10 cwmni'n rhan o gytundeb adfer adeiladau uchel Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae 10 o gwmnïau datblygu wedi cytuno i fynd i'r afael â diffygion diogelwch tân adeiladau uchel y buon nhw ynghlwm â nhw yng Nghymru, medd Llywodraeth Cymru.
Mae Cytundeb y Datblygwyr yn berthnasol i adeiladau dros 11 metr (36 troedfedd) sydd oddeutu uchder pedwar i chwe llawr.
Dywed y gweinidog sy'n gyfrifol am dai, Julie James, ei bod yn "falch iawn" bod datblygwyr mawr wedi "cydnabod eu cyfrifoldeb".
Mae'n berthnasol i adeiladau canolig ac uchel iawn a gafodd eu hadeiladu yn y 30 mlynedd diwethaf, ac yn dilyn cytundeb tebyg yn Lloegr.
Wedi i dân yn fflatiau Tŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain ladd 72 o bobl yn 2017, fe ddaeth i'r amlwg bod cannoedd o flociau eraill o fflatiau ar draws y DU â diffygion difrifol gan gynnwys cladin fflamadwy.
Daethpwyd i'r casgliad bod cladin polyethylen yr adeilad 23 llawr wedi caniatáu i'r fflamau ledu'n gyflym, ac mae yna waharddiad ar ei ddefnyddio wrth adeiladu erbyn hyn.
Y 10 cwmni sydd wedi ymuno â'r cytundeb yng Nghymru, medd Ms James, yw Bellway, Persimmon, Taylor Wimpey, Lovell, McCarthy and Stone, Countryside, Vistry, Redrow, Crest Nicholson a Barratt.
"Rwyf wastad wedi gwneud hi'n glir nad wyf yn disgwyl i lesddeiliaid ysgwyddo'r gost o atgyweirio problemau diogelwch tân nad y nhw oedd wedi eu creu, ac fy mod yn disgwyl i'r datblygwr i dderbyn eu cyfrifoldebau," dywedodd.
"Rwy'n falch iawn yn dilyn ein cyfarfod ym mis Gorffennaf bod nifer o ddatblygwyr mawr wedi cydnabod eu cyfrifoldeb trwy lofnodi Cytundeb Datblygwyr Llywodraeth Cymru.
"Fe wnes i gwrdd gyda'r datblygwyr yma ddoe i gadarnhau'r camau nesaf, a'u cynlluniau ac amserlenni atgyweirio."
Dywedodd Ms James bod rhai cwmnïau eisoes wedi dechrau ar waith atgyweirio angenrheidiol, a'i bod yn "edrych ymlaen at weld y gwaith yma'n parhau'n gyflym".
Cyhoeddodd Ms James hefyd y bydd Llywodraeth Cymru'n ad-dalu preswylwyr, perchnogion cartrefi ac asiantiaid rheoli am gost gwaith arolygu a gafodd ei wneud cyn lawnsio Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn amodol ar feini prawf penodol.
Mae'r gronfa ar agor ers Medi 2021, ac fe gafodd ei sefydlu gan weinidogion i "nodi unrhyw waith angenrheidiol a helpu blaenoriaethu adeiladau ar gyfer gwaith atgyweirio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2021