Troi allan heb fai: Mwy o denantiaid i gael amddiffyniad chwe mis
- Cyhoeddwyd
Bydd angen rhoi chwe mis o rybudd gadael i denantiaid yng Nghymru, o dan gynlluniau munud olaf i newid cyfraith tai.
Bydd y telerau newydd yn berthnasol i denantiaid heb unrhyw fai (no fault eviction) sydd ar ar gontractau cyfnodol heb unrhyw ddyddiadau terfyn penodol - ond nid cytundebau cyfnod penodol.
Mae disgwyl i reolau newydd ar gyfer landlordiaid ddod i rym ym mis Rhagfyr - ond dim ond ar gyfer rhentwyr newydd.
Wrth gyfaddef bod y gyfraith yn gadael llawer mewn perygl o gael eu troi allan ar fyr rybudd, mae gweinidogion yn ymgynghori i'w newid.
Ond gyda'r newidiadau arfaethedig yn berthnasol o fis Mehefin yn unig, mae ofnau y gallai danio "ton o droi allan".
Gohirio'r ddeddfwriaeth
Galwodd Shelter Cymru ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r cynlluniau i ymestyn cyfnodau rhybudd troi allan i chwe mis ar gyfer pobl sydd â thenantiaethau eisoes.
Dywedodd grŵp tai arall y bydd hi'n "hynod o anodd" yn y farchnad bresennol i bobl sy'n cael eu troi allan cyn yr haf ddod o hyd i gartrefi.
Yn y cyfamser galwodd corff landlordiaid am i'r oedi fod hyd yn oed yn hirach, gan ddweud bod newidiadau ar fyr rybudd yn arwain rhai i adael y sector.
Lansiodd gweinidogion yr ymgynghoriad, dolen allanol yn dilyn pryderon ynghylch sut roedd y gyfraith wreiddiol yn mynd i weithio.
Mae'n newid i ddeddfwriaeth Rhentu Cartrefi Cymru sydd eisoes wedi'i gohirio, a fydd yn gweld trosi contractau tenantiaid i'w symleiddio a rheolau newydd i landlordiaid i gadw eu cartrefi mewn cyflwr da.
Pasiwyd y gyfraith yn wreiddiol chwe blynedd yn ôl, ac fe'i diwygiwyd yn 2021 i gynnwys y rheolau troi allan heb fai. Roedd i fod i ddod i rym yn yr haf, cyn iddo gael ei ohirio tan fis Rhagfyr.
'System llai effeithiol'
Troi allan heb fai yw lle gall landlordiaid preifat ofyn i denantiaid adael heb roi rheswm - o dan y gyfraith bresennol mae angen i landlordiaid roi dau fis i denantiaid.
Mae galwadau ers tro am ddiwygio achosion o droi allan heb fai - dywed Shelter Cymru y gall fod yn anodd i denantiaid ddod o hyd i gartref mewn cyfnod mor fyr.
O dan y ddeddfwriaeth Rhentu Cartrefi bydd gan denantiaid newydd o leiaf blwyddyn i fyw yn eu cartref - ar ôl y cyfnod cychwynnol o chwe mis byddai angen i landlordiaid roi rhybudd o chwech arall os ydynt am droi allan.
Yn yr ymgynghoriad dywedodd Llywodraeth Cymru fod y ffordd yr oedd y gyfraith tai newydd wedi ei llunio yn golygu y byddai "nifer sylweddol" o denantiaid yn parhau i fod yn destun cyfnodau rhybudd o ddau fis am "rai blynyddoedd".
Dywedodd fod gan reolau "anfantais ymarferol o wneud y system Rhentu Cartrefi yn llai effeithiol o ran gwella sicrwydd deiliadaeth" i bobl ar gontractau tenantiaeth fyrddaliadol sicr (ASTs).
Ychwanegodd yr ymgynghoriad, gan fod y newid mewn "cam cymharol hwyr", bod "achos cryf" dros roi'r newidiadau ar waith chwe mis ar ôl i'r ddeddf ddod i rym, "gan ganiatáu amser i landlordiaid wneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i baratoi ar gyfer eu gweithredu".
'Pryder gwirioneddol'
Fe ysgogodd hynny "bryder gwirioneddol" gan Shelter Cymru, a ddywedodd fod angen i'r estyniad i'r cyfnod rhybudd "ddigwydd ar 1 Rhagfyr 2022, ochr yn ochr â'r newidiadau eraill, er mwyn atal ton o achosion o droi allan yn y misoedd ar ôl y Nadolig".
Roedden nhw ymhlith y sefydliadau oedd wedi siarad â Llywodraeth Cymru am y gwahaniaeth yn y ffordd y byddai tenantiaid yn cael eu trin.
Ychwanegodd y llefarydd eu bod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn cyfnodau rhybudd troi allan i chwe mis ar gyfer pobl sydd â thenantiaethau eisoes "a'u bod yn falch o weld eu bod yn gwrando".
Mae Cymorth Cymru, sefydliad sy'n cynrychioli gwasanaethau tai, hefyd wedi mynegi pryder i Lywodraeth Cymru ynghylch sut roedd y gyfraith wreiddiol yn mynd i weithio.
Croesawodd y cyfarwyddwr Katie Dalton y cynnig ond mynegodd hefyd ofnau y byddai'r oedi "yn gadael tenantiaid presennol yn wynebu cyfnod hir a diangen o annhegwch ac ansicrwydd".
"Os yw pobl yn cael eu troi allan yn ystod y cyfnod hwnnw, dim ond dau fis fyddai ganddyn nhw i ddod o hyd i gartref newydd - ac yn y farchnad dai bresennol, byddai hynny'n hynod o anodd i lawer o bobl."
Landlordiaid yn gadael
Fe wnaeth Douglas Haig, un o gyfarwyddwyr Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl, gyhuddo Lywodraeth Cymru o "newidiadau cyson a byr rybudd... a ninnau lai na dau fis o'u gweithredu".
Honnodd ei fod yn "rheswm arall eto pam ein bod yn gweld landlordiaid yn gadael y sector", gan ddweud bod landlordiaid wedi bod yn ymrwymo i gontractau "yn disgwyl gallu cadw eu cyfnod rhybudd o ddau fis".
Mae troi allan heb fai wedi'i wahardd yn yr Alban ar gyfer tenantiaethau yn dechrau ar ôl Rhagfyr 2017, ac mae cynlluniau i wneud yr un peth yn Lloegr.
Bydd cyfnodau rhybudd byrrach yn berthnasol yng Nghymru ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol, ôl-ddyledion rhent a thoriadau eraill.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan bawb hawl i gartref gweddus, fforddiadwy a, phan ddaw i rym fis Rhagfyr eleni, bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn trawsnewid y sector rhentu yng Nghymru yn llwyr.
"Bydd yn dod â llawer mwy o dryloywder a chysondeb i rentu cartref ac yn diogelu buddiannau landlordiaid a thenantiaid.
"Profodd y cyfnod rhybudd dim bai o chwe mis yn ystod cyfyngiadau Covid yn ymarferol.
"Byddai ein cynnig i gymhwyso hyn i denantiaethau presennol, yn ogystal â rhai newydd, o dan y Ddeddf Rhentu Cartrefi yn gam pwysig ymlaen i wella diogelwch i denantiaid, yn enwedig o ystyried yr heriau presennol sy'n wynebu aelwydydd a gwasanaethau cyhoeddus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2022