Arwyr pêl-droed yn ysbrydoli cenhedlaeth o ferched

  • Cyhoeddwyd
Merched yn hyfforddi
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant tîm pêl-droed merched Cymru yn cael effaith ar y gamp ar lefel llawr gwlad

Mae tîm cenedlaethol merched Cymru yn paratoi ar gyfer un o'u gemau pwysicaf erioed wrth iddynt wynebu Bosnia-Herzegovina mewn gêm dyngedfennol nos Iau.

Fis diwethaf fe grëwyd hanes wedi i'r tîm sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.

Nawr maen nhw'n anelu at fynd gam arall yn nes at gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf - cystadleuaeth fydd yn cael ei chynnal yn Awstralia a Seland Newydd flwyddyn nesaf.

Os yn llwyddo i ennill nos Iau bydd tîm Gemma Grainger yna'n hedfan i Zürich i wynebu'r Swistir nos Fawrth nesaf wrth iddynt geisio creu hanes.

Yn ôl un athro addysg gorfforol, mae llwyddiant y tîm wedi ysbrydoli nifer o chwaraewyr newydd yn Ysgol Gyfun y Strade yn Llanelli.

Dywedodd Josh Williams ei fod wedi gweld "cynnydd mawr" yn nifer y merched sy'n ymarfer a chwarae yn yr ysgol.

"Mae lot fwy o ddiddordeb gan y merched yn y pêl-droed a'r rygbi," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Josh Williams bod llwyddiant y tîm cenedlaethol wedi ysbrydoli nifer o chwaraewyr newydd

"Yn mynd 'nôl pedair i bum mlynedd, efallai byddech chi'n cael dwy neu dair oedd yn chwarae yn yr ysgol oedd hefyd yn chwarae tu allan i'r ysgol ond nawr mae gennym ni dros 20 o ferched, os nad mwy, sy'n chwarae tu fas i'r ysgol mewn clwb.

"Mae'r ysgol wedi cael tîm pêl droed merched am flynyddoedd. Pryd dechreuais i yma falle roedd 10 i 12 yn ymarfer pob wythnos, ond nawr ond ym Mlwyddyn 8, ni gyda dros 20 o ferched yn chwarae pob wythnos.

"Mae hyn yn golygu bod y safon wedi gwella. Maen nhw'n edrych lan i chwaraewyr tîm Cymru, maen nhw bendant yn ysbrydoliaeth iddyn nhw.

"Mae'r un peth gyda rygbi hefyd. Mae lot mwy o sylw yn y cyfryngau yn ymwneud â rygbi ac mae'r niferoedd o ferched sy'n chwarae wedi saethu lan."

Mwy o gyfleusterau

Un sydd wedi gweld y newid ers iddi hi ddechrau ym Mlwyddyn 7 yw Poppy.

Mae hi bellach ym Mlwyddyn 13 ac yn chwarae pêl-droed i dîm dan-19 merched Abertawe.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Poppy yn chwarae pêl-droed i dîm dan-19 merched Abertawe

"Pryd dechreuais i ym Mlwyddyn 7, fi oedd yr unig ferch yn y flwyddyn oedd yn chwarae i glwb pêl-droed tu fas i'r ysgol," meddai.

"Nawr mae mwy o gyfleusterau i ferched, mae mwy o glybiau lleol, mae leagues gwahanol i ferched. Mae'n really neis i weld."

Yn yr ysgol mae Poppy hefyd yn hyfforddi timau pêl-droed merched Blwyddyn 7, 8 a 9.

"Cyn y blynyddoedd diwethaf doedd merched ddim eisiau chwarae, ond nawr mae merched yn barod, maen nhw'n gallu chwarae yn erbyn bechgyn, maen nhw'n really dda.

"Fi'n chuffed achos o'n i methu gwneud hwnna pryd o'n i'n ifanc.

"Mae'r tîm cenedlaethol yn ysbrydoli ni, mae'n dangos bod merched mor dda â bechgyn."

Disgrifiad o’r llun,

Isabella: "Mae jyst yn dda cael gweld merched yn chwarae a mae'n gwneud i fi eisiau chwarae mwy"

Dechreuodd Isabella, sydd ym Mlwyddyn 8, chwarae pêl-droed ddwy flynedd yn ôl.

"I ni mae jyst yn dda cael gweld merched yn chwarae ac mae'n gwneud i fi eisiau chwarae mwy," meddai.

"Fi'n teimlo'n hapus wrth weld y merched yn chwarae a gweld mwy o bobl yn cefnogi nhw.

"Fi'n hoffi chwarae pêl-droed achos ni'n gallu chwarae yn erbyn pobl arall. Nawr fi'n chwarae i dimau tu allan i'r ysgol a fi'n really mwynhau.

"Gaethon ni y siawns i gwrdd â rhai o'r chwaraewyr a'r rheolwyr a oedd hwnna'n really cŵl. O'n nhw'n dweud i ni dal ato fe."

'Maen nhw'n ysbrydoliaeth'

Bydd criw o'r ysgol yn teithio i Gaerdydd i gefnogi tîm Gemma Grainger nos Iau yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ble mae 13,500 o docynnau eisoes wedi eu gwerthu.

Fe ddywedodd Ellie, sydd hefyd ym Mlwyddyn 8, bod gweld tîm pêl-droed y merched yn chwarae wedi ei ysbrydoli hi i anelu i chwarae dros Gymru yn y dyfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellie wedi cael ei hysbrydoli gan lwyddiant tîm cenedlaethol y merched

"Fi eisiau chwarae i Gymru achos fi 'di tyfu lan yn dilyn pêl-droed a phêl-droed merched gyda dad fi," meddai.

"Mae gweld nhw hefyd yn helpu fi i chwarae'n well.

"Mae'n teimlo'n dda i weld nhw'n chwarae achos dydy timau merched ddim fel arfer yn cael lot o siawns. Maen nhw'n ysbrydoliaeth."