Cyhuddo dyn o lofruddio menyw, 45, yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Angie WhiteFfynhonnell y llun, family photo

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio menyw 45 oed yn Abertawe.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Angie White ar ôl cael eu galw i gyfeiriad yn ardal Plasmarl y ddinas am tua 06:00 fore Sadwrn.

Mae Daniel White, 35 o Plasmarl, wedi ei gyhuddo o'i llofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd teulu Ms White eu bod "wedi eu tristáu'n fawr" on yn "gwerthfawrogi'r geiriau caredig a'r cefnogaeth."

"Ry'n ni'n gofyn am breifatrwydd wrth i ni alaru."

Dywedodd Heddlu De Cymru nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall ond eu bod yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig