'Mwyafrif cartrefi gofal ond jyst yn goroesi nawr'
- Cyhoeddwyd
Mae ofnau y gallai cartrefi gofal gau ac y bydd gofal cleifion yn cael ei beryglu heb fwy o ofalwyr, yn ôl rhai sy'n gweithio yn y sector.
Mae cyflogau gwael yn rheswm y mae llawer yn credu bod recriwtio yn frwydr.
Mae'r gofalwr 25 oed, Jake Beach yn dweud ei fod wrth ei fodd gyda'i swydd yng nghartref gofal Hollies ym Mhontypridd.
Ond am £10 yr awr, nid yw'n hoff o'r cyflog.
"Dwi'n deffro bob bore ac yn teimlo fel bod gen i bwrpas mewn bywyd, dwi'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Ond mae fy nghyflog yn fy mhoeni i," meddai.
"Mae'n waith caled a dyw'r cyflog ddim digon da ar gyfer yr hyn rydyn ni'n ei wneud.
"Dwi ddim yn byw i'r eithaf a dweud y gwir, dwi jyst yn talu fy miliau ond dwi ddim yn cael fy ngadael gyda llawer ar ôl hynny.
"Mae angen mwy o bobl yn gweithio fel gofalwyr ac mae angen cymhellion gwell arnyn nhw.
"Gallen i weithio mewn archfarchnad yn stacio silffoedd am fwy o arian ond fyddai hynny ddim yn rhoi'r un teimlad o bwrpas i mi."
Ym mis Ebrill fe wnaeth Llywodraeth Cymru addo darparu arian er mwyn i weithwyr gofal gael y Cyflog Byw Gwirioneddol o £9.90.
Ond fis diwethaf fe gynyddodd y Cyflog Byw Gwirioneddol i £10.90 ac mae'n aneglur a fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r taliadau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wrth raglen Politics Wales yr wythnos ddiwethaf: "Rydym mewn trafodaethau ar hyn o bryd am a allwn, er gwaethaf yr holl bwysau anhygoel yma arnom, ddod o hyd i'r arian o rywle arall."
'Dymuno codi cyflogau staff'
Dywedodd Dr Bikram Choudhary, sy'n rhedeg cartref gofal Hollies a phedwar cartref arall ar draws de Cymru, nad yw erioed wedi cael cymaint o drafferth yn recriwtio staff.
Mae'n dweud ei fod eisiau cynyddu cyflogau staff ond bod prisiau ynni yn codi'n aruthrol a chostau byw yn cael effaith fawr ar gyllidebau tynn, ac mae'n pryderu am y dyfodol.
"Fel pawb yn ein cartrefi, rydyn ni'n cael argyfwng costau byw sy'n effeithio ar ein cartrefi gofal," meddai.
"Yn anffodus mae hyn wedi arwain at gau cartrefi gofal - mae un o gwmpas y gornel yma ym Mhontypridd newydd gau ac mae'n bryderus.
"Mae cau'r cartrefi gofal ry'n ni'n eu rhedeg wastad yn bryder ac mae nifer o resymau sut allai hynny ddigwydd.
"Os na allwch chi gael staff, allwch chi ddim rhedeg cartref gofal. Os na allwch chi dalu eich costau, allwch chi ddim rhedeg cartref gofal."
Mae llawer o ofal y preswylwyr yn y pum cartref y mae Dr Choudhary yn eu rhedeg yn dibynnu ar ffioedd sy'n cael eu talu gan yr awdurdodau lleol, ond mae'r ffioedd hynny'n wahanol o gyngor i gyngor.
Dywedodd Dr Choudhary: "Rydyn ni wastad mewn brwydr i gael cyllid digonol a theg.
"Mae unrhyw sôn am doriadau yn bryder gwirioneddol. Mae'r rhan fwyaf o gartrefi ond jyst yn goroesi nawr. Mae wir angen cefnogaeth ar sawl lefel."
'Y gweithlu wedi cyrraedd pwynt argyfwng'
Gillian Baranski yw Prif Arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru, sy'n rheoleiddio gofal cymdeithasol yng Nghymru. Dywedodd bod diffyg gofalwyr yn y gymuned hefyd yn bryder mawr.
"Gall olygu nad yw pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt, neu eu bod yn gorfod aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach, neu mae'n rhoi baich ofnadwy ar ofalwyr di-dâl," meddai.
"Mae'r gweithlu ym maes gofal cymdeithasol wedi cyrraedd pwynt argyfwng ac os na allwn ni ddenu mwy o bobl i'r sector yna mae perygl gwirioneddol na fydd awdurdodau lleol a darparwyr yn gallu ymgymryd â'u dyletswyddau statudol.
"Byddai hynny'n drasig. Dyma waith sy'n ganolog i'r gymdeithas."
Fe bwysleisiodd y Prif Arolygydd bod lefelau gofal gwael yn brin, a'u bod bob amser yn gweithredu arnyn nhw pan maen nhw'n dod i'r amlwg.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru eu bod yn parhau i alw am gyllid, ond fod cynghorau'n wynebu bwlch ariannol o £802m dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae'n anochel felly y bydd hynny'n effeithio ar wasanaethau, meddai, a bydd cydweithio yn allweddol wrth geisio eu hamddiffyn.
Yn ôl Darren Hughes o Gonffederasiwn y GIG, y corff sy'n cynrychioli arweinwyr y GIG yng Nghymru, mae diffyg gofalwyr yn cael effaith ehangach ar y sector iechyd.
"Mae heriau'r sector gofal cymdeithasol yn cael sgil effaith ar allu'r GIG i ddarparu gofal a thriniaeth i bobl," meddai.
"Dydyn ni ddim yn gallu rhyddhau pobl sy'n ffit i gael eu rhyddhau i ofal preswyl neu eu cartrefi eu hunain oherwydd dyw'r pecynnau cymorth ddim yna ar eu cyfer."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol er mwyn cefnogi recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol.
"Rydym hefyd wedi darparu £43m yn ychwanegol eleni i helpu sicrhau cyflogau teg i weithwyr gofal cymdeithasol a byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector i wella termau ac amodau."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd28 Medi 2022
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022