Liz Truss yn ennill y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Liz Truss wedi ennill y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol a hi fydd Prif Weinidog nesaf y DU.
Roedd yr Ysgrifennydd Tramor yn drech na'r cyn-Ganghellor Rishi Sunak mewn pleidlais ymysg aelodau'r blaid.
Enillodd Ms Truss 81,326 (57.4%) o bleidleisiau, gyda Mr Sunak yn hawlio 60,399 (42.6%).
Bydd Ms Truss, 47, yn olynu Boris Johnson fel Prif Weinidog yn swyddogol ddydd Mawrth.
Yn ddiweddarach ddydd Mawrth bydd Ms Truss yn cyfarfod â'r Frenhines yn Balmoral cyn cymryd yr awenau yn Rhif 10 Downing Street.
'Llywodraethu fel Ceidwadwr'
"Mae yn fraint cael fy ethol fel arweinydd y blaid Geidwadol," meddai Ms Truss wedi'r cyhoeddiad.
"Hoffwn ddiolch i fy ngwrthwynebwyr, yn enwedig Rishi Sunak. Mae hi wedi bod yn frwydr galed, a dwi'n meddwl ein bod ni wedi dangos dyfnder y talent sydd yn y blaid Geidwadol.
"Rwyf hefyd am ddiolch i'r arweinydd sydd yn ein gadael, fy ffrind Boris Johnson.
"Boris fe wnes ti lwyddo i gyflwyno Brexit, fe wnes ti lwyddo i lethu Jeremy Corbyn, fe wnes ti gyflwyno'r brechlyn ac fe wnes ti sefyll lan i Vladimir Putin. Mi wyt ti yn cael dy edmygu o Kiev i Gaerliwelydd."
Ychwanegodd: "Diolch am roi eich ffydd yndda i i arwain y Blaid Geidwadol.
"Yn ystod yr ymgyrch fe wnes i ymgyrchu fel Ceidwadwr ac fe fyddai yn llywodraethu fel Ceidwadwr. A ffrindiau, mae angen i ni ddangos ein bod yn delifro dros y ddwy flynedd nesaf.
"Rwy' am gyflwyno cynllun beiddgar i dorri trethi a thyfu ein heconomi.
"Fe fydda'i yn deifro ar yr argyfwng ynni, i helpu pobl gyda'r biliau ynni a hefyd i daclo'r cyflenwad ynni, ac fe fyddai yn delifro ar y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol."
Er mai Rishi Sunak oedd yr ymgeisydd fwyaf poblogaidd ymysg aelodau seneddol Ceidwadol, ymhlith yr aelodaeth, roedd Liz Truss ymhell ar y blaen.
Roedd ei haddewid i dorri trethi yn syth bin a rhoi'r gorau i ddiwylliant o handouts yn taro tant.
Ond wrth i raddfa'r argyfwng costau byw amlygu'i hun yn ystod yr ymgyrch, mae hi wedi gorfod cyfaddawdu ar ei safbwynt yn barod a dweud y byddai 'na weithredu o fewn wythnos o gyrraedd Rhif 10.
Mae hi wedi gwrthod amlinellu sut y bydd hi'n helpu'r miloedd sy'n wynebu caledi ariannol oherwydd biliau ynni anferthol, dim ond i ddweud bod 'na help ar y ffordd.
Beth bynnag y gwneith hi, mi fydd yn diffinio ei harweinyddiaeth.
Gyda chwyddiant ar i fyny, y rhyfel yn Wcráin yn parhau a gweithwyr yn streicio ledled y wlad, mae'n debyg mai dyma un o'r mewnflychau mwyaf heriol erioed i Brif Weinidog ers yr ail ryfel byd.
Ond a fydd Liz Truss yn glynu at ei greddfau ceidwadol i dorri trethi yn hytrach na rhoi cefnogaeth ariannol, neu bydd arwyddocâd y sefyllfa bresennol yn golygu newid trywydd? Mae'r haf hir o ddisgwyl am ateb i hyn bron ar ben.
Ar ôl y cyhoeddiad, toc wedi 12:30, fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford drydar ei longyfarchiadau i Liz Truss.
"Rydym nawr angen gweithio gyda'n gilydd ar frys i daclo'r argyfwng costau byw ac i arbed miliynau rhag y gaeaf caled sydd o'n blaenau," meddai.
Ar raglen Dros Ginio Radio Cymru dywedodd y sylwebydd gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, y bydd y dasg o flaen yr arweinydd newydd yn enfawr.
"Mae ffurfafennau mewn ras fel 'ma yn gallu bod yn anodd. Doedd o ddim o bosib cweit y chwalfa oedd pobl wedi darogan. Roedd rhai wedi darogan 70% ond mae 57% yn barchus iawn, yn fwlch eglur."
Ychwanegodd o bosib bod Ms Truss wedi colli cyfle yn ei haraith ar ôl ei buddugoliaeth i drosglwyddo neges o undod i weddill y wlad ac nid yn unig ceisio plesio aelodau'r blaid Geidwadol.
O ran yr ymgyrch i sicrhau'r arweinyddiaeth dywedodd ei bod "hi'n fwriadol wedi mynd ar ôl pleidlais y dde".
"Mae'n wynebu'r llaw galetaf mae unrhyw brif weinidog wedi ei wynebu ers yr Ail Ryfel Byd," meddai Mr Jones.
"Mae llywodraethu yn mynd i fod yn anodd, anodd ac o bosib ei bod wedi colli cyfle i estyn allan [yn ei haraith], mewn ffordd gadarnhaol ond efallai bydd hynny yn dod yfory."
Ond cred David TC Davies, cyn-weinidog yn Swyddfa Cymru, yw y bydd yr arweinydd newydd yn llwyddo i uno'r blaid a'r wlad.
"Rhaid gwneud 'chydig bach o waith i dynnu pobl at ei gilydd eto. Ond dwi'n sicr y bydd hi'n estyn allan i bobl o bob cornel o'n gwlad ni.
"Mae bob un ohonom yn cytuno ar y pethau mawr, darfod Brexit a chydweithio gyda NATO a'r Unol Daleithiau i gefnogi Wcráin yn erbyn Rwsia - mae pethau fel yna yn uno pob un ohonom ni."
'Amser dod at ein gilydd'
Neges o undod hefyd oedd gan y Cymro Stuart Andrew, sy'n AS Ceidwadol dros Pudsey yn Sir Efrog, sy'n yn gobeithio y bydd y Ceidwadwyr nawr yn uno y tu ôl i'r arweinydd nesaf.
"Dwi wedi cefnogi Rishi Sunak ond mae aelodau'r blaid wedi penderfynu bod nhw isie Liz Truss fel yr arweinydd nesaf a'r prif weinidog nesaf a dwi yn meddwl ei bod yn bwysig nawr bod angen gwrando ar y polisïau mae'n mynd i ddod allan i helpu pobl yn enwedig yr economi ac ynni.
"Mae wedi bod yn amser anodd wrth gwrs ond dwi'n meddwl bod hi yn amser nawr i ddod at ein gilydd fel plaid."
Ond mae'r gwrthbleidiau yn feirniadol o'r hyn maen nhw wedi ei glywed yn ystod y frwydr am yr arweinyddiaeth.
Dywedodd yr aelod o Senedd Cymru dros Blaid Cymru, Delyth Jewell wrth Dros Ginio nad oedd gan Liz Truss "fandad ar gyfer y polisïau eithafol, creulon yma mae hi wedi bod yn dweud dros y penwythnos".
Neges debyg oedd gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y cynghorydd Llafur Huw Thomas.
"Dwi heb glywed unrhyw beth yn ystod yr wythnosau diwethaf gan Liz Truss na Sunak am sut maen nhw o ddifri' yn mynd i ddelio gyda beth sydd ar flaen meddwl miliynau o bobl heddiw sef costau byw.
"Ni wedi cael rhyw addewidion o ryw gynllun wythnos yma... ond does gen i ddim hyder yn Liz Truss i hyd yn oed adnabod y broblem sydd yn wynebu cymaint o deuluoedd ar draws Cymru ac ar draws Prydain."
Dywedodd Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig: "O bosib fod y Ceidwadwyr wedi newid eu harweinydd, ond ar ôl 12 mlynedd mewn grym yn Nhŷ'r Cyffredin mae'r Ceidwadwyr wedi dangos eu bod yn hesb o ran syniadau a ddim mewn cyswllt â phroblemau pobl gyffredin."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Medi 2022
- Cyhoeddwyd22 Awst 2022
- Cyhoeddwyd5 Medi 2022