Enwi cae yn Wrecsam fel teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl yn Wrecsam wedi'u cynddeiriogi wedi i'r cyngor sir ddatgan y byddan nhw'n ailenwi cae fel teyrnged i'r ddiweddar Frenhines.
Bydd Cae'r Naw Erw yn newid ei enw i Barc Brenhines Elizabeth II, a hynny wedi ei marwolaeth ddechrau'r mis.
Mae'r safle, lle arferai tîm pêl-droed Wrecsam ymarfer, wedi bod yn destun dadlau ers tro.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y gynghrair sy'n rhedeg Cyngor Wrecsam y bydd yn safle gwyrdd parhaol.
Dywedodd Chris Evans, sy'n byw drws nesaf i'r cae, ei fod yn "hynod falch bod y lle 'ma yn mynd i fod yn lecyn gwyrdd ond rŵan mae'r enw wedi fy ngwylltio".
Mae Cymru Fyw wedi gwneud cais am sylw gan Gyngor Sir Wrecsam.
'Dim pleidlais'
"Dwi'n byw yn Ward Maes-y-dre a 'nath neb gysylltu hefo ni am yr enw o gwbl - yn sicr dwi ddim o blaid galw'r lle yn Barc Brenhines Elizabeth II," meddai Mr Evans, sydd hefyd yn gadeirydd canolfan Saith Seren.
"Be sy'n gwylltio rhywun yw bod yna ddim pleidlais wedi bod - dwi'n deall, wrth gwrs, bod rhai pobl yn frenhinwyr a phetai pleidlais wedi bod fe fyddai'n rhaid i ni dderbyn y canlyniad.
"Ond mae'n teimlo bod yr enw yma wedi cael ei wthio arnom ni gan y Cyngor Sir - doedd yna ddim ymgynghori."
Mae Cyngor Wrecsam yn cael ei redeg gan aelodau annibynnol a'r Ceidwadwyr wedi i'r un blaid fethu â sicrhau mwyafrif o seddi wedi'r etholiadau lleol eleni.
"Yn sicr mae'r ffaith ei fod yn mynd i fod yn safle gwyrdd parhaol yn beth da - ry'n ni wedi ymgyrchu am hynny ers tro," meddai Chris Evans.
"Dwi'n byw drws nesaf - ac fel ry'ch chi'n gwybod mae 'na lot o gynlluniau wedi'u crybwyll gyda'r cyngor yn dymuno lleoli Ysgol y Santes Fair ar y safle.
"Ry'n ni mor falch o'r diwedd ei fod yn mynd i fod yn safle gwyrdd - safle y gall pobl ei fwynhau.
"Fyddai cael ysgol yma wedi bod yn amhosib gyda'r holl draffig ac mae angen dirfawr am safle gwyrdd fel hwn."
'Y cyfan yn newyddion i fi'
Dywed Mr Evans bod y safle wedi bod ynghau gydol yr haf a bod nifer o blant a phobl ifanc wedi bod yn dringo dros y gatiau chwe troedfedd am eu bod ar glo.
"Mae fy mab i yn un ohonyn nhw ac fe dorrodd ei grys Wrecsam newydd yn dringo dros ffens - roedd o'n gwbl hurt bod y lle ar gau," meddai wrth siarad â BBC Cymru Fyw.
Ychwanegodd y Cynghorydd Marc Jones, sy'n cynrychioli ward cyfagos ar ran Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam: "Roedd y cyfan yn newyddion i fi - gweld yn y wasg leol 'nes i bod hyn wedi digwydd.
"Doeddwn i ddim yn gwybod dim am y penderfyniad i ddynodi'r cae yn llecyn gwyrdd nac yn gwybod dim am yr enw - doedd yna ddim trafod na dim byd.
"Ym mis Gorffennaf roedd y cyngor am adeiladu ar y safle a rŵan dyma nhw'n g'neud tro pedol heb unrhyw gywilydd.
"Dwi'n gwerthfawrogi y bydd Cae'r Naw Erw yn llecyn gwyrdd, roeddwn i wedi ymgyrchu am hynny, ond be 'di'r cynlluniau ar gyfer Ysgol y Santes Fair?
"Does 'na ddim gwadu bod nhw angen adeilad newydd ond nid dyma oedd y lle. Mae ysgol wag Y Llwyni o fewn tafliad carreg - pam ddim ystyried hynny fel safle addas?
"Mae 'na bwynt pwysig hefyd - pryd wnawn nhw agor gatiau Cae'r Naw Erw? Mae 'na ddeiseb i'w hagor nhw yn mynd ers ryw fis rŵan fel bod pobl ifanc yn gallu mynd i'r safle yn ddiogel.
Ychwanegodd: "Dyw'r cyngor ddim yn cyfathrebu nac yn ymgynghori ac yn bendant dwi ddim yn hapus gyda'r enw newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
- Cyhoeddwyd24 Awst 2022