'Breuddwyd' gwylio Neco Williams yng Nghwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Neco Williams yn fabiFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y freuddwyd o gael chwarae i Gymru yno ers blynyddoedd i Neco Williams a'i deulu

"Mae gwylio fy mab yn chwarae pêl-droed dros Gymru yn freuddwyd."

Fel miloedd o gefnogwyr eraill, bydd rhieni Neco Williams allan yn Qatar wrth i Gymru gystadlu yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf mewn 64 mlynedd.

Mae cariad y bachgen o Gefn Mawr tuag at y bêl gron wedi bod yno ers pan yr oedd yn ifanc iawn, ac mae cynnwrf y teulu yn amlwg wrth i'r gystadleuaeth agosáu.

"I ni fel teulu, ffrindiau a'r gymuned, 'da ni gyd mor gyffrous," meddai ei fam, Emma.

Penderfyniad mawr

Bellach yn chwarae i Nottingham Forest yn Uwch Gynghrair Lloegr, mae Neco Williams wedi sicrhau ei le fel rhan annatod o garfan y tîm cenedlaethol - ac yntau ond yn 21 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee ac Emma Williams yn bwriadu hedfan allan i Qatar i gefnogi Neco a gweddill tîm Robert Page

Disgrifiad o’r llun,

Y fflag y mae'r teulu yn bwriadu ei arddangos yn y stadiwm

Yn gyfforddus fel amddiffynnwr ar y ddwy asgell, bydd cyn-ddisgybl Ysgol Rhiwabon yn gobeithio ychwanegu at ei 23 cap rhyngwladol o flaen llygaid y byd yn y Dwyrain Canol.

Pan oedd mor ifanc â chwe blwydd oed roedd ganddo benderfyniad mawr i'w wneud, gyda sgowtiaid o dimau fel Wrecsam, Tranmere Rovers ac Everton eisoes yn ceisio cysylltu gyda'i dad, Lee.

Ond roedd dau dîm yn benodol yn sefyll allan i'r llanc ifanc.

"Erbyn roedd yn wyth oed roedd ganddo benderfyniad i'w wneud, un ai i fynd i Manchester United neu Lerpwl," dywedodd Lee.

"Rwy' wedi bod yn gefnogwr Manchester United ers pan roeddwn yn ifanc ond dywedais fod y penderfyniad i fyny iddo fo.

"Yn amlwg roedd yn well ganddo fo Lerpwl, roedd yn dod ymlaen yn well gyda'r hogia' yno."

Er gwneud 33 ymddangosiad i Lerpwl ac ennill y gynghrair yn 2019/20, fe benderfynodd adael dros yr haf yn dilyn cyfnod ar fenthyg gyda Fulham.

Disgrifiad,

Dywed Cledwyn Ashford fod Cymru wedi bod yn gweithio yn galed ar ddatblygu talentau ifanc ers 1991.

Roedd talentau Neco Williams yn amlwg pan oedd o'n fachgen ifanc iawn, yn ôl Cledwyn Ashford, sy'n aelod o dîm sgowtio Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Wrecsam.

"Ddes i ar ei draws o yn y tîm rhanbarthol yn y gogledd pan oedd o ryw 12 oed," meddai ar Dros Frecwast.

"O'n i'n lwcus o'n i'n gweithio hefo rheiny hefyd ac oeddach chi'n gweld yn syth bin fod o'n fachgen bach sbesial."

Ond nid Neco yw unig bêl-droediwr y teulu, gyda'i frawd Keelan hefyd yn chwarae i Burnley.

Ychwanegodd eu tad: "'Dan ni jyst yn gobeithio bydd o'n cael ei gyfle hefyd, gan mai dyna fysa'r freuddwyd fawr - gweld y ddau yn chwarae dros Gymru."