Cwmni o Loegr yn gwahodd trigolion ym Môn i werthu tai

  • Cyhoeddwyd
Traeth Coch
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Coch, un o brif atyniadau Benllech ym Môn

Mae cwmni o Loegr wedi cael ei feirniadu am anfon llythyr yn gwahodd trigolion yn Ynys Môn i werthu neu rentu eu heiddo.

Cafodd un llythyr gan Coastal Holidays, cwmni o Warwick sy'n arbenigo mewn gwerthu gwyliau yng ngogledd Cymru, ei anfon at etholwr ym Menllech.

Dywedodd, yn Saesneg: "Rwy'n chwilio am eiddo yn eich ardal ac yn meddwl tybed a fyddai gennych ddiddordeb mewn gwerthu neu rentu eich eiddo yn y tymor hir."

Yn ôl Aelod o'r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, mae'n enghraifft o gwmni "yn trio mynd ati'n bwrpasol i dynnu tai allan o'r stoc dai lleol, yn amddifadu pobl o fewn y gymuned rhag y gallu i brynu'r tai yna, yn gwthio prisiau i fyny".

Gofynnodd i Weinidog y Gymraeg yn y Senedd brynhawn Mawrth a oedd yn "cytuno efo fi bod yr hyn yr ydym ni wedi'i weld yn y llythyr yma yn arfer gwael".

Atebodd Jeremy Miles: "Dwi'n sicr yn derbyn ei bod hi'n arfer drwg."

'Tyfu ein portffolio'

Mewn ymateb, dywedodd y cwmni wrth y BBC: "Nid ydym yn gweld hyn fel arfer gwael, rydym yn syml yn anelu at gynnig cyfrwng/strategaeth ymadael amgen i lawer o berchnogion ail gartrefi yng Nghymru, sydd bellach yn bwriadu gwerthu eu heiddo oherwydd y newidiadau arfaethedig newydd a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i ymestyn ffiniau ardrethi busnes."

O fis Ebrill 2023, bydd cynghorau Cymru'n cael codi'r dreth ar ail dai i hyd at 300%, a bydd y cyfnod lle mae llety hunanarlwyo yn gymwys ar gyfer trethi busnes yn ymestyn o 70 i 182 diwrnod.

Mae'n rhan o gytundeb rhwng Llafur a Phlaid Cymru i geisio'i gwneud hi'n haws i bobl leol brynu tŷ yn eu milltir sgwâr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Miles a Rhun ap Iorwerth yn gytûn fod hyn yn arfer gwael gan y cwmni o Warwick

Ychwanegodd Coastal Holidays yn y datganiad i'r BBC: "Fel busnes, rydym yn edrych i dyfu ein portffolio o eiddo ar draws gogledd Cymru.

"Mae ein gwesteion eisiau eiddo yn yr ardal hon ac o ganlyniad rydym yn edrych ar rai strategaethau amgen i roi mwy o ddewis iddynt ac i ehangu ein busnes."

Dywedodd y cwmni ei fod "fel rhan o ddiwydiant twristiaeth Cymru... yn cyflogi staff o Gymru, o bersonél swyddfa i lanhawyr i weithwyr cynnal a chadw proffesiynol, sydd oll yn byw yn yr ardaloedd hyn ac yn elwa o'r gyflogaeth hon".

Gofynnwyd i'r cwmni faint o'r llythyrau a anfonwyd ganddynt ar yr ynys, ond wnaethon nhw ddim ymateb.

'Arfer da ddim wastad yn ddigon'

Ychwanegodd Mr Miles am lythyr y cwmni: "Dyna'r union fath o beth ry' ni eisiau mynd i'r afael ag e yn y cynlluniau ehangach sydd gyda ni. Mae'r hyn ry' ni'n datgan heddiw yn gwneud cyfraniad.

"Dyw arfer da ddim wastad yn ddigon; mae angen newid deddfwriaeth a newid trethi ar gyfer gwneud hynny. Rydyn ni, wrth gwrs, yn gwneud hynny o ran cynllunio, o ran treth LTT [Treth Trafodiadau Tir] ac ati.

"Felly, mae'r ystod ehangach o bethau hynny i gyd, ar y cyd, rwy'n gobeithio, rwy'n ffyddiog, yn mynd i wneud gwahaniaeth."

Roedd y ddau AS o'r farn ei fod yn dangos yr angen am y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a gyhoeddwyd fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Mae'r cynllun yn cynnwys creu "rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol" mewn cymunedau yng Nghymru er mwyn esbonio ein diwylliant a'n hiaith i bobl sy'n symud i'r ardal.

Ac er mwyn gwarchod enwau lleoedd Cymraeg bydd y llywodraeth yn "comisiynu ymchwil trylwyr".

Ymatebodd y Ceidwadwyr i'r cynllun trwy ddweud na ddylai fod "unrhyw ragfarn yn erbyn unrhyw berson sy'n edrych i brynu tŷ yng Nghymru", a mynegodd Cymdeithas yr Iaith "siom bod cymaint o'r mesurau... yn dal i ddibynnu ar weithredoedd gwirfoddol".