Rhyd-wyn: Colin Milburn yn gwadu llofruddio Buddug Jones

  • Cyhoeddwyd
Buddug JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Buddug Jones o anafiadau difrifol i'w phen ym mis Ebrill 2022

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei gymar wrth iddi orwedd yn ei gwely ar Ynys Môn wedi dweud wrth reithgor: "Wnes i mo'i lladd hi."

Cafwyd hyd i gorff Buddug Jones, 48, yn y tŷ roedd hi'n ei rannu hefo Colin Milburn ym mhentref Rhyd-wyn yng ngogledd yr ynys ym mis Ebrill.

Roedd hi wedi cael anafiadau trychinebus i'w phen ar ôl cael ei tharo gydag arf trwm.

Mae Mr Milburn, 52, wedi gwadu ei llofruddio.

Clywodd yr achos yn Llys y Goron Caernarfon fod Mr Milburn wedi bod yn cysgu yn ei gar yr wythnos cyn i Ms Jones gael ei lladd, ar ôl i'r pâr ffraeo.

Roedd hi wedi cael ei harestio yn eu cartref am ymosod wedi'r digwyddiad hwnnw.

Clywodd y rheithgor fod Mr Milburn wedi cyhuddo ei gymar o dros 30 mlynedd o gael perthynas gyda dyn arall, rhywbeth yr oedd hi'n ei wadu.

Clywodd y llys for Mr Milburn wedi dychwelyd i'r tŷ dair gwaith y diwrnod y bu hi farw.

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Mae Colin Milburn yn gwadu lladd ei gymar yn eu cartref yn Rhyd-wyn

Wrth roi tystiolaeth fel rhan o'i amddiffyniad, honnodd Mr Milburn ei fod wedi mynd yno'r tro cyntaf i adael dillad i gael eu golchi, gan ddychwelyd yn fuan wedyn i nôl y golch, oedd dal yn fudr, o'r tu allan i'r tŷ.

Dywedodd nad oedd wedi mynd i mewn y tro hwnnw, tua 07:20.

"Roedd y llenni wedi cau a doeddwn i ddim eisiau tarfu arni", meddai.

Clywodd y llys fod Mr Milburn wedyn wedi mynd i weithio, gan ddychwelyd am y trydydd tro toc cyn 11:00.

"Mi es i sortio pethau hefo Buddug - i fynd adref," meddai.

'Gwaed drosti ym mhobman'

Dywedodd Mr Milburn ei fod wedi mynd i mewn drwy ddrws cefn, oedd yn agored: "Mi waeddais i. Mi alwais ar Buddug. Es i fyny'r grisiau.

"Ges i hyd iddi yn y stafell wely."

Yn ei ddagrau, dywedodd fod ei gymar yn y gwely "hefo gwaed drosti ym mhobman".

Dywedodd ei fod wedi mynd i gael help gan gymdogion, ac mai dyna pryd y gwnaeth o dynnu Ms Jones ato ar y gwely.

"Nes i drïo aros hefo hi. Nes i drïo'i helpu hi", meddai.

Clywodd y rheithgor i Mr Milburn adael wedi hynny i nôl ei feibion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffiynydd yn dweud iddo ddod o hyd i Buddug Jones yn y gwely "hefo gwaed drosti"

Pan ddychwelodd roedd yr heddlu yno, ac mi gafodd ei arestio fel rhan o ymchwiliad llofruddiaeth.

Pan ofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad Jonathan Rees KC iddo esbonio sut bod gwaed ei gymar ar ei ddillad, a staen gwaed ar garped y grisiau, dywedodd: "Dwi ddim yn gwybod."

Gofynnodd Mr Rees iddo wnaeth o ladd Buddug Jones. Atebodd: "Na, wnes i mo'i lladd hi."

Wrth gael ei groesholi gan fargyfreithiwr yr erlyniad, Gordon Cole KC, mynnodd eto nad oedd wedi lladd Ms Jones ac nad oedd yn teimlo unrhyw gyfrifoldeb am ei marwolaeth.

Mae'r achos yn parhau.