Costau byw ac iechyd: Cymaint o effaith â Covid?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae un fam sy'n defnyddio banc bwyd yng Nghaernarfon yn dweud fod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar ei hiechyd.

Mae arweinwyr iechyd yn dweud bod yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar iechyd y genedl yn barod, ac mae pryder y bydd yn gwaethygu'r anghydraddodebau cymdeithasol yn sgil Covid-19.

Mae galw am weithredu ar frys i daclo'r sefyllfa, gyda Choleg Brenhinol y Ffisegwyr (RCP) yn dweud bod angen cynllun traws-lywodraethol i leihau tlodi ac anghydraddoldebau ymysg oedolion a phlant.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gwario dros £1.6bn ar daclo'r cynnydd mewn costau.

Maen nhw hefyd yn edrych ar gynllun hirdymor i drechu tlodi.

Gyda'r cysylltiad rhwng iechyd gwael a ffactorau cymdeithasol yn amlwg, mae'r RCP yn dweud y byddai strategaeth ar draws llywodraethau'r DU yn gwella ansawdd bywyd, gwarchod y gwasanaeth iechyd a chryfhau'r economi.

Yn ôl arolwg diweddar gan yr RCP, roedd 55% o'r rhai gafodd eu holi trwy Brydain yn beio'r argyfwng costau byw am ddirywiad yn eu hiechyd.

O'r rheiny, roedd 84% yn cyfeirio at y cynnydd mewn costau ynni, 78% yn beio biliau bwyd uwch, tra bod 46% yn dweud bod costau teithio uwch yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd.

Yn gynharach eleni fe ddangosodd ymchwil fod Covid-19 wedi cael mwy o effaith ar ardaloedd difreintiedig yng Nghymru, dolen allanol, a chynyddu mae'r pryder y gallai'r un patrwm gael ei ailadrodd yn sgil yr argyfwng costau byw.

Roedd adroddiad arall gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) hefyd wedi canfod bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig yn cynyddu, dolen allanol.

'Mae o'n anodd'

Wrth i'r biliau barhau i godi a'r esgid wasgu fwyfwy, mae llawer yng Nghymru'n gorfod gwneud dewisiadau anodd allai effeithio ar eu hiechyd - rhwng prynu bwyd, cynhesu'r ty neu dalu am feddyginiaeth efallai.

Un o'r canolfannau sy'n ceisio lleddfu'r pwysau ydy Banc Bwyd Arfon yng Nghaernarfon, sydd ar agor ddwywaith yr wythnos ar hyn o bryd ac yn edrych ar ehangu gwasanaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd 55% o'r rhai gafodd eu holi trwy Brydain yn beio'r argyfwng costau byw am ddirywiad yn eu hiechyd

Yn ôl un fam i bedwar o blant, sy'n defnyddio'r banc bwyd yn rheolaidd ond nad oedd eisiau i ni rannu ei henw, mae pethau'n mynd yn anoddach pob wythnos a'i hiechyd hi a'i theulu yn diodde'.

"Iechyd meddwl - mae o'n effeithio lot dwi'n meddwl", meddai.

"Mae just y thought o stryglo, y thought o be' dwi am 'neud wsos nesa' yn lot.

"Ma' iechyd fi, dwi'n mynd heb lot i'r plant so dwi'n meddwl bod hynna'n effeithio lot ar iechyd fi hefyd.

"Dwi 'di sylwi just yn yr wsnosa' diwetha' bod gas, electric yn costio absolute ffortiwn a mae o'n mater o cael bwyd, cadw'r tŷ'n gynnes, cadw'r tŷ efo goleuadau, mae o'n anodd."

'Lot yn poeni'

Dywedodd Trey McCain, rheolwr Banc Bwyd Arfon, wrth BBC Cymru fod llawer yn dod atyn nhw oherwydd salwch, a'i fod yn gweld pethau'n gwaethygu dros y misoedd nesa'.

Disgrifiad o’r llun,

Trey McCain: "Mae lot o bobl yn poeni am wres ac electric dyddiau yma"

"'Da ni yn poeni dipyn dros bobl dros y gaeaf yma, byddan nhw'n mynd yn fwy sal oherwydd bod nhw ddim yn tanio gwres, er enghraifft.

"Ers y gwanwyn 'da ni wedi gweld mwy o bobl, a dyna pryd oedd y costau wedi dechrau mynd i fyny. Tydy hynny ddim wedi stopio.

"Mae lot o bobl yn poeni am wres ac electric dyddiau yma. Mae lot yn dod aton ni ac yn dweud 'da ni'n rhoi cymaint o bres mewn i'r meter, 'does gynnon ni ddim byd ar ôl ar gyfer bwyd."

Mae o wedi gweld cynnydd yn ddiweddar yn nifer y bobl sy'n cael eu cyfeirio i'r banc bwyd gan eu meddyg teulu neu ymwelwyr iechyd, ac mae'n gobeithio bydd modd i'r asiantaethau gwahanol gydweithio mwy yn y dyfodol.

Ond wrth i gymaint o bobl deimlo'r wasgfa ariannol, mae pryder y bydd y gefnogaeth i wasanaethau fel banciau bwyd hefyd yn prinhau, fel yr esbonia Trey McCain.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r RCP yn dweud bod angen cynllun traws-lywodraethol i leihau tlodi ac anghydraddoldebau

"Mae 'na rai eitemau 'da ni'n brin ohonyn nhw ond 'da ni'n rhannu hynny efo pobl a maen nhw'n ymateb. 'Da ni ddim yn medru anwybyddu be' sy'n mynd ymlaen, 'da ni'n gorfod aros efo ein llaw ar y llyw.

"Mae gynnon ni'r argraff bod pawb yn meddwl ddwywaith cyn iddyn nhw roi, mae pawb yn teimlo'r pinch rwan."

'Pobl yn mynd i gwtogi'

Yn ôl Dr Olwen Williams, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Ffisegwyr yng Nghymru, mae effeithiau'r argyfwng costau byw ar iechyd i'w gweld yn amlwg yn barod.

"'Da ni'n mynd i mewn i aeaf lle mae pris trydan a nwy wedi mynd fyny yn aruthrol. Mae pobl yn mynd i gwtogi lle maen nhw'n rhoi eu harian ac, wrth wneud hynny, ella bod nhw'n mynd i fyw mewn tai oer.

"Os ydy rhywun yn byw mewn tŷ oer, 'da ni'n gwybod bod y risg o gael trawiad ar y galon, cael stroc, cael niwmonia, a chael iechyd meddwl is fel iselder yn mynd i fyny'n aruthrol.

"Os 'da ni'n meddwl hefyd am gostau bwyd. 'Da ni'n gwybod bod cael bwyd iach yn cadw rhywun yn iach.

"Mae rhywun yn mynd i brynu bwyd sydd efo high calorific value ac yn processed, a 'da ni'n gwybod bod y risg o roi pwysau ymlaen o hynny. Os 'da ch'n codi'ch pwysau, mae'r risg o afiechyd yn dod mewn."

Disgrifiad o’r llun,

Dr Olwen Williams: "'Da ni'n mynd i mewn i aeaf lle mae pris trydan a nwy wedi mynd fyny yn aruthrol"

Mae Dr Williams yn credu bod yna gyfrifoldeb ar y cyd rhwng cyrff cyhoeddus ac unigolion i daclo'r sefyllfa.

"'Da ni'n gwybod bod 'na lot o bethau fedr y llywodraeth wneud yn y lle cynta' ond hefyd 'da ni'n gwybod am be' fedrith unigolion 'neud o ran faint o arian s'gynnyn nhw a sut maen nhw'n defnyddio'r arian yna.

"Ond be' sy'n mynd i ddigwydd ydy, 'da ni'n gwybod bod y tlodi sydd yng Nghymru ymysg y gwaetha' yn Ewrop, yn enwedig pan mae'n dod i blant. 'Da ni'n gwybod hefyd bod safon byw yn isel iawn a mae'r gost o hyn i'r gwasanaeth iechyd yn aruthrol.

"Be' 'da ni yn annog ydy bod y llywodraeth yn edrych ar anghydraddoldebau dros Gymru i gyd a rhoi i fewn strategaeth yn mynd ymlaen i wneud yn siwr bod pawb yn cael beth sydd angen i gael byw yn iach."

'Cymryd agwedd hirdymor'

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb a'u bod yn "cymryd agwedd hirdymor ar draws y llywodraeth tuag at drechu tlodi yng Nghymru".

Ychwanegon nhw: "Eleni yn unig rydym yn gwario dros £1.6bn ar gynlluniau sy'n targedu'r argyfwng costau byw ac ar raglenni sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl. Ond mae'r prif ysgogiadau ar gyfer mynd i'r afael â thlodi - y pwerau dros y system dreth a lles - gan Lywodraeth y DU.

"Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn gyda'r pwerau sydd gennym i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i bawb yng Nghymru."