'Angen newid y ffordd o reoli parciau cenedlaethol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen newid sut mae parciau cenedlaethol yn cael eu rheoli "yn weddol gyflym" er mwyn eu cynnal ar gyfer y dyfodol, yn ôl pennaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Dywedodd Catherine Mealing-Jones fod cynnydd yn nifer yr ymwelwyr ers y pandemig wedi rhoi "pwysau aruthrol" ar gymunedau lleol.
Mae cynlluniau newydd i leihau'r straen ar yr amgylchedd wedi'u cyflwyno ar gyfer yr holl barciau cenedlaethol.
Parcio ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yw'r heriau mwyaf sy'n wynebu parciau cenedlaethol Cymru, yn ôl arolwg diweddar gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
'Ennill cefnogaeth cymunedau'
Fe welodd pob un o dri pharc cenedlaethol Cymru dwf cyson yn nifer yr ymwelwyr cyn y pandemig.
Ond yn 2020/21, roedd cynnydd mawr yn nifer y twristiaid ym mharciau cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro, a rhoddodd straen enfawr ar yr amgylchedd a chymunedau lleol.
Yn ôl adroddiad ar dwristiaeth gynaliadwy ym mharciau cenedlaethol Cymru, a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol fis Mehefin, mae problemau parhaus a hir sefydlog gyda'r isadeiledd lleol yn eu hardaloedd.
Dywedodd Ms Mealing-Jones: "Mae angen i'n ffordd o reoli'r tirweddau newid yn eithaf cyflym, yn ogystal â sut rydym yn ceisio ennill cefnogaeth ein cymunedau wrth gyflwyno'r newidiadau yma.
"Rydyn ni wedi gweld cynnydd mewn pobl yn cynnau barbeciws ar ochr y mynyddoedd, beicio oddi ar y ffyrdd a gwersylla gwyllt.
"Dydw i ddim yn credu ei fod o reidrwydd yn fater o gael mwy o bwerau fel awdurdod i ddelio â'r problemau yma.
"Mae'n fwy i wneud â sut rydyn ni'n dylanwadu ar bobl i beidio â gwneud hynny yn y lle cyntaf.
"Mae yna awdurdodau fel yr heddlu a thân ac achub sydd â phwerau i ymdrin â hynny, ac mae angen i ni weithio ochr yn ochr â nhw."
Gwelodd meysydd parcio prif atyniadau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog tua 25% o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr ers y cyfnod cyn y pandemig, ond mae disgwyl i'r gwir niferoedd fod yn uwch fyth.
Mae cynlluniau newydd i leihau pwysau ar yr amgylchedd yn cynnwys cyflwyno cynllun peilot parcio a theithio ar gyfer Pen y Fan.
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn datblygu maes parcio Pen y Fan. Ymhlith y gwelliannau mae trobwynt i fysiau a gwell cyfleusterau i ymwelwyr, fel toiledau newydd a chaffi.
Mae heriau tebyg ym Mharc Cenedlaethol Eryri wedi dod i'r amlwg hefyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Fe wnaeth niferoedd digynsail ymweld â pharc cenedlaethol mwyaf Cymru yn 2020/21.
Problemau'n cynyddu
Dywedodd warden Yr Wyddfa, Alun Jones: "Mae tua 600,000 o bobl yn ymweld bob blwyddyn ac mae hynny wedi bod yn cynyddu tua 50,000 o bobl y flwyddyn.
"Dyw Eryri ddim yn gallu cynnal nifer y bobl a welsom ni yn ystod y cyfnodau clo, felly dydyn ni ddim eisiau gweld hynny eto.
"Rydyn ni wedi gweld cynnydd yn nifer y problemau gyda phobl yn gwersylla gwyllt, ac rydyn ni'n dueddol o weld barbeciws yn cael eu goleuo mewn ardaloedd gwarchodedig.
"Cyn Covid-19 doedden ni ddim mor brysur â hyn yn ystod yr wythnos, ac mae penwythnosau'n brysur iawn."
I oresgyn rhai o'r problemau gyda pharcio anghyfreithlon a gormod o bobl ar rai o lwybrau'r Wyddfa, mae'r parc wedi cyflwyno mesurau newydd yn ddiweddar fel system archebu ar gyfer parcio ym Mhen y Pass - y man cychwyn mwyaf poblogaidd ar gyfer dringo'r Wyddfa.
Mae gwasanaeth bws parcio a theithio hefyd wedi'i gyflwyno, ac mae wardeniaid yn gweithio gyda'r cyngor lleol i ddosbarthu tocynnau parcio i bobl sy'n parcio'n anghyfreithlon, meddai Mr Jones.
'Sicrhau cydbwysedd yn heriol'
Dywedodd llefarydd ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Gyda chynnydd blynyddol mewn niferoedd ymwelwyr, mae sicrhau cydbwysedd rhwng gwarchod yr amgylchedd a'r cymunedau tra hefyd yn hyrwyddo cyfleoedd i ymwelwyr i fwynhau'r ardal yn dod yn fwy heriol.
"Mae system rhagarchebu newydd a chyfleus wedi ei weithredu ar gyfer maes parcio Pen y Pass yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus.
"Mae'r rhain yn rhan o gyfres o gamau dechreuol tuag at weithredu strategaeth parcio a thrafnidiaeth hirdymor ar gyfer ardaloedd Yr Wyddfa ac Ogwen yn y Parc Cenedlaethol.
"Rydym hefyd wedi sefydlu cynllun gwirfoddoli sylweddol, Caru Eryri/Care for Snowdonia mewn partneriaeth gyda'r Bartneriaeth Awyr Agored, Cymdeithas Eryri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
"Mae'r gwirfoddolwyr arbennig yma allan bob penwythnos ac yn ystod dyddiau penodol yn yr wythnos yn casglu sbwriel ac yn cynghori ymwelwyr."
Mae gwirfoddolwyr gyda Chymdeithas Eryri yn aml i'w gweld o amgylch y parc yn cynnal a chadw llwybrau, codi sbwriel a sgwrsio gydag ymwelwyr.
"Rydw i wedi bod yn cael llawer o sgyrsiau gyda phobl sy'n ymweld y parc am y tro cyntaf efallai," meddai Mary Williams, swyddog gwarchodaeth Cymdeithas Eryri.
"Mae lot o bobl yn dod yma ac heb wersylla o'r blaen, neu dyma'u tro cyntaf yn y mynyddoedd a'r tro cyntaf i edrych ar fap.
"Mae'n dda i gael grŵp ohonom ni sy'n hawdd i ddod aton ni i ofyn cwestiynau ac i gael gwybodaeth ynglŷn â'r parc."
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn rhannu heriau tebyg, ond yn wahanol i barciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog, does yna ddim pwysau mawr mewn ardaloedd penodol yn aml.
Dywedodd llefarydd ar ran y parc: "Gydag arfordir sy'n 186 milltir o hyd, mae gennym ni y fantais o allu 'lledaenu'r llwyth' ychydig yn fwy cyfartal na rhai parciau cenedlaethol eraill, ond yr un mor bwysig yw sicrhau bod Sir Benfro yn cefnogi twristiaeth 'adfywiadol', lle mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ystyried eu hunain fel 'pobl leol dros dro' ac i drysori'r lle yn unol â hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021
- Cyhoeddwyd27 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd9 Mai 2022