Ymgyrch frechu Covid-19 Cymru yn ailddechrau ddydd Iau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Bydd pawb sy'n gymwys yn derbyn cynnig am frechiad trwy lythyr neu neges destun cyn mis Rhagfyr

Bydd ymgyrch frechu Covid-19 Cymru yn ailddechrau ddydd Iau, gyda staff iechyd a gofal a phreswylwyr cartrefi gofal yn cael y cynnig cyntaf cyn y gaeaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd pawb sy'n gymwys yn derbyn cynnig am frechiad trwy lythyr neu neges destun cyn mis Rhagfyr.

Mae'r rheiny sy'n gymwys yn cynnwys pawb dros 50 oed, pobl mewn grwpiau bregus, gofalwyr a staff iechyd a gofal.

Mae amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud fod lefelau coronafeirws wedi bod yn gostwng yng Nghymru ers pum wythnos bellach.

Serch hynny mae Prif Swyddog Meddygol Cymru'n dweud ei fod "yn poeni am y gaeaf sydd y ddod" gan fod gwasanaethau iechyd eisoes dan bwysau, a hynny cyn ystyried goblygiadau posib yr argyfwng costau byw ar iechyd y cyhoedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Staff iechyd a gofal a phreswylwyr cartrefi gofal fydd y cyntaf i gael eu brechu

Daw'r ymgyrch frechu yn dilyn cyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sy'n cynghori holl lywodraethau'r DU.

Bydd pobl dros 18 oed yn derbyn brechlyn Moderna, tra bo'r rheiny dan 18 sy'n gymwys yn derbyn pigiad Pfizer.

Fe fydd y brechiadau'n cael eu rhoi mewn meddygfeydd a chanolfannau brechu eraill, ac mae pobl wedi cael cais i ddisgwyl am wahoddiad gan eu bwrdd iechyd yn hytrach na chysylltu â'u meddyg teulu.

Mae tua 1.5 miliwn o bobl yng Nghymru hefyd yn gymwys am frechiad ffliw, fydd yn cael eu rhoi cyn diwedd y flwyddyn yn ogystal.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Bydd ein rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau rhag ffliw a Covid-19.

"Mae brechlynnau wedi cael effaith enfawr ar gwrs y pandemig - maent wedi achub bywydau di-rif ac wedi rhoi'r rhyddid a'r hyder inni ailgychwyn ein bywydau.

"Hoffwn ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd a sefydliadau eraill a fydd unwaith eto yn arwain ymdrechion i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed drwy frechu."

'Mae'n mynd i fod yn aeaf anodd'

Wrth siarad ar raglen Radio Wales Breakfast ddydd Iau, dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Syr Frank Atherton mai "cael ein brechiadau ffliw a Covid yw un o'r pethau pwysicaf y gallai pobl ei wneud i amddiffyn eu hunain".

Fe fyddai hynny hefyd, fe bwysleisiodd, yn helpu lleihau'r pwysau ar y GIG, sy'n "fwy prysur nawr na'r arfer ym misoedd yr haf" ac yn draddodiadol yn wynebu pwysau mawr ym misoedd y gaeaf.

"Rwy'n poeni am y gaeaf sydd i ddod," meddai. "Mae gyda ni GIG sy'n brysur iawn a dan straen o ran rheoli llwyth gwaith wrth gefn yn sgil Covid a darparu'r gwasanaethau hanfodol y mae pobl eu hangen yn ddyddiol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon y bydd pobl yn osgoi rhoi'r gwres ymlaen wrth i gost cynhesu eu cartrefi godi

Gofynnwyd iddo a yw'n poeni y gallai'r pwysau gynyddu eto wrth i bobl osgoi cynhesu eu cartrefi yn y misoedd oeraf yn sgil ofnau ynghylch y gost.

Atebodd: "Ydw. Dyna enghraifft arall o'r pwysau sydd i ddod ar y GIG a'r system iechyd a gofal cymdeithasol y gaeaf yma.

"Does dim amheuaeth y bydd pobl yn poeni ynghylch rhoi'r gwrs ymlaen a bydd angen iddyn nhw wneud dewisiadau anodd.

"Mae cadw pobl oedrannus fregus, yn arbennig, yn gynnes yn flaenoriaeth fawr ac mae hynny'n mynd i fod yn anodd dan yr amgylchiadau economaidd presennol."