Ateb y Galw: Mared Llywelyn

  • Cyhoeddwyd
Mared LlywelynFfynhonnell y llun, Mared Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mared Llywelyn

Mared Llywelyn o Forfa Nefyn, Pen Llŷn, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Mared Gwyn.

Mae Mared yn ddramodydd, yn gwneud gwaith ysgrifennu amrywiol ac yn aelod o Gwmni Tebot. Mae'n gweithio fel Swyddog Addysg a Gwirfoddoli ym Mhlas Carmel, Anelog.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd i siop John Gwilym yn Efailnewydd, ac yntau'n sefyll tu ôl i'r cownter, â clorian arno fo. Ro'n i'n cael fy ngwarchod yn Efailnewydd, mae'n rhaid fy mod i tua dwy oed.

Ymddangosodd fideo ar Facebook ychydig yn ôl o ryw raglen oedd wedi cael ei ffilmio yn y siop - a mi ddaeth yr atgofion nôl mewn un ton fawr.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Trwyn Porthdinllaen, yn sbio i'r gorllewin ar noson o wanwyn neu haf (heb 'run enaid o gwmpas, sydd ddim yn digwydd yn aml iawn yn Morfa…)

Mae Aberystwyth hefyd efo lle arbennig yn fy nghalon.

Disgrifiad o’r llun,

Trwyn Porthdinllaen ym Morfa Nefyn

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae sawl noson yn Aber sydd wedi para tan yr oriau mân yn dawnsio a malu awyr yn yr Angel a Lip Lickin' Chicken. Ond yr un sydd wastad yn aros yn y cof ydi nos Sadwrn ola' Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yng Nghlwb Ifor. Bob Delyn a'r Ebillion a Geraint Jarman - hedleinyrs breuddwydion - yn cloi. Wedyn roedd DJ llawr uchaf Clwb yn chwara tiwn ar ôl tiwn o ganeuon roc ac indi. Pawb yn chwys doman. Gwych!

O ran noson sydd heb fod yn barti, roedd cael gweld yr Aurora Borealis yng Ngwlad yr Iâ yn brofiad anhygoel.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Creadigol. Sensitif. Chwit-chwat.

Ffynhonnell y llun, Mared Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Pan aeth Mared i weld yr Aurora Borealis yng Ngwlad yr Iâ

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Anturiaethau fy ffrind, yn Sesiwn Fawr 2016. Ges i alwad ffôn gan blismon yn gofyn i ni fynd i'w nôl o'r garej yn Dolgella, finna'n deud 'Callia, pwy sy 'ma?' yn meddwl mai jôc oedd o. Doedd y 'rhen Firiam ddim mewn stad rhy dda.

Nes i gyrraedd yno, Miriam a'r plismyn erbyn hynny yn swp sâl - a gafon ni lifft yn ôl i'r maes campio yn y car plisman. Dydi'r stori ddim yn diweddu'n fana ond dwi'n deud dim mwy.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae'n gysylltiedig â'r digwyddiad uchod. Yn Eisteddfod Llanrwst o'n i'n cymryd rhan yn y Stomp Werin yn y rownd dweud stori. Nes i ddim meddwl gormod am y peth ond pan welis i faint o bobl oedd yn y gynulleidfa nes i banicio, ond roedd hi'n rhy hwyr i dynnu nôl. Naethon nhw alw fy enw a dyma fi'n camu o flaen tua 150 o bobl. Y stori oedd gen i oedd un Miriam yn Sesiwn Fawr, a mynd amdani go iawn efo'r mŵfs a'r synau.

Ac i'n meddwl i, doedd 'na neb yn chwerthin, mond sbio arna' i a siŵr o fod yn cwestiynu be ddiawl o'n i'n ei wneud. Er i'n ffrindiau i ddweud eu bod nhw yn chwerthin a rhai eraill hefyd, roedd y llwyfan yn teimlo fel lle unig iawn ac o'n i wir isio iddo fy llyncu.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wythnos dwytha, pan fu farw Cadi y gath.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dwi'm yn siŵr, ond fysa'r diwrnod yn gorffen yn Nhrwyn Porthdinllaen, efo Lleu y ci wrth fy ochr.

Ffynhonnell y llun, Mared Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Lleu y ci a Llŷn yn y cefndir

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Wastad yn llwyddo i fod yn hwyr i bob man. Ben set yn gneud petha. Mynd i ngwely yn llawer rhy hwyr a doom scrolio… 'da chi isio mwy?!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Anodd dewis hoff nofel felly â' i am Sarah Kane: Collected Plays, sy'n rhoi cymaint o ysbrydoliaeth.

Ffilm: Short Cuts, sy'n addasiad gan Robert Altman o straeon byrion Raymond Carver.

Podlediad: Gwrachod Heddiw, Dewr, Colli'r Plot, The High Low, How to Fail.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Taid John a Taid Dic. Oni'n meddwl y byd o'r ddau, a 'swn i wrth fy modd yn medru holi'r holl gwestiynau sydd gen i iddyn nhw rŵan am eu bywydau.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mae 'na griw ohonom yn mynd ar dripiau Wêls Awê efo'n gilydd, sydd wastad yn dripiau llawn chwerthin, straeon, pethau'n mynd o'i le, pethau hollol random yn digwydd. Be' sy'n wych ydi bod y tripiau yma'n mynd a chi i lefydd na fysach chi'n mynd fel arfer - fel y llun yma ohonom yn Tbilisi, Georgia. Cael profi diwylliannau gwahanol a hynny ynghanol Y Wal Goch. Er mai adra bydd rhan fwya ohonom yn gwylio Cwpan y Byd, dwi'n siŵr y cawn ni hwyl 'run fath!

Ffynhonnell y llun, Mared Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mared (canol) a'i ffrindiau wedi bod yn dilyn Cymru oddi cartref ers rhai blynyddoedd bellach

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Fues i'n byw am dair wythnos yn y flwyddyn 1525 fel morwyn cegin ar raglen Y Llys.

Yn ôl fy nheulu a ffrindiau ddaeth i'n cyfarfod ar ddiwrnod olaf ffilmio, roeddan ni gyd yn hymian.

Ac i'r rhai sydd ddim yn gwbod, dw i methu ynganu 'r'.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Mhairi Black. Gwleidydd arbennig. Fyswn i wrth fy modd yn medru siarad mor huawdl a hi.

Neu Kim Kardashian.