Gyrrwr ar ei ffôn pan laddodd blismones ar ei beic yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Roedd gyrrwr fan a laddodd swyddog heddlu oedd ar ei beic yn Sir Gaerfyrddin yn defnyddio Facebook ar ei ffôn ar adeg y gwrthdrawiad.
Cafodd Sarjant Lynwen Thomas, 37, ei tharo gan Simon Draper, 42, yn Chwefror 2021 ger Bancyfelin.
Clywodd llys ddydd Llun fod Mr Draper yn "gwyro" ar draws ffordd yr A40.
Mae wedi ei gyhuddo o ddefnyddio Facetime, WhatsApp, Apple Music, Instagram a Facebook Messenger tra'n gyrru, a gyda'i fab ifanc yng nghefn y fan.
Clywodd y llys fod Mr Draper wedi newid o ddefnyddio Instagram i Facebook am 18:42, funud cyn i'w fan daro Lynwen Thomas.
Mae'n gwadu defnyddio'i ffôn tra'n gyrru.
Dywedodd yr erlynydd, Carina Hughes, fod Draper yn "ceisio rhoi'r bai ar ei fab ifanc" am ddefnyddio'r ffôn tra'n gyrru.
Ond dywedodd Ms Hughes "na fyddai gan y babi y gallu corfforol na meddyliol i newid rhwng apiau".
"Roedd yn defnyddio ei ffôn symudol wrth yrru ar hyd ffordd ddeuol yn y nos," meddai.
"Trwy ddefnyddio ei ffôn wrth yrru doedd e ddim yn talu sylw a dyna pryd darodd Lynwen Thomas."
'Talu'r pris eithaf'
Clywodd y rheithgor yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe fod Ms Thomas yn teithio ar ei beic ar gyflymder o tua 17mya pan gafodd ei tharo o'r tu ôl iddi.
Cafodd anaf ddifrifol i'w phen a bu farw yn y fan a'r lle.
Cafodd lluniau o'r beic a'r olwyn gefn oedd wedi ei ddifrodi eu dangos i'r rheithgor. Roedd difrod i ochr fan Mr Draper hefyd.
Ychwanegodd yr erlynydd fod gyrwyr eraill wedi cadw pellter oddi wrth fan Mr Draper ar ffordd yr A40 cyn y gwrthdrawiad gan ei fod yn "gwyro i ganol y lôn".
Dywedodd Ms Hughes fod gyrwyr wedi gweld y fan yn "gwyro i'r chwith" cyn i Ms Thomas a'i beic gael eu "taflu" i'r heol.
"Fe dalodd Lynwen Thomas y pris eithaf," ychwanegodd Ms Hughes.
'Troi i edrych ar fy mab oedd yn crïo'
Mae Simon Draper, sy'n dad i dri o blant, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ond yn cyfaddef achosi marwolaeth trwy yrru'n ddi-ofal.
Dywedodd wrth yr heddlu fod ei sylw wedi ei dynnu am "ennyd" wrth edrych yn ôl ar ei fab "oedd yn crïo" y tu ôl iddo.
Yn ei ddatganiad, dywedodd: "Fe edrychais yn ôl oherwydd roedd e'n crïo. Fe edrychais yn ôl am ennyd. Welais i ddim mohoni."
Roedd Lynwen Thomas yn seiclwr profiadol ac yn swyddog heddlu "uchel ei pharch" gyda Heddlu Dyfed Powys, yn ôl llefarydd ar ran y llu.
Mae'r achos o flaen y barnwr, Hywel James, yn parhau yn Llys y Goron Abertawe.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2021