'Cuddio pwy o'n i wedi effeithio fy iechyd meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gethin Bennett: Siarad am fy mhryderon wedi gwneud "byd o les"

Mae dyn o Sir Gaerfyrddin sy'n rhan o ymgyrch newydd yn dweud fod siarad am ei bryderon ar ôl cadw'n ddistaw am flynyddoedd wedi gwneud byd o les i'w iechyd meddwl.

Mae Gethin Bennett, 29, wedi rhannu ei stori fel rhan o ymgyrch newydd gan Mind Cymru i annog pobl i fod yn agored am eu problemau.

Daw hyn wrth i ymchwil gan yr elusen ganfod bod 29% o bobl yn ei chael hi'n anodd mynegi eu hunain pan maen nhw'n mynd drwy gyfnod anodd gyda'u hiechyd meddwl.

Ond mae tri o bob pump person hefyd yn dweud bod troi at ffynonellau creadigol, fel cerddi neu gerddoriaeth, wedi eu helpu i ymdopi.

'Anodd mewn cymdeithas wledig'

Collodd Gethin Bennett ei dad i hunanladdiad pan oedd ond yn 14 oed, ac mae'n dweud bod "iechyd meddwl, iselder a phryder wedi bod yn thema yn fy nheulu" fyth ers hynny.

"Fi'n hunan wedi stryglo 'da iselder a phryder dros y blynyddoedd, felly ers 'ny fi 'di trio cymaint ag y gallai i godi arian a chodi'r neges a thrio cael gwared o'r stigma sy'n dod gydag iechyd meddwl," meddai.

Bu hefyd yn ceisio ymdopi â brwydr fewnol arall, cyn iddo ddod allan fel dyn hoyw yn 25 oed.

"Am flynydde maith o'n i'n gorfod cuddio pwy o'n i, ac mae hwnna'n mynd i gael effaith ar dy iechyd meddwl achos ti methu byw dy fywyd fel ti moyn, fel y person wyt ti," esboniodd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd hunanladdiad tad Gethin Bennett effaith mawr ar y teulu

Mae'n teimlo fod ardal ei fagwraeth wedi chwarae rhan yn ei amharodrwydd i siarad am ei deimladau wrth dyfu fyny, gan gynnwys ei nerfusrwydd wrth ddatgelu ei rywioldeb.

"I gymharu gydag iechyd ffisegol, mae iechyd meddwl dal yn atodi cymaint o stigma," meddai Gethin, sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

"Mae'n lot gwell dyddiau 'ma nag oedd e ddegawdau yn ôl, ond mae lot o waith dal i fynd.

"Ac mae lot o bobl, yn enwedig dynion o ardaloedd mwy gwledig, maen nhw dal yn ffeindio fe'n lot anoddach i ddod allan, i allu siarad am eu teimladau i gymharu gydag eraill.

"Ond mae'n iawn i allu siarad am eich teimladau, ac mae'n beth cryf i siarad am eich teimladau hefyd."

'Cefnogaeth cynt yn helpu'

Fel rhan o ymgyrch Mind fe wnaeth Gethin weithio gyda band Adwaith, sydd hefyd o ardal Caerfyrddin, i gynhyrchu cerdd sydd yn sôn am rai o'i brofiadau.

Yn hysbyseb yr ymgyrch mae Hollie Singer o'r band yn adrodd y gerdd, sydd yn annog pobl i chwilio am gymorth os ydyn nhw'n teimlo dan bwysau.

"Mae gweithio 'da Adwaith wedi bod yn ffantastig, maen nhw'n grŵp mor greadigol ac 'naethon nhw ddelio 'da'n stori i a fy mhrofiadau i mewn ffordd mor garedig a sensitif," meddai Gethin.

"Dros y blynydde fi 'di edrych at gerddoriaeth fel rhyw fath o coping strategy, a fi'n gwybod bod lot o bobl eraill hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Gethin gyda'i dad, Alan, a'i frawd bach Steffan

Dywedodd Sue O'Leary, cyfarwyddwr Mind Cymru, fod rhai pobl yn ei chael hi'n haws siarad a chyfleu eu teimladau wrth ddefnyddio ffyrdd creadigol.

"Ar ôl cwpl o flynyddoedd heriol iawn gyda'r pandemig ac yna'r argyfwng costau byw, mae effaith fawr wedi bod ar ein hiechyd meddwl," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod fod cymorth iechyd meddwl yn debygol o fod yn fwy effeithiol os ydy rhywun yn cael cefnogaeth yn gynt.

"Ond rydyn ni hefyd yn gwybod fod dod o hyd i'r geiriau i ddweud sut 'dyn ni'n teimlo hefyd yn anodd."

Disgrifiad,

Hysbyseb Mind: Cerdd Adwaith am brofiadau Gethin

'Cael yr emosiynau mas'

Fel rhywun sydd wedi bod drwy'r profiad hwnnw ei hun, mae Gethin Bennett yn deall pa mor heriol yw hynny - ond hefyd yn gwybod faint o faich oddi ar ei ysgwyddau oedd gallu bod yn agored o'r diwedd.

"Mae'n cliché mor hen ag amser, ond mae problem sy' wedi'i rannu yn broblem sy' wedi'i haneru," meddai.

"Fi'n gwybod bod e'n gam anodd dros ben, yn amhosib i rai pobl, ond chi'n ffaelu really esbonio faint o effaith mae'n cael o allu siarad, a chael eich profiadau a'ch emosiynau mas o'ch corff.

"Os chi byth yn stryglan, plîs siaradwch â rhywun - teulu, ffrindiau, cydweithwyr, GP, y Samaritans, unrhyw un - o leia' bod rhywun yna i chi siarad i."

Am wybodaeth am sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth, ewch i wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig