Tŵr ar fryniau'r Preselau: 'Niweidio tirlun sanctaidd'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu cynlluniau i godi tŵr telegyfathrebu ar fryniau'r Preselau wedi disgrifio'r cais fel un "hynod niweidiol" i "dirlun sanctaidd".
Mae cwmni Britannia Towers II Ltd wedi cyflwyno cais i godi tŵr dur 51 metr o uchder ar safle 380 metr uwchben lefel y môr.
Fe fyddai'r tŵr yn darparu cyswllt meicrodon rhwng canolfannau data yn ymwneud â'r byd ariannol yn Wexford a Llundain, ar gyfer cwmni sydd â'i bencadlys yn yr Iseldiroedd.
Yn ôl cwmni Wholesailor, Coedwig Pantmaenog yw'r "safle mwyaf ffafriol" a does yna ddim lle ar gyfer offer ar dŵr teledu Preseli sydd wedi ei leoli ar Foel Dyrch.
Mewn llythyr at Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Wholesailor yn dweud bod "angen caniatad cynllunio ar frys" ar gyfer y tŵr telegyfathrebu.
Mae'r safle, uwchben pentref Rosebush, yn rhan o'r Parc. Mae'r goedwig yn eiddo i dirfeddianwr preifat, ond mae yna lwybrau cyhoeddus ar y tir.
'Rhywbeth hyll'
Yn ôl Jacob Martin sy'n byw ym mhentref Maenclochog gerllaw, mae'r datblygiad yn poeni pobl y cylch.
"Mae llawer o bryder", meddai. "Mae'n rhywbeth mawr sydd yn mynd i fod yng ngolwg pob un sydd yn byw ym Maenclochog.
"Rhywbeth hyll ar le sydd yn brydferth, ein gardd ni, fel pobl. Bydd e'n dinistrio fe.
"Bydd llai o dwristiaid yn dod. Mae'n rhywbeth gwael i ni gyd. Fyddwn ni ddim yn cael unrhywbeth o gwbl [o'r cais]."
Mae Jess Wallace, sydd yn artist lleol, wedi dweud y byddai caniatau'r tŵr yn "gosod cynsail peryglus" ar "dir sydd wedi bod yn sanctaidd am filoedd o flynyddoedd".
Beth yw'r cynllun?
Mae'r cais cynllunio yn sôn am godi naw o ddysglau lloeren ynghŷd â chwe antenna ar gyfer ffonau symudol, er bod dim sôn bod yna gwmniau ffôn symudol yn bwriadu defnyddio'r tŵr.
Mewn papur sydd wedi ei baratoi gan gwmni o arbenigwyr, Digis, fe honnir y bydd y tŵr newydd yn "datrys rhai o'r rhwystrau ar gyfer derbyniad signal rhwydweithiau 3G a 4G, a darparu capasiti newydd ar gyfer rhwydweithiau'r dyfodol".
Yn ôl Elinor Williams, Pennaeth Materion Rheoleiddiol Ofcom Cymru, mae signal ffôn symudol gwael yn parhau yn broblem mewn rhai ardaloedd: "Mae cael signal da yn dibynnu ar gael mastiau.
"Heb fastiau, does dim modd sicrhau darpariaeth dda ar draws Cymru, ac mae gwir angen gwella darpariaeth ffôn symudol ar draws Cymru gyfan, yn enwedig yn ein hardaloedd mwyaf gwledig", meddai.
"Mae rhaglen waith gan y darparwyr sef buddsoddiad o gannoedd o filiynau o bunnau - Rhwydwaith a Rennir - sydd yn mynd i weld gwelliant sylweddol mewn darpariaeth symudol yng Nghymru. Mae'n rhaid adeiladu mastiau newydd a'r darparwyr sydd yn gwybod ble mae'r safleoedd gorau.
"Mae'n rhaid sicrhau fod pawb yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn sicrhau bod Cymru yn elwa o'r cynllun yma.
"Oherwydd y tirwedd yng Nghymru, mae'r her yn fwy ac mae'n rhaid i'r mastiau fod yn fwy llydan ac yn fwy ac mae'n rhaid iddyn nhw fod yn uwch."
Mae Cyngor Cymuned Maenclochog wedi gwrthwynebu'r cais cynllunio yn ffurfiol.
Mae Carwyn Phillips yn aelod o'r cyngor: "Dyw e ddim yn mynd i benefitto'r gymuned fel mae rhai pobl yn meddwl. Mae'n mynd i benefitto rhyw gwmni finance mowr.
"Mae'n part o'r Parc Cenedlaethol Sir Benfro ac mae'n hardd iawn. Sdim angen tŵr mor uchel os ydy pobl eisiau gwell signal, sdim eisiau tŵr uchder 'na.
"Mae lot o bobl yn erbyn e. Ni wedi gwrthwynebu fe. Smo fe'n mynd i helpu'r gymuned o gwbl."
Doedd y cwmni sydd wedi cyflwyno'r cais, Britannia Towers II, ddim yn fodlon gwneud unrhyw sylw.
Yn ôl Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, fe fydd y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cais yn cau ar Hydref 15.
Doedd y Parc ddim yn barod i wneud unrhyw sylw ar hyn o bryd am nad yw'r cais wedi cael ei drafod eto.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2022
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2016