Grand Canyon, Uluru ac Ynys Llanddwyn ar restr 100 gorau
- Cyhoeddwyd

Mae Ynys Llanddwyn (uchod) ar restr rhyngwladol sy'n cynnwys y Grand Canyon yn Arizona
Mae'r Grand Canyon yn America ac Uluru yn Awstralia wedi ymuno ag Ynys Llanddwyn ym Môn ar restr o safleoedd daearegol gorau'r byd.
Mae Ynys Llanddwyn, sy'n rhan o Warchodfa Natur Niwbwrch, yn un o 100 o lecynnau daearegol rhyngwladol sydd wedi eu dewis.
Dyma'r rhestr gyntaf erioed o Safleoedd Treftadaeth Daearegol i gael ei chyhoeddi gan UNESCO a chorff Undeb y Gwyddorau Daearegol.
Mae'r rhestr yn nodi safleoedd "allweddol a pherthnasol o safbwynt rhyngwladol a chyfraniad sylweddol i wyddoniaeth ddaearegol drwy hanes".
Daeth y cyhoeddiad yn gynharach yn y mis fod Ynys Llanddwyn ar y rhestr.
Ond bellach mae'r rhestr lawn wedi'i chyhoeddi, dolen allanol, sy'n dangos fod y Grand Canyon, y Giant's Causeway, Uluru - neu Ayers Rock - a Mynydd Sugarloaf yn Rio de Janeiro, i gyd ar y rhestr o 100.
'Cydnabyddiaeth arbennig'
Cafodd Ynys Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch eu ffurfio o gymysgedd o wahanol greigiau gan gynnwys lafa a charreg galch.
Y gred yw bod hyn wedi digwydd tua 500 i 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd ardal Llanwddyn ei hastudio gan ddaearegwyr am y tro cyntaf dros 200 o flynyddoedd yn ôl.

Mae daearegwyr o bob cwr o'r byd yn parhau i ymweld ag ardal Llanddwyn
Mae gwyddonwyr rhyngwladol yn parhau i ymweld â'r safle er mwyn gweld a yw eu gwahanol ddamcaniaethau am ddatblygiad daearegol yn dal dŵr.
Yn ogystal â nodweddion daearegol o bwys, mae Gwarchodfa Niwbwrch, sydd o dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gynefin pwysig gan gynnal ystod eang o fwyd gwyllt.
Dywedodd Raymond Roberts, Ymgynghorydd Arbenigol Cyfoeth Naturiol Cymru ar geoamrywiaeth, fod hyn yn "gydnabyddiaeth arbennig i Ynys Llanddwyn a Niwbwrch".
Mae'n golygu, meddai, bod yr ardal yn cael ei chydnabod ochr yn ochr â "safleoedd daearegol eiconig a phwysig ledled y byd".
Dywed UNESCO mai bwriad y rhestr yw hybu "gwell dealltwriaeth o ddatblygiad y ddaear ac i fagu cymdeithas fwy cynaliadwy".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Mai 2022
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2021