Dyn yn gwadu llofruddio dynes 48 oed ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Buddug JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Disgrifiwyd Buddug Jones fel y "fam, nain a'r chwaer orau y gallai unrhyw un ofyn amdani"

Mae dyn o Ynys Môn wedi pledio'n ddieuog i lofruddio dynes 48 oed ar yr ynys.

Cafodd corff Buddug Jones ei ddarganfod mewn tŷ ym Maes Gwelfor ym mhentref Rhyd-wyn yng ngogledd yr ynys ar 22 Ebrill.

Ymddangosodd Colin John Milburn, sy'n 52 oed ac hefyd o'r pentref, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug trwy gyswllt fideo o Garchar Berwyn Wrecsam ddydd Llun.

Mae'n gwadu llofruddio Ms Jones ac mae disgwyl i'r achos yn ei erbyn ddechrau ar 17 Hydref yng Nghaernarfon.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Buddug Jones ei ddarganfod mewn tŷ ym Maes Gwelfor ym mhentref Rhyd-wyn fis Ebrill

Mae cwest i'w marwolaeth wedi clywed fod Ms Jones wedi'i chanfod yn ei gwely gydag anaf difrifol i'w phen.

Mae'r cwest wedi cael ei ohirio tra bo'r ymchwiliad yn mynd rhagddo.