Metro De Cymru: Oedi pellach ar uwchraddio’r rheilffordd
- Cyhoeddwyd
Bydd oedi pellach i'r gwaith o uwchraddio rheilffordd de Cymru.
Yn cael ei adnabod fel Metro De Cymru, bydd y cynlluniau gwerth £750m yn gweld llawer o rwydwaith rheilffordd y cymoedd yn cael ei drydaneiddio.
Roedd disgwyl iddo gael ei orffen yn 2023 ond mae Llywodraeth Cymru nawr yn dweud y bydd y "mwyafrif" o'r gwaith wedi'i orffen yn 2024.
Nid yw'n glir pryd y bydd y gwaith sy'n weddill wedi'i gwblhau, gyda Covid a chostau cynyddol deunyddiau yn cael eu beio.
Daw'r newyddion am yr oedi wrth i'r llinellau trydan cyntaf gael eu gosod.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn gosod 170km (105 milltir) o offer yn cynnwys pyst metel a gwifrau, ar linellau Treherbert, Aberdâr, Merthyr, Rhymni, Coryton, y Bae a'r Ddinas.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys cerbydau newydd, gan gynnwys trenau tram ar linellau o Gaerdydd i Dreherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful.
Mae addewidion am deithiau cyflymach, mwy o gapasiti i deithwyr ar drenau, gwasanaethau amlach a mwy dibynadwy a chysylltiadau gwell.
Y llynedd dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price, y byddai'r prosiect yn cael ei ohirio am "fisoedd, nid blynyddoedd", oherwydd Covid.
Tynnwyd gweithrediad rhwydwaith trenau Trafnidiaeth Cymru allan o ddwylo preifat yn ystod y pandemig.
Anogodd Trafnidiaeth Cymru y cyhoedd i gadw'n glir o'r llinellau trydan newydd, a dywedodd fod tresmaswyr mewn perygl o ddirwy o £1,000.
Dywedodd Leyton Powell, cyfarwyddwr diogelwch a chynaliadwyedd: "Mae gosod y llinellau trydan cyntaf yn gam mawr ymlaen i ni yn Trafnidiaeth Cymru ac unwaith y bydd wedi'i gwblhau, bydd y rhaglen waith hon yn darparu trafnidiaeth wyrddach ar gyfer y dyfodol.
"Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn tynnu sylw at y ffaith bod gwaith trydaneiddio bellach ar y gweill ac felly rhaid i'r cyhoedd ddeall y risgiau a'r peryglon.
"Fel bob amser, mae tresmasu ar y rheilffordd yn beryglus ac mae'n bwysig bod pobl yn ufuddhau i'r rheolau fel ag y maen nhw er eu diogelwch eu hunain."
Ariennir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac mae hefyd wedi derbyn arian gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaethaf oedi i'r gwaith ar drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd a achosir yn bennaf gan y pandemig a'r cyfyngiadau o ran cyflenwad deunyddiau byd-eang, mae cynnydd yn cael ei wneud yn gyflym nawr.
"Mae disgwyl i drenau newydd Stadler 231 gael eu cyflwyno ym mis Ionawr ac mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ar Fetro De Cymru i fod i gael ei gwblhau yn 2024."
Gofynnodd BBC Cymru a oedd Llywodraeth Cymru yn awgrymu y byddai rhywfaint o'r gwaith yn cael ei orffen yn hwyrach na 2024, ond ni wnaeth sylw pellach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020