Ateb y Galw: Martyn Croydon

  • Cyhoeddwyd
Martyn CroydonFfynhonnell y llun, Martyn Croydon
Disgrifiad o’r llun,

Martyn Croydon gyda'i wraig Eluned

Y tiwtor Cymraeg, Martyn Croydon sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma. Mae Martyn, sy'n dod o Kidderminster yn wreiddiol, yn gweithio i Brifysgol Bangor fel tiwtor a thiwtor-drefnydd ar draws ardal Dwyfor. Mae'n byw ym Mhen Llŷn ers 14 mlynedd.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dw i ddim yn meddwl mod i'n medru dweud be' ydy fy atgof cynta'. Mae gen i ddigon o atgofion o fod yn blentyn, ond s'gen i ddim syniad pa un ydy'r cynta'!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llŷn. Mae'n anodd deud yn union lle yn Llŷn gan mod i'n hoff iawn o gymaint o'r traethau, bryniau a llwybrau. I mi, mae gan Llŷn ysbryd unigryw sy' wedi fy nenu yma a sy' ddim yn mynd i adael i mi ddianc chwaith!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae'n debyg basai rhaid i mi ddeud y noson wnes i ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn draw yn Ninbych yn 2013. Dw i wir ddim yn cofio be' o'n i'n ddisgwyl pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg, ond yn bendant dim derbyn ffasiwn wobr oedd o! Roedd y seremoni'n wych ac roedd hi'n hyfryd bod yno efo cymaint o bobl oedd wedi fy helpu ar hyd y daith. Do'n i byth yn meddwl baswn i'n ennill chwaith, roedd hynny'n bonws arbennig ar ben bob dim arall dw i wedi'i gael o ddysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Martyn Croydon
Disgrifiad o’r llun,

Martyn yn ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2013

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Trefnus, penderfynol, meddwl-agored.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Fel tiwtor Cymraeg, mae cywiro iaith (yn sensitif!) yn rhan o fy ngwaith bob dydd, ac un peth sy'n achosi dipyn o drafferth wrth gwrs ydy deud yes/no. Felly roedd hi'n teimlo'n hollol naturiol ar y pryd i gywiro Eluned pan ddudodd hi 'ia' i'r cwestiwn 'wnei di fy mhriodi i' ar ben Garn Fadryn! Yn ffodus wnaeth hi weld ochr ddoniol y peth a 'dan ni'n dal i wenu rŵan wrth feddwl yn ôl am y peth!

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o Abersoch o gopa Garn Fadryn

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dw i'n licio goleuadau Nadolig, wedi neud erioed ac yn mwynhau addurno'r tŷ bob blwyddyn. Mae'r cymdogion yn neud yr un fath hefyd felly mae'n dipyn o sioe i bobl wrth basio. Mae hi wedi mynd yn draddodiad i ni gael countdown bach i'w goleuo hefyd, efo fi fel arfer yn rhedeg o gwmpas y tŷ yn rhoi'r goleuadau ymlaen fesul plyg. Cwpl o flynyddoedd yn ôl mi brynes i system sy'n gweithio ar y wi-fi a sy'n medru rheoli'r socedi i gyd o ap ar y ffôn. Roedd criw ohonon ni wedi hel yn y lôn i weld y foment fawr, ac ar ôl cyfri i lawr, digwyddodd ddim byd! Y cwbl clywon ni oedd Rhys (oedd tua 2 oed ar y pryd) yn deud 'o diar'!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Yn eitha' diweddar a deud y gwir, ar enedigaeth ein hail fab.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Er fy mod i'n deud fy mod i'n berson taclus, dw i ddim yn dda iawn am gadw fy swyddfa'n daclus! Dw i'n ofnadwy am gadw pethau 'jyst rhag ofn'!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dw i ddim yn un da iawn am ddarllen llyfrau, gwylio ffilmiau na wrando ar bodlediadau. Fedra i ddim aros yn llonydd yn ddigon hir!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Baswn i wrth fy modd yn cael sgwrs efo David Attenborough am ei waith cadwraeth dros y blynyddoedd a be' mae o'n feddwl am y dyfodol. Dw i'n poeni am be' dan ni'n neud i'n planed ni ond dw i hefyd yn teimlo mod i ddim yn gwybod digon am yr heriau dan ni'n wynebu. Basai cael sgwrs efo rhywun fel David Attenborough yn wych.

Disgrifiad o’r llun,

David Attenborough

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae gen i ddiddordeb mewn hen glociau. Ro'n i'n arfer mynd i aros efo fy hen nain a hen daid pan o'n i'n blentyn ac yno dechreuodd y diddordeb yn y ddau hen gloc oedd gynnyn nhw, sy' bellach yma yn y tŷ efo ni. Yn ôl fy mam ro'n i'n medru deud yr amser pan o'n i'n dair a hanner!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Treulio'r diwrnod efo fy nheulu, yn mynd am dro ar y traeth, dringo i ben Garn Fadryn neu'r Eifl a mwynhau cwmni ein gilydd.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Ffynhonnell y llun, Martyn Croydon
Disgrifiad o’r llun,

Pen Llŷn o gopa Yr Eifl

Llŷn, o ben Yr Eifl. Heb y lle yma, faswn i byth wedi dysgu Cymraeg, wedi ffeindio cariad, cael plant a swydd dw i wrth fy modd yn ei gwneud, i gyd trwy iaith y nefoedd - braint arbennig iawn.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Cwestiwn da, dw i'n hapus iawn bod yn fi fy hun rhaid i mi ddeud, ond basai'n brofiad diddorol bod yn brif weinidog am ddiwrnod (jyst er mwyn cael gweld sut beth ydy o gan mai dyna'r peth ola' baswn i'n licio neud go-iawn!).

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig