£7m i addysg Gymraeg i'w wneud 'yn opsiwn i bawb'
- Cyhoeddwyd
Bydd 11 o o ysgolion a phrosiectau addysgol a gofal plant yn elwa o fuddsoddiad £7m i sicrhau mwy o gyfleon ar gyfer addysg Gymraeg.
Fel rhan o'r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, bwriad y cynllun yw galluogi mwy o ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau ieithyddol.
Gyda pheth o'r arian yn mynd tuag at sefydlu unedau gofal plant newydd, dywedodd y Gweinidog dros y Gymraeg ei fod yn "hollbwysig rhoi'r genhedlaeth nesaf wrth wraidd ein cynlluniau".
Ychwanegodd Jeremy Miles: "Rwy am i addysg Gymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwy am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru."
Un o'r ysgolion fydd yn elwa yw Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn Nhorfaen, lle mae gwaith ar droed i gefnogi cymunedau lleol i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg.
Mae'r ysgol eisoes wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru am ystafell ffitrwydd, ond bydd yr arian ychwanegol yn caniatáu i'r ysgol wella'i chyfleusterau ymhellach gyda chae 4G a llif oleuadau.
Gyda thua 750 o ddisgyblion yn yr ysgol, daw dros 90% ohonyn nhw o gartrefi di-Gymraeg. Y nod yw sicrhau bod adnoddau'r ysgol cystal ag unrhyw ddarpariaeth mewn ysgol cyfrwng Saesneg.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd pennaeth cefnogol yr ysgol, Mark Jones: "Yn draddodiadol mae ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi gwasanaethu dalgylch eang iawn felly dydyn ni ddim wastad wedi bod yn ysgolion ar gyfer y gymuned leol.
"Ni 'di agor i fod yn ysgol 3-19 ers mis Medi... mae hwnna'n golygu bod 'da ni bobl lleol yn danfon eu plant i'r darpariaeth cynnar sydd 'da ni hefyd, felly mae'n sydyn wedi datblygu enw'r ysgol fel un yn y gymuned ar gyfer y gymuned, yn hytrach na'r ysgol Gymraeg sy'n gwasanaethu tu hwnt i'r gymuned leol.
"Mae nifer y dysgwyr sy'n cofrestru ar gyfer ein darpariaeth cynnar yn cynyddu, dechreuon ni 'efo 12 person gyda diddordeb yn y meithrin a derbyn ar gyfer mis Medi, ni lan i 23 yn barod a byddwn lan i 30 yn Ionawr.
"Bydd hynny'n tyfu'r ddarpariaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg trwy'r system addysg ei hun... mae cael adnoddau arbennig fel hyn yn ddeniadol tu hwnt i'n dysgwyr sy'n gadael blwyddyn 11 wrth gwrs."
'Dechreuad arbennig'
"Ni nawr yn gallu cystadlu gyda'r adnoddau arbennig sydd ar gael yn y sector ôl-16 cyfrwng Saesneg, sydd wrth gwrs yn galluogi ni i dyfu'n darpariaeth ôl-16 hefyd.
"Allech chi wastad gael mwy o arian ond mae [y £7m] yn ddechreuad arbennig ac yn dda o ran hadu pethau, bydd yr adnodd ei hun yn dwyn ffrwyth ar gyfer yr ysgol a hefyd ar gyfer rhai agweddau o ran datblygiad y gymuned leol.
"Mae hwnna wedyn yn ennyn diddordeb i bobl ymgysylltu â'r Gymraeg... ac ymledu'r Gymraeg mewn cymunedau falle sydd ddim yn draddodiadol yn Gymraeg."
Cynlluniau eraill
Ymysg y cynlluniau eraill fe fydd cyfleuster newydd ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar yn Ysgol Pennant a Chylch Meithrin Penybontfawr ym Mhowys.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot bydd gwaith i sefydlu ysgol ddechreuol Gymraeg newydd yn Ysgol Gynradd yr Abaty, a chanolfan cymorth dysgu cyfrwng Cymraeg newydd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Trebannws.
Ar Ynys Môn bydd unedau gofal plant newydd a dosbarthiadau ychwanegol i gryfhau darpariaeth Gymraeg Ysgol Llanfawr, Caergybi ac Ysgol y Graig yn Llangefni.
Bydd estyniad newydd yn Ysgol Bro Aled, Sir Conwy, i ddarparu lle i Gylch Meithrin Llansannan, a bydd neuadd chwaraeon newydd ar gyfer Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd.
Yng Nghaerdydd bydd canolfan adnoddau arbennig yn Ysgol Glantaf, adnewyddu ystafelloedd dosbarth yn Ysgol Bro Edern ac uned dros dro i gynnig mwy o lefydd yn Ysgol Plasmawr.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: "Rwy'n falch o weld y cynlluniau ar gyfer prosiectau newydd a fydd yn cefnogi plant a phobl ifanc o bob oedran ledled Cymru.
"Os ydyn ni'n mynd i gyrraedd ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n hollbwysig ein bod ni'n rhoi'r genhedlaeth nesaf wrth wraidd ein cynlluniau.
"Mae fy neges i'n glir, rwy am i addysg Gymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwy am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2021