Cau Pont y Borth am hyd at 16 wythnos am gael 'effaith enfawr'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae angen "sgwrs ehangach" am effaith cau'r bont, meddai arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn yn dweud y bydd cau Pont y Borth tan y flwyddyn newydd yn cael "effaith enfawr" yn lleol ac ar gyfer y DU gyfan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bod angen cau y bont - un o ddwy sy'n cysylltu Môn gyda'r tir mawr - yn dilyn cyngor gan beirianwyr Priffyrdd y DU.

Fe gaeodd y bont am 14:00 brynhawn Gwener a than y bydd yn cael ei hailagor bydd cerbydau yn cael eu dargyfeirio dros Bont Britannia.

Mae'r droedffordd ar agor i gerddwyr a seiclwyr sy'n dod oddi ar eu beics.

Roedd trafferthion traffig difrifol wedi i'r bont gau ddydd Gwener, gyda chiwiau hir ar nifer o ffyrdd yn ardal Bangor.

Mae trafferthion yn yr ardal eto fore Llun, gyda gwrthdrawiad ar yr A55 i gyfeiriad y dwyrain ger Pont Britannia yn gwaethygu'r sefyllfa.

Mae busnesau lleol hefyd wedi beirniadu'r diffyg rhybudd, gan ragweld trafferthion mawr tan i'r bont ailagor.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Bont y Borth fod ar gau tan y flwyddyn newydd i alluogi "gwaith cynnal a chadw hanfodol"

Mae'r AS Ceidwadol lleol Virginia Crosbie yn dweud y bydd cwestiynau brys yn cael eu cyflwyno yn San Steffan a'r Senedd ar y mater.

"Bydd hyn yn cael effaith enfawr nid yn unig ar Ynys Môn ond ar gyfer y DU gyfan yn nhermau ein hisadeiledd," meddai Ms Crosbie.

"Fe fyddwn ni'n ysgrifennu llythyr ar y cyd at [y prif weinidog] Mark Drakeford er mwyn darganfod beth ar wyneb y ddaear sydd wedi mynd o'i le.

"Pam na gafon ni unrhyw ragrybudd am hyn, a pham fod y cynllun yma'n mynd yn ei flaen?"

Disgrifiad o’r llun,

Roedd ciwiau mawr i gyrraedd Pont Britannia o ochr Ynys Môn fore Llun

Ychwanegodd ei bod eisiau cynllun gwell mewn lle er mwyn sicrhau y bydd pobl yn gallu mynd a dod rhwng Gwynedd a Môn yn ddiogel, a heb orfod ciwio am oriau.

"Rwy'n edrych am sicrwydd y bydd y gweithwyr allweddol sy'n gweithio yn Ysbyty Gwynedd yn gallu cyrraedd yr ysbyty," meddai.

"Ac rydw i eisiau cynllun i sicrhau y bydd modd i bobl yn fy etholaeth gael ambiwlans os ydyn nhw angen un - mae angen cynllun gweithredu yma."

Galw am gynllun hirdymor

Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, ei bod hi ond wedi cael gwybod bod y bont ar fin cau mewn "galwad i gyfarfod brys amser cinio" ddydd Gwener.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Llun, dywedodd mai ei phrif bryder ynglŷn â chau'r bont am gyhyd yw'r effaith y gallai hynny ei gael ar wasanaethau brys, ond bod y sefyllfa ddiweddaraf yn pwysleisio'r angen am gynllun hirdymor hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pont y Borth ar agor i gerddwyr a seiclwyr sy'n dod oddi ar eu beics yn unig

"Mae'r prif ysbyty ochr arall i'r bont, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod y staff yn gallu cyrraedd eu gwaith a chleifion yn gallu cael yno," meddai.

"Mae angen sgwrs yn ehangach ynglŷn â sut ydan ni'n rhoi gwell gwytnwch - mae hon yn briffordd o'r porthladd yng Nghaergybi i'r Deyrnas Unedig.

"Heneiddio mae Pont Menai - er pa mor hardd ydy hi - felly mae angen cael trefn yn ei le a bod y llywodraeth yng Nghymru rŵan yn ystyried o ddifri' be' ydy'r cynlluniau gorau er mwyn rhoi'r gwytnwch yna i bobl Ynys Môn.

"Mae trydedd bont wedi bod ar y bwrdd o'r blaen... y posibilrwydd o roi tair ffordd ar Bont Britannia - dyna'r math o gynlluniau 'da ni angen yn eu lle rŵan.

"Dim eu trafod nhw a'u rhoi nhw nôl ar y silff. Dim Ynys Môn yn unig mae hyn yn effeithio - mae'n effeithio ar economi y Deyrnas Unedig. Mae sicrhau symudiad nwyddau o Gaergybi i'r DU yn hanfodol."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gymrodd sawl awr i rai staff lwyddo i adael maes parcio Ysbyty Gwynedd nos Wener oherwydd y ciwiau

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Hinsawdd, Lee Waters AS, ddydd Gwener fod y "gwaith brys hwn yn cael ei wneud er diogelwch y cyhoedd".

"Yn anffodus nid oes modd ei osgoi ond rydym yn gwbl ymwybodol o'r oblygiadau i bobl yn yr ardal leol," meddai.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda UK Highways i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn ddiogel ac mor gyflym â phosib, gan darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio ar "gynlluniau wrth gefn" i Bont Britannia yn sgil cau Pont Menai.

"Fe wnaeth UK Highways argymell cau'r bont ar unwaith oherwydd pryderon difrifol ynghylch diogelwch, ac i ganiatáu i waith atgyweirio hanfodol ddigwydd," meddai llefarydd.

"Rydyn ni'n llwyr ymwybodol o'r goblygiadau i bobl yr ardal ac rydym yn gweithio'n agos gydag UK Highways i sicrhau fod y gwaith yn cael ei wneud mor gyflym â phosib.

"Rydyn ni hefyd yn gweithio ar gynlluniau wrth gefn i gynyddu gwytnwch ar Bont Britannia, allai gael eu gweithredu'n sydyn petai'r angen yn codi."