'Pwysig' cael brechlyn ffliw yn sgil mwy o achosion posib

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
pigiadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn cael pigiadau atgyfnerthu'r hydref ar hyn o bryd

Fe allai ffliw fod yn fygythiad sylweddol yn ystod y misoedd nesaf a hynny am y tro cyntaf ers pandemig Covid, yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus.

Gydag achosion o ffliw eisoes yn cael eu canfod yng Nghymru, mae pryderon y gallai tymor y ffliw ddechrau'n gynt ac effeithio ar fwy o bobl wrth i feirysau anadlol eraill ailymddangos yn dilyn cyfnod hir o gyfyngiadau Covid.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig.

Mae oedolion cymwys yng Nghymru wedi dechrau cael eu gwahodd i gael eu pigiad atgyfnerthu'r hydref ar gyfer Covid-19. Mae plant a phobl hŷn ymysg y rhai sy'n gymwys.

Rhybudd o Awstralia

Yn ystod y misoedd diwethaf mae Awstralia (sydd newydd wynebu'r gaeaf) wedi cael achosion o ffliw. Fe ddechreuodd yr achosion yn gynt ac roedd y nifer o achosion yn uwch nag ers pum mlynedd.

Mae arbenigwyr iechyd yn poeni y gallai Cymru a'r DU weld lefelau tebyg o ffliw yn ystod y misoedd nesaf.

Gallai nifer yr achosion o ffliw, medd arbenigwyr, fod cyn uched â'r hyn a gafwyd yn ystod gaeaf 2017/18 - pan gafodd 16,500 o bobl yng Nghymru ddiagnosis gan eu meddyg teulu ac roedd 2,500 o bobl angen triniaeth ysbyty.

Roedd nifer y marwolaethau "ychwanegol" a gofnodwyd yn ystod y gaeaf hwnnw, o'i gymharu â'r cyfartaledd, hefyd ar eu huchaf ers 20 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Rowanne Seadon
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rowanne Seadon ei bod yn bwysig iddi hi gael brechlyn ffliw er mwyn amddiffyn ei gŵr sydd â chyflyrau meddygol

Fel nyrs arbenigol sy'n gofalu am gleifion canser, mae Rowanne Seadon sy'n byw yng Nghasnewydd, yn fwy ymwybodol na'r rhan fwyaf o bobl o ba mor beryglus y gall ffliw fod - yn enwedig i bobl sydd â systemau imiwnedd gwan.

"Mae triniaethau fel cemotherapi yn aml yn gwanhau system imiwnedd sydd eisoes yn wannach na fy un i neu'ch un chi," meddai.

"Os yw'r cleifion hynny yn dod i gysylltiad â firws neu haint fe allan nhw fod yn llawer salach na chi a fi... gall salwch pellach beryglu bywydau."

'Pwysig iawn'

Fel gweithiwr yn y gwasanaeth iechyd mae Rowanne yn cael cynnig pigiad ffliw bob blwyddyn ac mae'n annog pawb arall sy'n gymwys hefyd i fanteisio ar y cynnig.

"P'un a ydych chi'n arbennig o agored i niwed ai peidio gallwch chi dal drosglwyddo'r ffliw i rywun bregus - efallai rhywun oedrannus, neu rywun sy'n wael neu â chanser - mae cael brechlyn yn ymwneud â'u hamddiffyn nhw hefyd.

"Ces i'r ffliw ychydig o flynyddoedd yn ôl ac roeddwn i'n sâl iawn am gwpl o wythnosau - a dwi'n berson ifanc, heini ac iach. Os ydych chi'n fwy bregus meddyliwch cymaint yn salach y byddech chi."

Ar hyn o bryd mae Rowanne ar gyfnod mamolaeth yn gofalu am ei babi newydd - ond ynghyd â'i swydd fel nyrs mae ganddi hefyd resymau personol dros gael ei brechu.

"Mae gan fy ngŵr gyflyrau iechyd ac mae'r driniaeth y mae'n ei gael yn golygu bod ei system imiwnedd yn wannach na fy un i - felly trwy gael fy mrechu rydw i hefyd yn ei amddiffyn e yn ogystal â fy nheulu ac felly mae'n bwysig iawn."

Ffynhonnell y llun, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus hefyd yn poeni y bydd Covid-19 yn parhau i gael effaith ochr yn ochr â ffliw - gan arwain at bwysau enfawr ar y GIG.

O ganlyniad maen nhw'n dweud ei bod hi'n "bwysicach nag erioed" bod y rhai sy'n gymwys i gael brechlyn ffliw neu bigiad atgyfnerthu ar gyfer Covid-19 am ddim yn cael eu brechu er mwyn helpu i atal salwch difrifol.

'Brechu yw'r ffordd orau'

Dywed Dr Christopher Johnson, epidemiolegydd ymgynghorol a phennaeth dros dro Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Gall ffliw fod yn ddifrifol, yn enwedig i'r rhai sy'n hŷn neu sydd â chyflwr iechyd ac sy'n fwy agored i niwed o ran cymhlethdodau o ganlyniad i ffliw.

"Mae'n hysbys mai cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw.

"Yn yr un modd, mae brechiad atgyfnerthu'r hydref Covid-19 yn ymestyn yr amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol.

"Mae unrhyw sgil-effeithiau o'r brechiadau fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn para'n hir. Mae'r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19 neu'r ffliw yn cael ei lleihau'n fawr drwy frechu, ac mae'r risgiau o ledaenu'r feirysau hyn yn lleihau hefyd.

"Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunain ac eraill y gaeaf hwn yn erbyn salwch difrifol."

Ategu ei neges a wnaeth Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, gan ddweud: "Rydym yn annog pawb i gael eu dau bigiad y gaeaf hwn, pan fydd ffliw a Covid ar eu hanterth, i amddiffyn eu hunain, y rhai o'u cwmpas a'r GIG yn ystod cyfnod prysur i ofal iechyd yng Nghymru."