Truss yn gwneud tro pedol ar drethi ar ôl diswyddo Kwarteng

  • Cyhoeddwyd
Kwasi Kwarteng

Mae Kwasi Kwarteng wedi cael ei ddiswyddo fel Canghellor y DU.

Daw'r penderfyniad yn dilyn wythnosau o ansicrwydd wedi cyllideb fechan Llywodraeth y DU.

Cadarnhaodd y Prif Weindiog Liz Truss y byddai rhai o'r toriadau trethi a gafodd eu cynnig ddim bellach yn digwydd.

Bellach mae Jeremy Hunt - un o'r rheiny a safodd yn ras arweinyddol y Ceidwadwyr dros yr haf - wedi cael ei benodi yn Ganghellor.

Yn gynharach, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig bod angen etholiad cyffredinol os na fydd Ms Truss yn gallu adennill hyder y blaid.

Mae aelodau Cymreig yn y gwrthbleidiau ymysg y rhai sy'n galw ar Ms Truss i ymddiswyddo hefyd.

Ansicrwydd ariannol

Fe hedfanodd Mr Kwarteng yn ôl i Brydain yn gynharach ddydd Gwener ar gyfer trafodaethau brys gyda Ms Truss, wedi iddo gwrdd â gweinidogion cyllid rhyngwladol yn Washington DC.

Yn ei lythyr ymadael, dywedodd ei fod yn parhau i gredu "nad yw dilyn y drefn bresennol yn opsiwn", a bod y wlad wedi treulio "gormod o amser" mewn cyfnod o dwf isel a threthi uchel.

Ond fe gyfaddefodd fod y "sefyllfa economaidd wedi newid yn sylweddol" ers y gyllideb fechan, gan ddweud bod angen i'r llywodraeth ddangos "ymrwymiad i ddisgyblaeth ariannol" wrth symud ymlaen.

Mewn llythyr yn diolch iddo am ei "gyfeillgarwch a chefnogaeth hynod", fodd bynnag, awgrymodd Ms Truss mai Mr Kwarteng oedd wedi gwneud y "penderfyniad" i adael.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kwasi Kwarteng yn ei lythyr bod Liz Truss wedi "gofyn" iddo "gamu o'r neilltu fel Canghellor"

"Rwyt ti wedi rhoi buddiannau'r wlad yn gyntaf," meddai, gan ychwanegu eu bod yn "rhannu'r un weledigaeth ar gyfer ein gwlad".

Roedd Mr Kwarteng yn Ganghellor am ddim ond 38 diwrnod - y cyfnod byrraf ond un i unrhyw un yn y swydd.

Jeremy Hunt yw'r pedwerydd Canghellor ar y DU eleni, yn dilyn Rishi Sunak, Nadhim Zahawi a Mr Kwarteng.

Tro pedol ar bolisïau

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, mae Ms Truss wedi cyhoeddi tro pedol ar rai o gyhoeddiadau'r gyllideb fechan.

Roedd gweinidogion eisoes wedi gwneud tro pedol ar dorri cyfradd uchaf y dreth incwm, ac fe ddywedodd Ms Truss y byddai cynnydd i'r dreth gorfforaethol bellach yn digwydd.

Mae'n golygu y bydd yn cynyddu o 19% i 25% - gan ddod â £18bn i'r Trysorlys.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jeremy Hunt - sy'n gyn-Ysgrifennydd Tramor a chyn-Ysgrifennydd Iechyd - yw'r Canghellor newydd

Wedi'r cyhoeddiad gwreiddiol am dorri trethi fis diwethaf, roedd problemau yn y marchnadau ariannol, gyda'r bunt yn disgyn yn sylweddol yn erbyn arian rhyngwladol eraill.

Bu'n rhaid i Fanc Lloegr gamu i'r adwy i geisio tawelu'r dyfroedd, gan gynnwys yn dilyn pryderon am ddiogelwch pensiynau.

Wrth wneud y cyhoeddiad ar dro pedol ddydd Gwener, dywedodd Ms Truss bod angen "gweithredu er mwyn sicrhau'r marchnadoedd o'n disgyblaeth ariannol".

Ond mynnodd ei bod am aros fel prif weinidog er mwyn "gwireddu beth wnes i addo - twf uwch, a Theyrnas Unedig fwy ffyniannus i'n harwain ni drwy'r storm sy'n ein hwynebu".

Ymateb o Gymru

Yn dilyn y cyhoeddiad mae rhai o Aelodau Seneddol y gwrthbleidiau eisoes wedi galw ar i Liz Truss ysgwyddo'r baich hefyd ac ymddiswyddo.

"Byddai'n wael iawn i Truss ddiswyddo Kwarteng am weithredu ei pholisïau hi a cheisio aros yn y swydd. Gwael iawn," meddai'r AS Llafur Rhondda, Chris Bryant.

"Dim syndod ei bod hi'n beio popeth ar y staff. Dim ond yn Trussia."

Ychwanegodd AS Llafur Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan: "Mae diffyg gweithrediad llwyr y llywodraeth Dorïaidd yma'n embaras truenus o'r mwyaf. All Prydain ddim cymryd mwy o hyn - er mwyn Duw - EWCH!"

"All Truss fel Prif Weinidog ddim dianc gyda phasio'r cyfrifoldeb ymlaen. Wedi'r cyfan, hi 'sgwenodd y llyfr ar orfodi economeg adain-dde ffantasi ar ein cymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru wedi galw ar Liz Truss i ymddiswyddo fel Prif Weinidog hefyd

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan bod rhaid i Liz Truss gydnabod bod y "sioc economaidd, sydd wedi achosi cymaint o bryder i bobl, o'i herwydd hi".

Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS bod Ms Truss yn ceisio achub ei swydd ei hun drwy wneud Mr Kwarteng yn "fwch dihangol".

"Gadewch i ni gofio - roedd hi wrth ei bodd gyda'r term 'Trussonomics'", meddai.

"Ysgrifennodd y llyfr ar y syniadaeth sy'n anelu at orfodi'r arbrawf economaidd ffantasi yma ar ein cymunedau.

"Hi oedd wrth y llyw. Rhaid iddi hi felly gymryd cyfrifoldeb."

Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies wedi dweud bod angen etholiad cyffredinol os na all Liz Truss droi pethau rownd

Wrth siarad ar Times Radio ychydig cyn y cyhoeddiad am ymadawiad Mr Kwarteng, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod angen etholiad cyffredinol os nad oedd Ms Truss yn gallu "adennill hyder" yn ei harweiniad.

"Mae'n bwysig nawr ein bod ni'n adlewyrchu ar lle ydyn ni, mae'r prif weinidog yn ceisio adennill yr hyder yna," meddai.

"Os nad yw hi'n gallu adennill yr hyder yna, byddai'n iawn i'r bobl gael dweud eu dweud ar y mater."

Ychwanegodd bod gan Ms Truss "fandad" o ennill ras arweinyddiaeth y Ceidwadwyr lai na deufis yn ôl, ond bod angen iddi "droi'r sefyllfa rownd".

"Byddai'n anodd iawn dal hyder y cyhoedd mewn sefyllfa ble 'dych chi'n newid yr arweinydd eto," meddai Mr Davies.

Beth nesaf i Liz Truss?

Dadansoddiad Theo Davies Lewis, sylwebydd gwleidyddol

Mae'n gyfnod cymhleth fi'n credu nawr i Liz Truss.

Y cwestiwn nawr yw ife hi yw'r nesaf falle i fynd, os yw aelodau Ceidwadol yn gallu targedu a chreu rhyw fath o strategaeth i gael gwared â Liz Truss - dwi'n credu bod hi'n debygol dros yr wythnos nesaf bod nhw yn gallu symud yn ei herbyn hi.

Ond mae'n rhaid iddyn nhw wneud yn siŵr bod nhw'n paratoi, achos ar hyn o bryd mae hi'n edrych fel tro pedol ar ôl tro pedol yn Downing Street, a dy'n nhw ddim yn gwybod o ddydd i ddydd beth maen nhw yn 'neud, dim just ar y llun mawr ond gyda'u polisïau nhw.

Cyfnod rhyfeddol iawn.

Dadansoddiad gohebydd gwleidyddol BBC Cymru, James Williams

"Y cwestiwn nawr yw, pryd fydd y prif weinidog yn gadael, nid a fydd hi'n gadael."

Dyna ddywedodd un Ceidwadwr Cymreig wrtha'i yr wythnos hon.

Dywedodd un arall nad oedd ots beth "sy'n digwydd nesaf, rydym yn bendant wedi colli'r etholiad nesaf".

Mae Torïaid Cymreig eraill yn fwy cefnogol, gan gyhuddo eu cydweithwyr o chwarae gemau gwleidyddol.

Ewch yn ôl cyn belled â 40 diwrnod, byddwch yn cofio bod ASau Ceidwadol ac Aelodau Senedd Cymru wedi'u hollti'n gyfartal rhwng Liz Truss a Rishi Sunak erbyn diwedd gornest arweinyddiaeth y Ceidwadwyr.

Roedd uno plaid o amgylch cynllun economaidd - a feirniadwyd gan eich prif wrthwynebydd fel "methiant moesol" - bob amser yn mynd i fod yn anodd ond roedd y rhan fwyaf yn fodlon rhoi cynnig arni.

Ychydig iawn fyddai wedi rhagweld pa mor gyflym y byddai'r cyfan yn datod.

Diswyddo Kwarteng 'ddim yn ddigon'

Wrth siarad ar BBC Radio Cymru dywedodd yr economegydd, Dr Eurfyl ap Gwilym fod ymadwiad Kwasi Kwarteng "yn gam bach".

"Ond cofiwch, sail ymgyrch y prif weinidog i ddod yn arweinydd y blaid Geidwadol oedd torri trethiant, dyna oedd hi yn sôn am," meddai.

"Mae hynny nawr wedi dod 'nôl i'w chnoi hi fel petai.

"Felly rydw i'n amau y bydd cael gwared ar y Canghellor yn ddigon ynddo ei hun, ac yn sicr ddim yn ddigon os na fydd hi'n manylu ar ba newidiadau maen nhw am ei wneud i'r mesurau gyhoeddwyd ym mis Medi."