Technoleg yn 'arf pwerus' i blant siapio'r dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Disgybl yn defnyddio technoleg Eye Gaze
Disgrifiad o’r llun,

Mae technoleg yn galluogi plant gydag anghenion addysg arbennig i fod yn rhan o'r arolwg

Am y tro cyntaf mae plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysg arbennig i gael cyfle i roi gwybod i Gomisiynydd Plant Cymru beth sy'n bwysig iddyn nhw, ac argymell pa bynciau ddylai gael ei sylw.

Bob tair blynedd mae'r comisiynydd yn cyhoeddi cynlluniau yn amlinellu blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod wrth warchod a hyrwyddo hawliau plant.

Mae arolwg yn cael ei gynnal ymysg miloedd o ieuenctid Cymru er mwyn dweud bet ddylai gael blaenoriaeth, ond dyma'r tro cyntaf i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion arbennig; rhai yn ddwys, gael cyfle i ddweud eu dweud.

Eleni, mae'r Comisiynydd Plant, Rocío Cifuentes wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Tŷ Coch, Tonteg er mwyn datblygu meddalwedd fydd yn galluogi disgyblion sy' ag anghenion dysgu dwys i fod yn rhan o'r broses.

Mae Leigh Wharton, athrawes yn yr ysgol, wedi addasu meddalwedd Eye Gaze er mwyn ateb cwestiynau holiadur y comisiynydd.

Mae Eye Gaze yn dilyn symudiadau y llygaid wrth edrych ar sgrin cyfrifiadur, ac yn gallu nodi ymateb y disgybl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae plant yn defnyddio eu llygaid wrth wylio sgrin i ateb cwestiynau

Dywedodd Ms Wharton: "Mae'r plant nawr yn gallu defnyddio eu llygaid i ddweud eu dweud ac i ddatgan barn ar bynciau sydd yn bwysig iddyn nhw."

Mae'r ysgol eisoes yn defnyddio'r dechnoleg yma i helpu plant i gyfathrebu yn eu gwersi bob dydd neu mewn materion personol.

Er enghraifft os ydyn nhw'n teimlo yn sal, maent yn gallu defnyddio eu llygaid wrth wylio'r sgrin i esbonio yn well beth sy'n bod, neu beth sy'n eu poeni.

Mae pennaeth yr ysgol, David Jenkins, yn dweud eu bod nhw'n frwd eithriadol dros "ddathlu gwahaniaeth a gwahanol allu, a sicrhau fod lleisiau pob plentyn yn cael eu clywed", a bod Eye Gaze yn "arf pwerus er mwyn gwneud hynny".

Disgrifiad o’r llun,

Rocío Cifuentes yw Comisiynydd Plant Cymru

Dywed Ms Cifuentes bod yr arolwg yn "gyfle i ragor o blant a'u rhieni a gofalwyr i ddweud beth ddylai fod yn cael ei sylw yn y tair blynedd nesaf", a'i bod wedi ymrwymo i weithredu ar sail be' mae yn glywed.

Dywedodd ei bod hi wedi gweithio'n galed i sicrhau fod cynifer o blant â phosib yn rhan o'r arolwg eleni, a'i bod yn gobeithio y byddan nhw'n manteisio ar y cyfle i wneud hynny.

Yn Ysgol Tŷ Coch mae disgyblion eisoes wedi dechrau ateb yr holiadur.

Fe fydd hi'n broses hir, medd athrawon, ond maen nhw'n benderfynol o ddefnyddio technoleg i gael "lleisio barn a dweud wrth y comisiynydd be' sy'n bwysig iddyn nhw".

Fe fydd yr arolwg yn cau ar 5 Tachwedd ac mae disgwyl y bydd y comisiynydd yn cyhoeddi ei rhaglen waith ym mis Ebrill.

Pynciau cysylltiedig