Ateb y Galw: Malan Fon

  • Cyhoeddwyd
Malan FonFfynhonnell y llun, Dion Jones
Disgrifiad o’r llun,

Malan Fon

Y cerddor Malan Fon Jones o Gaernarfon sydd yn ateb y galw yr wythnos yma ar ôl cael ei enwebu gan Yws Gwynedd. Mae Malan wedi dod yn adnabyddus gyda chaneuon fel Busy Bee a Strawberry a mi fuodd yn chwarae yn Ngŵyl 6 Music eleni.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio deffro bora 'Dolig, a'r unig beth o'n i wedi gofyn wrth Sion Corn amdano oedd scriws. Dwi'n cofio bod wrth fy modd pan nes i agor y bocs! (rhei plastig oeddan nhw wrth gwrs - dwi'm yn meddwl 'sa fo di bod yn syniad da i roi scriws go iawn i fi oed yna).

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Llanberis - dwi wastad yn ymlacio pan dwi'n mynd yno!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson nes i chwarae yng Ngŵyl Radio 6 yn Gaerdydd - profiad anhygoel!

Ffynhonnell y llun, Malan Fon
Disgrifiad o’r llun,

Bu Malan yn chwarae yng Nghŵyl BBC 6 Music eleni

Disgrifia dy hun mewn tri gair...

Cerddorol, cariadus a stressed!!

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Unrhyw atgof o fod yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd blwyddyn dwytha (2021) - penwythnos gora 'rioed!

O archif Ateb y Galw:

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Disgyn ac agor fy mhen ar noson allan ha' dwytha - oedd gorfod cerdded o gwmpas gyda chlais mawr ar fy mhen am wythnosau yn rili embarassing!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Neithiwr - nes i wylio fideo trist!

Ffynhonnell y llun, Dion Jones

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Pigo ar fy mysedd tan eu bod yn gwaedu - ddim yn arferiad da o gwbl!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Podlediad 'Same But Different' gan Keelin Moncrieff.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Aretha Franklin - dwi'n meddwl y bysa hi'n berson diddorol iawn i gael sgwrs efo.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Fi oedd llais y cymeriad 'Mali' yn y cartŵn 'Ben a Mali a'u Byd Bach o Hyd'.

Disgrifiad o’r llun,

Ben a Mali a'u Byd Bach o Hyd

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Cael parti mawr efo fy holl ffrindiau a fy nheulu.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Unrhyw lun o fy nghi - Elsi Mai :).

Ffynhonnell y llun, Malan Fon
Disgrifiad o’r llun,

Elsi Mai

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Cleo Sol - fy hoff artist i yn y byd!