Port Talbot: Arestio dau wedi fandaleiddio hiliol

  • Cyhoeddwyd
graffiti
Disgrifiad o’r llun,

Y graffiti hiliol gafodd ei baentio dros y murlun ym Mhort Talbot

Mae Heddlu'r De wedi arestio dau fachgen yn eu harddegau ar amheuaeth o ddifrod troseddol gyda chymhelliad hiliol a chrefyddol ym Mhort Talbot.

Daw ymchwiliad yr heddlu wedi i furlun yn y dref sy'n dathlu'r gymuned Garibïaidd leol gael ei fandaleiddio gyda graffiti hiliol ddiwedd mis Hydref.

Mae'r llanciau, o Bort Talbot a Thonyrefail, yn cael eu holi yn y ddalfa.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu'r De fod swyddogion hefyd yn archwilio eiddo yn yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Erbyn mae gwirfoddolwyr wedi adfer y murlun gwreiddiol a chael gwared ar y graffiti

Dywedodd yr uwch-arolygydd Stephen Jones: "Ni fyddwn yn goddef gweithredoedd casineb o'r fath yma."

Cafodd y murlun, sy'n rhan o Lwybr Celf Stryd Port Talbot ei beintio gyda geiriau hiliol a swastika Natsïaidd.

Erbyn hyn mae gwirfoddolwyr wedi adfer y murlun gwreiddiol.