Chwyddiant am gael 'effaith andwyol' ar waith S4C
- Cyhoeddwyd
Mae un o benaethiaid S4C wedi cydnabod fod heriau ariannol mawr ar y gorwel wrth i chwyddiant frathu i'w chyllideb.
Gyda'r wythnos hon yn dynodi 40 mlynedd ers sefydlu'r sianel deledu Gymraeg, mae'r darlledwr yn bodoli o fewn byd cyfryngol gwahanol iawn erbyn hyn.
Tra mai dim ond pedair sianel oedd yn bodoli yng nghanol yr 80au, mae'r her yn un fwy nag erioed gyda chymaint o gystadleuaeth a llai o wylwyr teledu torfol.
Erbyn hyn mae cyllideb gyhoeddus S4C yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl drwy ffi drwydded y BBC, gyda Llywodraeth y DU wedi cyfrannu peth o gostau'r sianel yn flaenorol.
Ond er bod cyllid y sianel yn ddiogel am y bum mlynedd nesaf ar ôl sicrhau setliad o £7.5m ychwanegol y flwyddyn, mae pryderon y bydd y lefel uchel o chwyddiant yn arwain at benderfyniadau anodd i benaethiaid.
Yn gynharach eleni cadarnhaodd cyn-Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Nadine Dorries, y byddai 9% o gynnydd yng nghyllideb S4C wedi i'w chyllid gael ei rewi am bum mlynedd cyn hynny.
Ond gyda chwyddiant wedi codi'n uwch na 10% am yr eildro eleni, mewn cyfweliad ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru roedd cadeirydd S4C yn egluro fod heriau mawr yn parhau i wynebu'r sianel.
Dywedodd Rhodri Williams, sy'n gyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg a chyn-chyfarwyddwr Ofcom Cymru: "Y newyddion da yw bod gyda ni sicrwydd ariannol am gyfnod o bum mlynedd, sydd yn beth da.
"Pam glywon ni y newydd hynny rhyw gyfnod yn ôl, oedd e'n newyddion da iawn.
"Ond beth o'n ni ddim wedi paratoi ar ei gyfer bryd 'ny oedd chwyddiant ar y lefel mae e heddi, ac yn debygol o barhau am beth amser.
"Mae hynny yn sicr o gael effaith andwyol ar ein gwaith ni. Ry'n ni wrthi ar hyn o bryd yn gwneud darn o waith yn edrych 'mlaen dros bum mlynedd ac yn trial gweithio mas beth yn gwmws fydd effaith y chwyddiant hwnnw."
Canolbwyntio ar gyrraedd pobl ifanc
Ychwanegodd bod heriau eraill yn wynebu'r sianel i sicrhau amlygrwydd i gynnwys yn yr iaith Gymraeg ar-lein, gyda phobl ifanc "prin y gwylio teledu llinol o gwbl".
"Mae'n rhaid mynd ati i ddysgu ble mae pobl yn edrych, pa fath o hyrwyddo a marchnata sydd yn eu cyrraedd nhw a defnyddio'r technegau hynny yn effeithiol," meddai Mr Williams.
Yn cydnabod y bydd trafodaethau am ddyfodol y drwydded dros y blynyddoedd nesaf, dywedodd Mr Williams nad yw'r system bresennol "yn berffaith", ond "fod y fformiwla bresennol yn gweithio".
Serch hynny, mae'n credu bod lle i edrych ar y ffaith fod y teuluoedd tlotaf a'r mwyaf cyfoethog oll yn talu'r un faint am ddarlledu cyhoeddus.
Ychwanegodd fod "cefnogaeth o bob plaid" tuag at ddyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg.
"Bydd 'na ddewisiadau anodd ac i fi cadw'r safon - sicrhau fod 'na raglenni gafaelgar yna - sydd yn gorfod cael y flaenoriaeth," meddai.
"Felly os ydy hynny'n golygu cwtogi rhywfaint ar yr arlwy, cynyddu'r nifer yr ailddarllediadau ar ein gwasanaeth llinol... dyw ailddarllediadau ddim yn bod yn y byd digidol - mae popeth yna am gyfnod hir - ond os dy'n ni'n gorfod gwneud hynny dwi'n credu dyna fydd rhaid gwneud.
"Ar ddiwedd y dydd does 'na ddim pwrpas o gwbl i wanhau ansawdd y gwasanaeth i'r graddau bod neb yn dymuno edrych ar ein cynnyrch ni.
"Dyna fydd y flaenoriaeth a dwi'n gobeithio erbyn yn gynnar yn y flwyddyn newydd, pan fyddwn yn gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd yn economaidd, byddwn ni mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau strategol - rhai falle yn rai anodd - i sicrhau bod yr hyn sydd ganddon ni yn parhau i fod yn ddeniadol i siaradwyr Cymraeg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2022