Tomi Morgan yn sgorio hat-tric i Benparcau yn 65 oed
- Cyhoeddwyd
Mae un o wynebau cyfarwydd pêl-droed y canolbarth wedi dangos nad ydy oed yn unrhyw rwystr drwy sgorio hat-tric o fewn 11 munud - ag yntau'n 65 oed.
Treuliodd Tomi Morgan flynyddoedd yn sgorio goliau dros Aberystwyth, gan hefyd fynd ymlaen i reoli'r clwb yn Uwch Gynghrair Cymru.
Ond er iddo ymddeol o chwarae flynyddoedd yn ôl, mae'n parhau yn y gêm fel rhan o dîm hyfforddi clwb Penparcau ym mhedwaredd haen y pyramid Cymreig.
Dros y penwythnos cytunodd i gamu i'r adwy yn dilyn sawl anaf ymysg y tîm cyntaf, ond dangosodd fod y gallu ganddo o hyd drwy ddod ymlaen fel eilydd a rhwydo deirgwaith yn erbyn ail dîm Y Trallwng.
A hithau'n gêm gwpan bwysig, beth sy'n gwneud ei gamp yn fwy rhyfeddol yw bod y tair gôl wedi dod o fewn cyfnod o 11 munud, gyda Phenparcau yn fuddugol o 10-0.
Dywedodd wrth BBC Cymru wedi'r gêm: "Yn sicr fe ddaeth e'n annisgwyl!
"Roedden ni bach yn brin fel tîm gyda dim ond un eilydd, a fi oedd yr eilydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Yn yr hanner cyntaf ro'n i'n helpu rhedeg y llinell ond gaeth y gôl-geidwad ddolur a gorfu fi fynd arnodd yn yr ail hanner
"Mae'n dangos bod y doniau dal 'da fi!"
Ychwanegodd: "Dwi wastad yn dweud wrth chwaraewyr dyddiau yma i wneud y gorau ohoni. Roedd y butterflies yn dal i fod yna.
"Dwi wedi ymddeol ers degawdau ond roedd hi'n braf cael y sgidiau 'nôl arnodd.
"Doedd hanner y bechgyn ddim yn coelio bod fi wedi sgorio lot o goliau felly profi pwynt iddyn nhw!
"Fi'n cymryd ymarfer yn wythnosol ac yn cymryd rhan yn y gêm ar ddiwedd sesiwn ymarfer a dwi dal i fod yn weddol ffit.
"Ond rodd y 45 munud yn ormod i fi - dwi'n syffro!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022