Blwyddyn arall o raddau arholiad mwy hael i ddisgyblion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arholiadau ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd disgyblion ysgol yng Nghymru yn parhau i gael graddau arholiad mwy hael y flwyddyn nesaf nag oedden nhw cyn y pandemig.

Dywedodd Cymwysterau Cymru, sy'n goruchwylio arholiadau, fod y penderfyniad yn adlewyrchu'r "effaith tymor hir" mae'r pandemig wedi ei gael ar ddysgwyr.

Daw hynny wedi iddyn nhw gymryd camau tebyg yn 2022, pan gafodd arholiadau eu cynnal am y tro cyntaf mewn tair blynedd oherwydd Covid-19.

Dywedodd y rheoleiddwyr y byddai'r safonau yn 2024 yn dychwelyd i beth oedden nhw cyn y pandemig.

'Dwy flynedd heriol'

Y bwriad yn haf 2023 yw i ganlyniadau fod rhywle hanner ffordd rhwng graddau 2019 a 2022, meddai Cymwysterau Cymru.

Roedd graddau 2022 eisoes yn is nag yn 2021, pan wnaeth athrawon roi graddau i ddisgyblion, ond y teimlad oedd bod angen ychydig mwy o gefnogaeth cyn gadael iddyn nhw ostwng yn ôl i lefelau cyn y pandemig.

Mae cadarnhad wedi bod eisoes y bydd disgyblion TGAU a Safon Uwch yn derbyn rhywfaint o wybodaeth o flaen llaw am bynciau, themâu neu destunau y gallen nhw ddisgwyl mewn arholiadau.

Ond yn wahanol i'r llynedd, ni fydd newidiadau i gynnwys y cyrsiau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Cymwysterau Cymru eu bod yn ystyried "y tarfu a brofwyd gan ddysgwyr yn ystod y pandemig", yn ogystal â'r ffaith y byddai graddio rhai cymwysterau AS ac unedau TGAU yn wahanol eleni yn cael effaith wedyn ar y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Philip Blaker, prif weithredwr Cymwysterau Cymru mai'r flaenoriaeth ydy sicrhau bod cefnogaeth i bobl ifanc wrth symud ymlaen i'r cam nesaf yn eu haddysg neu waith.

"Ar ôl dwy flynedd heriol i'r system addysg, mae ymdrech a chefnogaeth pawb i ddysgwyr yn golygu ein bod yn symud yn ôl tuag at ddulliau gweithredu cyn y pandemig," meddai.

"Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos gyda chyrff dyfarnu, rheoleiddwyr eraill yn y DU, sefydliadau addysg uwch a rhanddeiliaid eraill i wneud yn siŵr nad yw dysgwyr Cymru o dan anfantais."

Pynciau cysylltiedig