Costau Byw: Rhybudd am 'don' o broblemau ysgyfaint

  • Cyhoeddwyd
Mae Helen yn gwneud oriau ychwanegol er mwyn gallu fforddio cadw'r gwres ymlaen yn ei chartref
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen yn gwneud oriau ychwanegol er mwyn gallu fforddio cadw'r gwres ymlaen yn ei chartref

Mae elusen yn rhybuddio y gallai yna fod "don" o bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty gyda chyflyrau ar yr ysgyfaint oherwydd yr argyfwng costau byw.

Yn ôl Asthma and Lung UK mae pobl yn torri'n ôl ar wresogi eu cartrefi yn ystod tywydd oer, gan roi eu hiechyd yn y fantol.

Mae'r elusen yn galw am gymorth ariannol penodol ar gyfer pobl sydd â chyflyrau ar yr ysgyfaint, er mwyn sicrhau eu bod yn cadw'n iach dros y gaeaf.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod eu cynllun Nyth yn cynnig gwelliannau am ddim i'r cartref ar gyfer y rhai sy'n gymwys.

Un sy'n bryderus yw Helen Millington o Gaernarfon, sy'n dweud bod rhaid cadw ei thŷ yn gynnes oherwydd cyflwr ei merch.

Mae ei merch Miriam, 16, wedi gorfod cael ei rhuthro i'r ysbyty ar sawl achlysur oherwydd ei bod yn dioddef o asthma difrifol.

Wrth i'r gaeaf agosáu mae Helen yn poeni am wresogi'r tŷ: "Mae Miriam yn tueddu i gael chest infections pan mae'n oer.

"Mae'n lot o boen. Mae'r gost o fyw wedi mynd i fyny mor uchel.

"Dwi'n trio gwneud oriau extra yn gwaith. Dwi wedi prynu snuddies i'r genod yn lle bo' fi'n gorfod rhoi'r gwres ymlaen mor fuan.

"'Da ni'n gwneud lot o dân glo; mae ganddo ni burner bach, mae hynny'n arbed rhywfaint ar y biliau.

"Ond mae'n rhaid i ni roi'r gwres ymlaen yn llofft Miriam."

Ffynhonnell y llun, Alice Spencer
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Alice Spencer a'i merch gyflyrau ar yr ysgyfaint ac yn poeni am gostau cadw'n gynnes

Mam bryderus arall yw Alice Spencer o Gaerdydd - sydd ag asthma - a'i merch sydd â'r cyflwr Ffibrosis Systig.

Mae'n dweud nad yw cwtogi ar wresogi a'r defnydd o drydan yn opsiwn iddyn.

"Mae tywydd oer yn gwaethygu fy symptomau, felly mae cadw'n gynnes yn bwysig iawn er lles fy iechyd i a fy merch," meddai Alice Spencer.

"Mae gan fy merch gyflwr ar yr ysgyfaint ac mae hi'n defnyddio nebiwleiddiwr bob dydd - hyd at bedair gwaith y dydd os yw hi'n wael. Mae'n defnyddio batri ac mae angen ei wefru'n gyson."

Mae'n dweud mai glanhau'r offer yw'r gost fwyaf gan ei fod angen ei olchi'n drylwyr gyda dŵr berwedig bob tro ar ôl ei ddefnyddio.

Mae hi'n poeni y gallai pobl esgeuluso'r broses lanhau er mwyn arbed arian, gan beryglu eu hiechyd.

Mae Asthma and Lung UK yn dweud bod galwadau i'w llinell gymorth wedi cynyddu 89%, ac ymweliadau â'u gwefan wedi cynyddu 63%.

Mae arolwg yr elusen wedi darganfod bod 63% o bobl gyda chyflyrau ar yr ysgyfaint yn prynu llai o fwyd, ac un o bob chwech yn torri'n ôl ar eu defnydd o anadlwyr neu inhaler, gyda'r ddau beth yn cynyddu eu perygl o gael pwl o asthma.

Fe ddywedodd Dr Andrew Whittamore, sy'n feddyg teulu ac yn Arweinydd Clinigol gydag Asthma and Lung UK, mai'r gaeaf ydy'r adeg gwaethaf i bobl gyda chyflyrau ar yr ysgyfaint.

"Mae cartrefi oer yn creu awyrgylch berffaith i heintiau ar y system anadlu ffynnu," meddai.

"Mae aer oer yn gallu symbylu ymosodiadau asthma a COPD sy'n rhoi bywydau mewn perygl. Yn y tymor hirach, mae cartrefi oer yn arwain at leithder a llwydni, sydd ynghyd â'r aer oer hefyd yn gallu achosi pyliau ar yr ysgyfaint."

Mae Asthma and Lung UK Cymru yn cynghori pobl sydd â chyflyrau ar yr ysgyfaint i gadw eu cartref ar dymheredd sy'n o leiaf 18 Selsiws.

Gwella effeithiolrwydd ynni yn y cartref

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai gwella effeithiolrwydd ynni mewn cartrefi ydy'r ffordd fwyaf effeithiol iddyn nhw gefnogi cartrefi i leihau eu biliau ynni.

"Mae dros 67,000 o gartrefi wedi elwa o'n rhaglen Cartrefi Cynnes, ac rydym hefyd yn cynnig taliad cymorth tanwydd o £200 i helpu tua 400,000 o gartrefi cymwys gyda'i biliau ynni y gaeaf yma.

"Mae ein cynllun Nyth hefyd yn cynnig gwelliannau effeithiolrwydd ynni mewn cartrefi i bobl sy'n gymwys sydd ar incwm is sy'n byw gyda chyflyrau anadlol cronig."

Pynciau cysylltiedig