhoeddus yno.

"Roedd e'n rhan o'r galaru cenedlaethol, pawb yn mo'yn bod 'na."

'Synnu gweld cymaint o bobl ifanc'

Wrth adlewyrchu ar y cyfnod o alaru a'r miloedd sydd wedi bod yn talu teyrnged i'r Frenhines, dywedodd yr Arglwydd Morris ei fod yn "synnu fod pobl ifanc, gymaint ohonyn nhw, yno".

"Roedd 'yn wyrion i eisiau mynd - o'n i'n synnu bo' nhw'n dyheu i fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Millar, 16, yn cynrychioli Merthyr Tudful a Rhmni yn Senedd Ieuenctid Cymru a bydd yn mynd i'r angladd

Roedd aelodau ifanc yn yr angladd hefyd, gan gynnwys Andrew Millar, sy'n cynrychioli Merthyr Tudful a Rhymni yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Cafodd ei ddewis drwy falot o'r aelodau hynny a enwebodd eu hunain i fynd.

Cyn teithio i Lundain dywedodd: "Mae'n anrhydedd mawr cael cynrychioli nid yn unig y Senedd, ond pobl ifanc o bob rhan o Gymru.

"Mae'n wahoddiad anghredadwy ac rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i dalu teyrnged i'w Mawrhydi.

"Mae'n sioc i fod yr un a gafodd ei ddewis, ond hefyd yn fraint."

Roedd Andrew, 16, hefyd yn bresennol ar gyfer ymweliad Y Brenin yn y Senedd ddydd Gwener.

'Eisiau dweud diolch'

Mae'r angladd yn cael ei ddarlledu ar deledu ond mae nifer o Gymry wedi teithio i Lundain ar gyfer y diwrnod.

Yn eu plith mae llond bws o Abergele a adawodd yn oriau mân bore Sul.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sue Haycroft a Margaret Ford o Gaerdydd (o'r chwith) wedi bod yn cysgu tu allan i Balas Buckingham ers dydd Sadwrn a Susan Jones o Abertawe wedi cysgu ger Gorsaf Paddington

Mae Sue Haycroft a Margaret Ford o Gaerdydd wedi bod yn cysgu tu allan i Balas Buckingham ers dydd Sadwrn.

Dywedodd Ms Ford bod y Frenhines yn "rhyfeddol".

"Mae hi wedi gwneud job arbennig... dwi'n ei hedmygu hi a dwi eisiau dweud diolch."

Ychwanegodd Ms Haycroft na chafodd llawer o gwsg nos Sadwrn ond dywedodd ei fod yn "brofiad unwaith mewn bywyd".

"Mae'n beth arbennig i allu bod yn rhan o hanes ac anrhydeddu'r Frenhines a'r Teulu Brenhinol."

Fe gysgodd Susan Jones o Gwm Tawe yng ngorsaf drenau Paddington ar ei noson gyntaf gan "nad oedd ganddi unrhyw le arall i fynd".

"Doeddwn i ddim wedi bwcio unrhyw beth felly ddes i yma funud olaf," ychwanegodd.

"'Dwi ddim yn mynd i weld profiad arall fel hyn yn fy oes i felly dyna pam ro'n i eisiau dod."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian Thomas y daeth "tristwch" drosti pan welodd yr hers yn pasio

Gwyliodd Sian Thomas o Lanelli yr hers yn gadael canol Llundain ar ymyl ffordd ger Hyde Park.

"Roedd pawb yn barch i gyd, a phawb o'n i'n siarad gyda yn ei hoffi hi fel menyw, fel Brenhines, fel rhywun teulu."

Dywedodd y daeth "tristwch" drosti pan welodd yr hers yn diflannu i lawr y ffordd.

"Ni 'di colli menyw hyfryd. Ni'n mynd i weld gwahaniaeth ond gobeithio nawr bydd y Brenin Charles yn gwneud jobyn mor dda â hi."

Pynciau cysylltiedig