Canfod rhagor o gyffuriau ar draethau'r canolbarth

  • Cyhoeddwyd
cyffuriau mewn bagiau
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cerddwyr o hyd i'r pecynnau ar draeth Tan-y-Bwlch ar 1 Hydref

Mae rhagor o becynnau o gyffuriau wedi eu canfod gan yr heddlu ar hyd arfordir canolbarth Cymru, yn dilyn darganfyddiad o gocên ar draeth yn ddiweddar.

Cafodd yr heddlu hyd i sawl pecyn o gocên ar draeth Tan-y-Bwlch ger Aberystwyth ar 1 Hydref.

Yn dilyn ymgyrch chwilio "sylweddol" ar y tir a'r môr ers hynny, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod rhagor o becynnau wedi eu canfod "mewn nifer o leoliadau ar hyd yr arfordir".

Y gred yw mai cyffuriau dosbarth A sydd wedi eu canfod, ond dywedodd yr heddlu bod y pecynnau wedi eu hanfon am archwiliad pellach.

Mae heddluoedd eraill wedi bod yn cynorthwyo'r gwaith chwilio, yn ogystal â'r Asiantaeth Troseddu Genedlaethol.

Disgrifiad o’r llun,

Heddlu ar draeth Borth, ger Aberystwyth, ddydd Mercher

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys bod "adnoddau helaeth" wedi eu defnyddio fel rhan o'r chwilio, a bod "criwiau ar y ddaear, yn yr awyr ac ar y môr" wedi eu hanfon i fonitro'r ardal.

"Rydym yn ymwybodol bod y cyhoedd wedi gweld mwy o swyddogion yn yr ardal na'r arfer, a hoffwn ddiolch am eu hamynedd", meddai'r llefarydd.

Ychwanegodd y byddai hynny'n parhau am gyfnod, gan atgyfnerthu'r neges na ddylai unrhyw un sy'n dod o hyd i becyn amheus yn yr ardal ei gyffwrdd.

Dywedodd yr heddlu bod yr ymchwiliad i sut y daeth y pecynnau i'r lan, a phwy sy'n gyfrifol amdanynt, yn parhau.