Cymru angen buddugoliaeth yn erbyn Gwlad Pwyl
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i Gymru drechu Gwlad Pwyl yng Nghaerdydd nos Sul os ydyn nhw am osgoi disgyn o haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.
Mae Cymru ar waelod Grŵp 4 yng Nghynghrair A, gyda dim ond un pwynt o'u pum gêm hyd yma yn y gystadleuaeth.
Colli o 2-1 oedd hanes Cymru yn y gêm oddi cartref yn erbyn y Pwyliaid yn Wrocław fis Mehefin.
Ond pe bai Cymru'n gallu talu'r pwyth yn ôl a'u trechu yng Nghaerdydd nos Sul, Gwlad Pwyl fyddai'n gorffen ar waelod y grŵp a disgyn i'r ail haen.
Ond fe fydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny heb enwau mawr fel Aaron Ramsey, Joe Allen, Ben Davies a Harry Wilson sy'n absennol gydag anafiadau.
Mae Ethan Ampadu a Chris Mepham wedi'u gwahardd hefyd, wedi iddyn nhw gael eu hail gardiau melyn o'r ymgyrch yn y golled o 2-1 yn erbyn Gwlad Belg nos Iau.
Mae absenoldeb chwaraewyr allweddol wedi bod yn thema gyson i Gymru yn eu hymgyrch gyntaf yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd.
Er mai dim ond un pwynt mae tîm Rob Page wedi'i ennill yn y grŵp hyd yma, fe ddaeth hwnnw yn erbyn y wlad sy'n ail yn rhestr detholion FIFA, Gwlad Belg.
Ar ddau achlysur fe ddaeth Cymru o fewn eiliadau i sicrhau pwyntiau yn erbyn Yr Iseldiroedd hefyd, gyda goliau munud olaf yn eu hatal rhag gwneud hynny yn y gemau yng Nghaerdydd a Rotterdam.
Ar wahân i'r oblygiadau yng Nghynghrair y Cenhedloedd, i'r chwaraewyr dyma fydd eu cyfle olaf i greu argraff yng nghrys coch Cymru cyn i Page ddewis ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd.
Dod ymlaen o'r fainc wnaeth capten Cymru Gareth Bale ym Mrwsel nos Iau, ond mae Page wedi awgrymu y gallai seren Los Angeles FC ddechrau yn erbyn y Pwyliaid yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Talcen caled
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru roedd cyn-chwaraewr Cymru ac Abertawe, Owain Tudur-Jones, yn credu bod Cymru wedi profi eu bod yn haeddu eu lle gyda'r mawrion, er y canlyniadau hyd yn hyn.
"Fysa [Mepham ac Ampadu] ddim yn golled enfawr os na fsa Ben Davies, Aaron Ramsey, Joe Allen ac Harry Wilson allan hefyd," meddai.
"Mae am fod yn gyfle i rhywun, yn bendant yn y cefn, felly fyswn yn disgwyl i unai Chris Gunter gael cap arall neu Ben Cabango i gael cyfle ar ochr dde yr amddiffyn.
"Gyda perfformiad da yn erbyn rhywun fel Robert Lewandowski o Barcelona, fysa Cabango yn sicrhau ei fod yn mynd i Qatar fel rhan o'r garfan.
"Wedyn mae opsiynau yn ganol cae, gan fod nifer o chwaraewyr ar goll yn fanna, ond be' sydd ddim ar goll ydi'r ymosodwyr a dwi'n meddwl fel mae'r wythnosau yn agosáu i Rob Page ydi pwy mae o'n adael allan os mae Brennan Johnson, Dan James, Kieffer Moore a Gareth Bale i gyd ar gael.
"Dwi'm yn gwbod sut mae o am ffitio bob un i'r 11 felly fydd hi'n ddifyr i weld pwy sy'n dechrau nos Sul."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2022
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
- Cyhoeddwyd14 Medi 2022