Chwalu 5 myth am yr iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn 2022, yn cyfaddef ei fod wedi credu mewn sawl myth am yr iaith Gymraeg cyn mynd ati i ddysgu'r iaith.
"Fel rhywun wnaeth symud i Gymru o Lundain ac oedd yn byw yn Nghymru am gyfnod o flynyddoedd cyn dechrau dysgu Cymraeg, dwi wedi clywed - ac mae'n rhaid i fi ddweud, dwi wedi credu, yn y gorffennol - sawl myth am yr iaith Gymraeg ac am Gymry Cymraeg," meddai Joe.
"Mae'r mythau hyn yn beryglus i ddyfodol yr iaith a'i diwylliant, gan fod nhw'n gwahanu ein cymunedau ac yn gweithredu fel rhwystrau i ddysgwyr posib. Ond mae hi'n bwysig iawn i ni wynebu'r mythau hyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod sut i ymdopi gydag agweddau negatif at yr iaith, i atal ein hunain rhag 'chwarae mewn' i'r ystrydebau, ac i newid meddyliau pobl eraill."
 hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg ar BBC Radio Cymru, Joe sy'n herio pum camsyniad am y Gymraeg sy'n dal i fodoli.
Mae fersiwn Saesneg o'r erthygl hon fan yma: Challenging 5 myths about learning Welsh
1. 'Does neb yn siarad hi. Dim fan hyn, ta beth'
Dyma'r myth mwya cyffredin am yr iaith, siŵr o fod. Mae llawer o bobl yn credu bod yr iaith Gymraeg dim ond yn cael ei siarad yng nghefn gwlad Cymru, ac felly, dyw hi ddim yn ddefnyddiol neu'n berthnasol mewn rhai ardaloedd, yn enwedig mewn trefi a dinasoedd yn ne neu ddwyrain Cymru.
Wrth gwrs, mae'r iaith yn gryfach (o ran canran o'r boblogaeth leol sydd yn deall ac yn ei defnyddio hi) mewn cymunedau yng ngorllewin a gogledd Cymru. Ond, mae'r iaith yn cael ei siarad ym mhob un sir yng Nghymru, ac mae mwy o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd nag ym mhob un sir yn yr wlad, heblaw Gwynedd.
Mae'r myth hwn hefyd yn achosi mythau peryglus iawn eraill, gan gynnwys y syniad mai dim ond pobl wyn neu bobl hŷn sydd yn siarad hi, neu fod yr iaith yn marw. Wrth gwrs, mae rhain hefyd yn ddisynnwyr, ond y ffordd orau i ddinistrio'r myth hwn yw gwneud yn siŵr bod pobl ym mhob un cymuned yn clywed ac yn gweld yr iaith o'u cwmpas. Mae dal llawer o waith i wneud i sicrhau hynny.
2. 'Mae'r Gymraeg yn iaith anodd iawn i'w dysgu'
Fel rhywun sydd wedi dysgu Sbaeneg a Chatalaneg, a sydd wedi dysgu Saesneg i bobl eraill, mae'r honiad hwn yn gwneud i fi chwerthin - dychmygwch orfod esbonio i rywun bod rhaid dweud thought yn hytrach na thinked, ac yna gorfod egluro sut i ynganu thought!
Y prif reswm mae pobl yn meddwl bod y Gymraeg yn fwy cymhleth nag ieithoedd eraill yw achos ei bod hi'n fwy gwahanol i'r Saesneg na rhai ieithoedd eraill. Iaith Geltaidd yw'r Gymraeg, ond iaith Germanaidd yw'r Saesneg, sydd hefyd â llawer o ddylanwadau o ieithoedd Ewropeaidd eraill, yn enwedig Ffrangeg. Felly, yn arwynebol, mae'r Gymraeg yn anoddach i siaradwyr uniaith Saesneg ei dysgu nag ieithoedd Ewropeaidd eraill sydd â chysylltiadau amlwg â'r iaith Saesneg.
Mae'n naturiol i ddysgwyr unrhyw iaith weld yr iaith honno trwy brism y rhai maen nhw'n siarad yn barod, a mae'n rhaid cofio, daw llawer o ddysgwyr Cymraeg o gefndiroedd uniaith Saesneg. Ond mae pob un iaith gyda chymhlethdodau, a mae rhai agweddau o'r Gymraeg yn gymharol hawdd, unwaith i chi ddod i arfer â nhw.
Yn hanesyddol, nid yr iaith ei hun sy'n gwneud y Gymraeg yn anoddach i'w dysgu, ond diffyg adnoddau a chynrychiolaeth ddiwylliannol. Mae'r sefyllfa hon yn newid yn gyflym iawn. Mae pob un iaith yn anodd i'w dysgu, ond os rhywbeth, mae'r Gymraeg yn dod yn haws.
3. 'Mae addysg Gymraeg yn gwaethygu eich Saesneg'
Bydd llawer ohonon ni wedi clywed y myth hwn sawl gwaith wrth siarad â rhieni sydd yn nerfus am anfon eu plant i ysgolion Cymraeg. Er ei fod yn ddealladwy bod rhieni yn poeni am sgiliau Saesneg eu plant (mae hi'n iaith hanfodol yng Nghymru, wedi'r cyfan), mae rhaid cydnabod y ffaith mai Saesneg yw iaith fwyaf pwerus y byd, ar lefel ddiwylliannol ac economaidd, sy'n meddwl bod hi'n cael ei darlledu a'i siarad ar draws y byd i gyd. Yng Nghymru, rydym yn teimlo'r effaith hon yn gryfach na neb, fel nad oes ffordd i dyfu lan yng Nghymru heb siarad Saesneg yn rhugl.
Wrth gwrs, mae pobl sydd yn teimlo'n fwy cyfforddus yn Gymraeg gan eu bod nhw'n siarad hi fel iaith gyntaf, ond mewn gwirionedd, mae'r plant sydd wedi dod trwy'r system addysg Gymraeg yn siarad Saesneg cystal â chyfoedion nhw. A digwydd bod, maen nhw'n siarad iaith arall hefyd!
4. 'Mae Cymry Cymraeg yn 'porthgadw' yr iaith a'r diwylliant'
Ni i gyd yn gyfarwydd â'r hen chwedl: "Es i i dafarn yng Nghymru lle oedd pawb yn siarad Saesneg, ond naethon nhw droi i'r Gymraeg unwaith nes i gerdded mewn", neu rywbeth tebyg.
Mae hyn yn seiliedig ar dybiaethau anghywir bod Cymry Cymraeg yn anghroesawgar, a mae'r myth hwn yn bwydo anwiredd arall: bod pobl sydd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf eisiau cadw'r iaith i'w hunain, a pheidio rhannu hi gyda phobl o tu allan o'u cymenedau.
Yn fy mhrofiad i, y gwrthwyneb yw'r gwir. Wrth gwrs, mae rhai pobl sydd wedi cywiro fy Nghymraeg i, a weithiau mae hyn wedi digwydd mewn ffordd eithaf anghyffyrddus. Ond, dwi'n credu bod hyn yn digwydd achos bod pobl eisiau fy helpu, nid achos eu bod nhw'n ceisio gwneud i fi deimlo fel fy mod i ddim yn cael siarad yr iaith. Dwi byth wedi cwrdd â rhywun oedd ddim yn hapus i fy nghefnogi ac i fy nghroesawu. Efallai bod y bobl hyn yn bodoli, os felly, lleiafrif bychan iawn ydyn nhw.
5. 'So Cymrâg fi'n ddigon da'
Mae'r myth olaf hwn fel arfer yn dechrau gyda Chymry Cymraeg, ond mae e hefyd yn gyffredin iawn gyda dysgwyr. Mae gyda ni obsesiwn am gywirdeb a safon yr iaith, er mewn gwirionedd, mae'r Gymraeg mor amrywiol nes ei bod hi'n amhosib dweud bod un ffordd yn 'well' nag un arall. Yn Gymraeg, fel unrhyw iaith arall, os y'ch chi'n deall pobl a mae pobl yn deall chi, mae hynny'n fwy na digon.
Wrth gwrs, rydym i gyd yn dysgu pethau newydd bob dydd, ond yr amrywiaeth ieithyddol a thafodieithol sy'n gwneud y Gymraeg yn ddiddorol ac yn hardd. Ddylen ni ddim trio newid hyn!
Hefyd o ddiddordeb: