Gareth Williams: Cofio'r 'athrylith' MI6 a dirgelwch ei farwolaeth

  • Cyhoeddwyd
Gareth Wyn Wlliams

"Dwi'n gobeithio ein bod ni yn llwyddo i roi darlun o berson sydd dal yn fyw yng nghof y rhai oedd yn ei adnabod... fel bod gan y cyhoedd fwy nag un ffordd o gofio amdano - nid yn unig fel yr ysbïwr fu farw mewn ffordd tu hwnt i unrhyw esboniad, ond fel athrylith annwyl, tawel, hoffus."

Ddeuddeg mlynedd ers marwolaeth Gareth Wyn Williams o Ynys Môn, oedd yn gweithio i'r gwasanaethau cudd mae podlediad newydd yn pwyso a mesur ei fywyd ac amgylchiadau tywyll ei farwolaeth yn 31 mlwydd oed.

Cafwyd hyd i gorff Gareth Williams wedi ei gloi mewn bag oedd wedi ei osod mewn bath yn ei fflat yn Llundain fis Awst 2010.

Roedd y dyn ifanc oedd yn wreiddiol o'r Fali yn gweithio i GCHQ - asiantaeth diogelwch a chuddwybodaeth y llywodraeth - ac i MI6.

Yn 2012 daeth ymchwiliad crwner i'r casgliad bod ei farwolaeth yn "annaturiol ac yn debygol o fod wedi bod yn ganlyniad i drosedd" ond ei bod yn "annhebygol y bydd eglurhad derbyniol".

Ers hynny mae Heddlu'r Met wedi dweud eu bod nhw o'r farn mai "marwolaeth drwy ddamwain" sydd yn fwy tebygol a'u bod yn archwilio'r dystiolaeth.

Dod i adnabod Gareth

Mae'r newyddiadurwr o Wynedd, Anna-Marie Robinson, wedi gweithio ar y gyfres Audible, Man in a Bag, gyda'r cyflwynwyr Jonathan Maitland a Vanessa Bowles sy'n ceisio darganfod beth arweiniodd at ei farwolaeth erchyll.

Ond mae'r gyfres hefyd yn ceisio rhoi darlun o'r dyn tu ôl i benawdau'r papurau newydd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd lluniau CCTV o Gareth Williams yn siopa yn y dyddiau cyn ei farwolaeth

"Mae'n bwysig iawn i ni fod pobl yn dod i 'nabod Gareth y dyn - yn hytrach na'i adnabod fel ysbïwr oedd wedi marw mewn ffordd erchyll yn unig. Roedden ni yn teimlo nad oedd hynny wedi cael ei wneud," meddai Anna-Marie wrth BBC Cymru Fyw.

"Yr her i fi oedd siarad gyda phobl oedd yn ei adnabod - yn ffrindiau efo fo, wedi ei ddysgu, wedi gweithio efo fo, yn perthyn iddo, beicio efo fo (roedd o yn feiciwr arbennig o dda) er mwyn gallu rhoi darlun mor grwn a phosib ohono."

Beth ydy'r darlun ohono sy'n cael ei ddatgelu?

"Roedd, yn ôl pob tebyg, yn ddyn preifat, trylwyr, a threfnus iawn. Roedd ganddo hiwmor arbennig hefyd. Ac er nad oedd yn un i gymryd risg, rydyn ni yn clywed amdano yn gwneud hynny ar o leia un achlysur yn ei fywyd.

"Roedd hefyd yn teithio'r byd i ddilyn ei gariad at rifau, a codio, a chyfrifiadureg - a dyna oedd, wrth gwrs, wrth wraidd ei waith o yn GCHQ ac MI6."

Roedd ganddo ddiddordebau eraill y tu hwnt i'r byd mathemateg ac wedi dilyn cwrs mewn ffasiwn yng Ngholeg St Martin's yn y misoedd cyn iddo farw.

'Talent disglair'

Nid ar chwarae bach mae defnyddio'r gair 'athrylith' ond fe glywn yn y podlediad gan ddau o gyn athrawon Gareth Wyn Williams yn Ysgol Bodedern pam fod y disgrifiad yn gwbl addas yn yr achos yma.

"Roedd ei dalent yn disgleirio o pan oedd yn ifanc iawn," meddai Anna-Marie.

"Mae stori hyfryd amdano yn bump oed yn gwneud argraff arbennig ar Athro Mathemateg o Brifysgol Bangor [drwy siarad am fathemateg deuaidd - binary].

Disgrifiad o’r llun,

"Mi aeth i'r ysgol uwchradd cyn ei amser, nes i'r athrawon yno redeg allan o bethau i ddysgu iddo, ac mi gychwynnodd ar radd ym Mangor yn 14 oed"

"Mi aeth i'r ysgol uwchradd cyn ei amser, nes i'r athrawon yno redeg allan o bethau i ddysgu iddo, ac mi gychwynodd ar radd ym Mangor yn 14 oed.

"Mae disgrifiadau hyfryd o sut oedd o yn llwyddo i synnu ei diwtor maths dro ar ôl tro, ac yn sgwennu codes cyfrifiadurol cyn ei fod yn ei arddegau, rhai mwy soffistigedig na'i athro cyfrifiadureg.

"Roedd ganddo berthynas arbennig iawn gyda'r athrawon yma, oedd yn amlwg ffond ohono, ac yn cofio, ymysg pethau eraill, ei chwerthiniad unigryw."

Cefndir a magwraeth Gymreig

Mae pennod o'r podlediad yn mynd â'r gwrandawyr nôl at y diwylliant Cymraeg ym Môn yr oedd Gareth Williams yn dod ohono - pa mor bwysig oedd hynny i ddeall pwy oedd o?

"Mae mwyafrif y bobl sydd wedi gwrando ar y podcast yn dweud wrtha' i mai hon ydy eu hoff bennod, gan ei bod yn eu galluogi i ddod i adnabod Gareth yn well, i ddysgu ychydig am Fôn, am Gymru, am ein hiaith a sut rydan ni yn byw yma, sydd o ganlyniad yn eu helpu nhw i ddysgu mwy am gefndir Gareth, a sut fagwraeth oedd o wedi ei gael," meddai Anna-Marie Robinson.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n credu bod dyletswydd ar newyddiadurwyr ymchwiliadol i ofyn y cwestiynau hyn... a rhoi cyfle i bobl siarad amdano, mewn ffordd resymol a pharchus," meddai'r newyddiadurwr Anna-Marie Robinson

"Mae meddylfryd 'Gwlad y Medra' i'w weld ynddo - rhywun oedd wedi gadael yr ynys fechan hon a mynd allan i fyd ysbïwyr, byd cudd, byd sydd yn gallu bod yn un peryglus i weithio ynddo.

"Oedd hon yn bennod bwysig i mi yn bersonol - gan bod y cyfryngau yn draddodiadol wedi canolbwyntio ar elfennau mwy tabloid ei fywyd preifat - roedden ni eisiau rhoi cydbwysedd i hynny a chanolbwyntio ar y Gareth oedd y rhai oedd yn ei 'nabod wrthi iddo dyfu fyny yn ei adnabod, a be' sydd yn dod drwodd yn amlwg iawn oedd pa mor annwyl a chlyfar oedd o."

Cysylltiadau gyda Rwsia?

Gan geisio dadansoddi beth allai fod wedi digwydd iddo mae'r gyfres yn siarad gyda nifer o gyfranwyr gan gynnwys y gwasanaethau cudd, yr heddlu, arbenigwyr fforensic, ystadegwr a dyn sydd wedi ffoi o Rwsia.

Ffynhonnell y llun, BBC news grab

"Rydyn ni hefyd yn clywed gan ddynes a gollodd ei gŵr drwy ddamwain yn ystod gweithred ryw, unigolion sydd yn rhwymo eu hunain i gael rhyddhad o bwysau bywyd, Aelod Seneddol sydd â mynediad i ddogfennau cyfrinachol, ac ymchwil newyddiadurol sy'n honni bod Gareth ymysg 14 o bobl mae'r Rwsiaid wedi eu lladd ym Mhrydain," esbonia Anna-Marie.

Ydy'r pod yn datrys ei farwolaeth?

"Mae 'na gonsensws o rhyw fath ynglŷn a be ddigwyddodd, ar ôl pwyso a mesur y posibiliadau mwyaf tebygol. Nid datrysiad ydy o - ond canlyniad - ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.

"Mi glywch yn y gyfres nad ydw i wedi fy argyhoeddi'n llwyr gyda'r canlyniad mae'r cyflwynwyr yn dod iddo," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, CARL COURT

'Dyw teulu Gareth ddim wedi siarad gyda'r cyfryngau o gwbl ers ei farwolaeth a doedd sawl un a siaradodd gyda Anna-Marie ddim eisiau mynd ar record er parch iddyn nhw.

Mae hynny'n ddealladwy o ystyried y boen maen nhw wedi, ac yn, mynd trwyddo. Mae hefyd yn siŵr o wneud i unrhyw newyddiadurwr gwestiynu ei hun wrth weithio ar y stori.

"Mae yn ddilema moesol," meddai Anna-Marie "oherwydd mae rhywun o hyd eisiau cydweithio gyda'r teuluoedd wrth wneud ymchwil i be' sydd wedi digwydd i'w hanwylyd. Mae cael sêl bendith a chaniatâd wedi bod yn bwysig i mi geisio ei gael yn ystod fy ngyrfa; roedd cymryd rhan yn anodd oherwydd hyn.

"Ond roedd Gareth yn gweithio i'r wlad; bu farw mewn ffordd trasig, a does dim eglurhad, dim prawf tu hwnt i unrhyw amheuaeth resymol o be' ddigwyddodd iddo, a pham.

"Oherwydd hynna dwi'n credu bod dyletswydd ar newyddiadurwyr ymchwiliadol i ofyn y cwestiynau hyn, i geisio dod o hyd i atebion, a rhoi cyfle i bobl siarad amdano, mewn ffordd resymol a pharchus.

"Dwi'n gobeithio ein bod ni yn llwyddo i roi darlun o berson sydd dal yn fyw yng nghof y rhai oedd yn ei adnabod; darlun sydd yn mynd i aros yng nghof y rhai sydd yn gwrando, fel bod gan y cyhoedd fwy nag un ffordd o gofio amdano - nid yn unig fel yr ysbïwr fu farw mewn ffordd tu hwnt i unrhyw esboniad, ond fel athrylith annwyl, tawel, hoffus."

Pynciau cysylltiedig