Rishi Sunak fydd Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig
- Cyhoeddwyd
Rishi Sunak fydd Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig ar ôl i Penny Mordaunt dynnu allan o'r ras i olynu Liz Truss.
Mr Sunak fydd y Prydeiniwr Asiaidd cyntaf i arwain y Deyrnas Unedig, ac mae disgwyl iddo ddechrau ar y swydd o fewn y dyddiau nesaf.
Roedd bron i 200 o ASau Ceidwadol wedi cefnogi'r cyn-Ganghellor yn gyhoeddus.
Yn fuan cyn i'r cyfnod enwebu gau ddydd Llun, tynnodd Ms Mordaunt allan o'r ras am nad oedd wedi sicrhau digon o gefnogaeth.
Mr Sunak felly fydd yn olynu Ms Truss, wnaeth ymddiswyddo ar ôl 45 diwrnod wrth y llyw ddydd Iau diwethaf.
Yn 42 oed, Mr Sunak fydd y Prif Weinidog ieuengaf ers 200 mlynedd.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r cyhoeddiad, gydag arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies yn galw Mr Sunak yn "gyfaill i Gymru".
Ond mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu'r broses, gan ddweud nad oes gan Mr Sunak fandad i arwain.
Mewn anerchiad byr brynhawn Llun dywedodd Mr Sunak: "Anrhydedd fwyaf fy mywyd yw cael gwasanaethu'r blaid rwy'n ei charu a rhoi rhywbeth yn ôl i'r wlad rwyf gymaint yn ei dyled.
"Does dim amheuaeth ein bod yn wynebu her economaidd ddofn," meddai, gan alw am sefydlogrwydd ac undod.
Rwy'n addo i'ch gwasanaethu gyda gonestrwydd a gwyleidd-dra," ychwanegodd, gan wneud addewid hefyd i weithio "ddydd a nos i gyflawni ar ran pobl Prydain".
Pwy ydy Rishi Sunak?
Oed: 42
Man geni: Southampton
Cartref: Llundain a Sir Efrog
Addysg: Coleg Caerwynt (Winchester) Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Stanford
Teulu: Yn briod â'r wraig fusnes Akshata Murty, a dwy ferch
Etholaeth: Richmond (Sir Efrog)
Cafodd Mr Sunak ei ethol yn AS dros etholaeth Richmond, Sir Efrog, yn 2015 a bu'n is-weinidog yn llywodraeth Theresa May cyn ei benodi'n brif ysgrifennydd yn y Trysorlys gan Boris Johnson.
Fis Chwefror 2020 cafodd Mr Sunak ei benodi'n Ganghellor gan arwain economi'r DU mewn pandemig wrth i'r cyfnod clo cyntaf gychwyn fis Mawrth.
Fe wnaeth addo gwneud "beth bynnag fydd raid" i gynorthwyo pobl drwy'r pandemig ac yn sgil cyhoeddi cynlluniau i hybu'r economi fe dyfodd ei boblogrwydd.
Ond fe gafodd Mr Sunak ei hun ddirwy gan yr heddlu am dorri rheolau'r cyfnod clo yn Downing Street.
Roedd sawl un yn cwestiynu ai'r miliwnydd oedd y person gorau i arwain yr economi, a'r un oedd wir yn deall y wasgfa ar gartrefi.
Yn ystod y cyfnod yma hefyd, daeth cyllid ei deulu dan y chwyddwydr a helyntion trethi ei wraig Akshata Murty - merch y biliwnydd o India a chyd-sefydlydd cwmni technoleg Infosys, Narayana Murthy.
Ar y dechrau bu'n gefnogwr brwd i Mr Johnson ond fis Gorffennaf eleni ymddiswyddodd gan ddweud fod eu hagweddau ar yr economi "yn sylfaenol wahanol" a'u bod ar "wahanol ochr" i gwestiynau moesol difrifol.
Dros yr haf, wedi i Mr Johnson ymddiswyddo, Mr Sunak oedd y ffefryn gan ASau i'w olynu gan dderbyn mwy o gefnogaeth na Liz Truss.
Wedi chwe wythnos o ymgyrchu, Ms Truss oedd yn fuddugol yn y pen draw gyda 57% o bleidlais aelodau.
Roedd Mr Sunak wedi ymgyrchu dros yr haf yn bennaf ar sefyllfa dyrchinebus economi'r Deyrnas Unedig.
Dywedodd y byddai'n well ganddo golli'r arweinyddiaeth nag ennill ar addewidion gwag - oedd yn cael ei weld fel ymosodiad ar gynlluniau Ms Truss i dorri trethi.
Hynny arweiniodd at ei methiant hi yn Rhif 10.
Dadansoddiad Elliw Gwawr, gohebydd gwleidyddol
Dyma'r trydydd prif weinidog mewn llai na deufis.
Mae'r gŵr wnaeth fethu a pherswadio aelodau Ceidwadol i'w gefnogi rai wythnosau yn ôl, nawr yn camu fewn i 10 Downing Street wedi'r cyfan.
Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod cythryblus iawn, o sgandalau Boris Johnson i broblemau economaidd Liz Truss.
Gobaith cefnogwyr Rishi Sunak yw y bydd o, fel cyn-Ganghellor profiadol, yn bâr saff o ddwylo i roi'r economi yn ôl ar y llwybr cywir, a rhoi mwy o sefydlogrwydd i'r llywodraeth.
Yn ystod yr ymgyrch i olynu Boris Johnson dros yr haf, roedd o'n feirniadol iawn o addewidion Liz Truss i dorri trethi yn syth, gan ddweud mai ei flaenoriaeth o fyddai sortio'r economi yn gyntaf.
Mae'r dasg honno yn llawer mwy nawr, a'i ddwylo wedi eu clymu gan y cyhoeddiadau mae'r Canghellor presennol Jeremy Hunt eisoes wedi'u gwneud.
Fe gafodd Rishi Sunak ei glodfori yn ystod y pandemig am y cymorth hael a roddwyd i unigolion a busnesau. Ond fe fydd rhaid iddo wneud penderfyniadau llawer mwy amhoblogaidd y tro hwn.
Pa fath o gymorth fydd 'na i bobl 'efo costau byw cynyddol? Sut fydd o'n talu am hynny? Fydd o'n gallu tyfu'r economi, a thorri ar wariant cyhoeddus?
Gyda'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr - fel yng Nghymru - dan bwysau sylweddol, a gweithwyr mewn sawl sector yn bygwth streicio, mae'n mynd i fod yn gyfnod anodd iawn iddo gymryd yr awenau.
Ar ben hynny mae'r her o uno plaid ranedig, sydd wedi'i gwneud hi'n amhosib i'w ragflaenwyr lywodraethu yn effeithiol, a gwyrdroi sefyllfa echrydus y blaid yn yr arolygon barn mewn pryd i'r etholiad cyffredinol nesaf ymhen dwy flynedd.
O ystyried hynny mae annhebyg o ildio i'r pwysau sydd yna i alw etholiad cyffredinol, ond mae 'na bwysau yn dod, nid dim ond gan y gwrthbleidiau ond gan rai o fewn ei blaid ei hun hefyd sy'n dadlau na ellir coroni prif weinidog arall, heb gael mandad gan yr etholwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd5 Medi 2022
- Cyhoeddwyd5 Medi 2022