Port Talbot: Fandaleiddio murlun â graffiti hiliol

  • Cyhoeddwyd
graffiti
Disgrifiad o’r llun,

Y graffiti hiliol gafodd ei baentio dros y murlun ym Mhort Talbot

Mae trigolion Port Talbot wedi mynegi eu dicter wedi i furlun yn y dref gael ei fandaleiddio gyda graffiti hiliol.

Roedd y gwaith celf wedi cael ei wneud yn ddiweddar, fel rhan o Lwybr Celf Stryd Port Talbot, i ddathlu'r gymuned Garibïaidd leol.

Ond fore Gwener fe welwyd bod geiriau hiliol a swastika Natsïaidd wedi eu paentio ar y murlun, ac fe gafodd cyfarfod brys ei drefnu yn y gymuned.

Yn dilyn hynny fe aeth aelodau o grŵp ARTwalk Port Talbot ati i lanhau'r graffiti ac adfer y murlun gwreiddiol y gorau allen nhw.

Roedd yr actores Jalisa Phoenix-Roberts yn un o'r rhai cyntaf i weld y murlun wedi iddo gael eu fandaleiddio.

"Pan mae e ar eich stepen drws chi mae'n teimlo'n waeth," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Erbyn ddydd Sadwrn roedd gwirfoddolwyr wedi adfer y murlun gwreiddiol a chael gwared ar y graffiti

"Falle mod i ychydig yn ddiarwybod wrth feddwl bod y math yma o beth ddim yn digwydd ym Mhort Talbot bellach.

"Ond mae e yn, mae e wedi, ac mae e wedi ypsetio'r gymuned yn ehangach, nid yn unig cymuned ddu Port Talbot."

Mae'r gwirfoddolwyr wedi apelio ar unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i ddod yn eu blaenau, ac mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio.

"Mae hwn yn drosedd casineb ffiaidd na fydd yn cael ei oddef," meddai'r prif uwcharolygydd, Trudi Meyrick.

"Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i ddod o hyd i'r bobl sy'n gyfrifol am y graffiti yma."

Pynciau cysylltiedig