'Teimlo'n unig wrth edrych yn wahanol'
- Cyhoeddwyd
Mae dysgu am hanes pobl ddu, Asiaidd a phobl o leiafrifoedd ethnig yn orfodol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru ers mis Medi 2022.
Fel athrawes, mam a Chymraes du, mae Natalie Jones, sydd o Bwllheli'n wreiddiol, yn falch o weld y newid yma yn y cwricwlwm o'r diwedd ac mae wedi bod yn rhan o'i greu gyda Llywodraeth Cymru.
 hithau'n fis hanes pobl ddu, Natalie sy'n rhannu ei theimladau am hunaniaeth, addysg a chreu gwlad gwrth-hiliol gyda Cymru Fyw.
'Doedd dim athrawon nad oedd yn wyn i fy nysgu i'
Pan dwi'n cael y cwestiwn, "O ble ti'n dod?", nid, "Pwllheli" ydy'r ateb mae pobl yn ei ddisgwyl.
Ac ocê, dim yn fanno ges i fy ngeni, ond dyna ble ges i fy magu. Felly, dwi'n gweld fy hun yn Gymraes du.
Ond, mae wedi cymryd amser i fi ddatblygu'r hyder i fod yn ystyfnig am hyn. Doedd dim athrawon nad oedd yn wyn yn fy nysgu i.
Doedd dim sôn am fy lliw na diwylliant fy nheulu. A dwi'n cofio teimlo fel bod pawb yn syllu arna i pan roedd yr athrawes wen yn darllen yr 'N-word' yn uchel o nofel Of Mice and Men yn y wers Saesneg yn yr ysgol uwchradd. Ro'n i'n poeni bod nhw'n gweld fi yn llai na nhw.
Dwi'n credu gallwn ni, er disgwyliadau cymdeithas, ddewis ein hunaniaeth. Does dim rhaid inni dderbyn beth mae pobl eraill yn ei ddweud am beth neu pwy ydan ni, na sut i deimlo.
Wn i fod hi'n hawdd dweud bod hunaniaeth ddim yn bwysig. I fod yn onest, dwi wedi clywed llawer o bobl yn dweud bod nhw "ddim yn gweld lliw".
Ydy hunaniaeth yn bwysig?
Mae bwriad da tu ôl i'r sylwad sy'n dweud nad yw fy hunaniaeth yn bwysig. Ond drwy fy mhrofiadau, a phrofiadau fy mhlant ac astudiaethau seicoleg, dwi wedi dysgu bod hunaniaeth - sut ydan ni'n gweld ein hunain - yn ofnadwy o bwysig.
Mae meysydd seicoleg ac addysg yn gyfarwydd iawn gyda'r theori Hierarchaeth Anghenion Maslow. Mae'r theori yn awgrymu camau sydd angen i bob person gyrraedd i fod yn hapus a theimlo'n llwyddiannus.
Ar ôl cael yr anghenion ffisiolegol (bwyd a dillad), diogelwch (sicrwydd swydd), rydan ni'n crefu cariad a pherthyn (cyfeillgarwch), parch, a hunan-wirionedd. Pethau sydd ddim yn dod yn hawdd heb syniad o bwy wyt ti, a bod pobl eraill yn dy adnabod di. Yn wir adnabod pwy wyt ti. 'Dan ni gyd yn ffynnu pan mae pobl eraill yn ein gweld ni mewn ffordd bositif.
Prawf y ddoli ddu a'r ddoli wen
I egluro yn ddyfnach pam fod angen syniad cryf o bwy ydan ni, yn lle disgwyliadau cymdeithas, gadewch i fi sôn am astudiaethau'r Doll Test, sydd wedi cael eu cynnal yn Ewrop ac America.
Mae'r hwylusydd yn dangos doli ddu a doli wen i blant unigol o hiliau gwahanol. Maen nhw'n gofyn cwestiynau fel, "Pa un sy'n bert?", "Pa un sy'n ddrwg?", "Pa un sy'n hyll?"
Maen nhw i gyd yn priodoli'r datganiadau negyddol i'r doli ddu, hyd yn oed y plant du. Ond, dyma'r rhan sy'n rili brifio fy nghalon, pan maen nhw'n gofyn i'r plant du i bwyntio i'r doli sy'n eu cynrychioli nhw, maen nhw'n dewis y doli ddu, gyda'r geiriau a'r sylwadau cas i gyd.
Daw enghraifft o hyn o'r Eidal lle mae hogan fach ddu yn ddechrau crio wrth gysylltu ei hun gyda'r doli ddu. Mae yn dangos mewn ffordd boenus iawn bod plant yn ddechrau mewnoli hiliaeth a'r disgwyliadau ar eu hunaniaeth o oedran ifanc iawn.
Mae hefyd yn tynnu sylw at y niwed sy'n cael ei wneud i iechyd meddwl ein plant du heb syniad bositif o hunaniaeth.
Creu gwlad gwrth-hiliol erbyn 2030
Dyma un rheswm mawr pam fod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu polisi i greu gwlad wrth-hiliol erbyn 2030. Mae wedi bod yn bleser i allu gweithio gyda grŵp o'r enw DARPL (Diverse and Anti-Racist Professional Learning) i roi cymorth i fudiadau addysg i hyrwyddo hyn.
Mae DARPL yn gweithio i wella agweddau, i dynnu sylw at etifeddiaeth hiliaeth ac i wella cynrychiolaeth mewn ysgolion. 'Dan ni'n gwneud hyn drwy greu cyrsiau hyfforddiant, rhoi cymorth a hyder i athrawon a chreu adnoddau.
Dwi'n gobeithio y bydd y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn ychwanegu at gynrychiolaeth deg, iechyd meddwl da a hunaniaeth bositif i'n plant yn y dyfodol.
Mae addysgu hanes bobl ddu, Asiaidd, ac ethnig lleiafrifol i blant yn yr ysgol yn allweddol er mwyn addysgu plant bod eu hil, crefydd a'u cefndir mor bwysig â'i gilydd.
Fel plentyn yn tyfu fyny yng Nghymru, roeddwn i'n teimlo'n unig iawn oherwydd doedd neb yn deall pam oeddwn i'n edrych yn wahanol.
O hyn ymlaen, pan fydd plant o gefndir lleiafrifol ethnig yn ymadael â'r ysgol, mawr obeithiaf byddant yn teimlo eu bod yn perthyn i gymdeithas yng Nghymru.