Teyrnged i ddynes 'un mewn miliwn' wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddynes oedd yn "un mewn miliwn" wedi iddi gael ei lladd mewn gwrthdrawiad ffordd ddydd Llun.
Bu farw Catherine Bradford, 52, yn y fan a'r lle yn dilyn y gwrthdrawiad ar Stryd Fawr Dowlais am tua 17:50.
Yn dilyn hynny cafodd dyn 29 oed ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac mae bellach wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
Mewn teyrnged i Ms Bradford dywedodd ei theulu ei bod hi wedi cael ei chymryd oddi wrthyn nhw'n "rhy fuan".
"Roedd hi'n ddynes un mewn miliwn, wnaeth gyffwrdd cymaint gyda'i chariad at fywyd, natur annwyl a'i henaid pur," medden nhw mewn datganiad.
"Hoffem hefyd ddiolch o waelod calon i aelodau'r cyhoedd a'r gwasanaethau brys wnaeth geisio'u gorau i'w hachub."
Mae Heddlu'r De yn y cyfamser wedi apelio unwaith eto am unrhyw dystion i'r digwyddiad, neu unrhyw un allai fod â lluniau dashcam o yrrwr y car MG cyn y gwrthdrawiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022